Telyn Seion sef Pedwar ar Bymtheg o Garolau Nadolig (testun cyfansawdd)
← | Telyn Seion sef Pedwar ar Bymtheg o Garolau Nadolig (testun cyfansawdd) golygwyd gan Hugh Humphreys, Caernarfon |
→ |
I'w darllen can wrth gân gweler Telyn Seion sef Pedwar ar Bymtheg o Garolau Nadolig |
TELYN SEION;
SEF,
PEDWAR-AR-BYMTHEG O GAROLAU
NADOLIG,
AR WAHANOL FESURAU, SEF—
1. Tempest of War
GYN'LLEIDFA gariadus, cyd-ganwn fawl melus
2. Trymder
DEFFROWN, deffrown, a rho'wn fawrhad
3. Grisial Ground
FE greodd Duw ddyn, yn lanwaith ei lun
4. Difyrwch Gwŷr Trefaldwyn
CYDUNED pob doniau, yn forau un fwriad
5. Arglwyddes trwy'r Coed
GWRANDAWN ar leferydd y newydd yn awr
6. Ymadawiad y Brenin
I GADW gwyliau yn un galon
7. Difyrwch Gwŷr Caernarfon
DIHUNED plant y dyfnder du
8. Blue Bell of Scotland
WEL ganwyd Crist y Gair
9. Malldod Dolgellau.
PAN anwyd Iesu yn mhreseb Bethl'em
10. Ymdaith Rochester
DEFFROWN yn ystyriol i ganu'n blygeiniol
11. Sawdl Buwch
CYDGANED yr eneidiau sydd tan eu beichiau'n byw
12. Miller's Key
NAC ofnwch, rai sy'n effro
13. The Bird
DEFFROWCH yn llon, breswylwyr llwch
14. Dorchester March
GAN ini fod trwy ras yn fyw
15. Difyrwch Gwŷr Aberffraw
CYD-GANED dynoliaeth am ddydd gwaredigaeth (Carol y Swper)
16. Duw Gadwo'r Frenhines
DEFFROWN, Deffrown i ganu'n ffraeth
17. Mentra Gwen
AR gyfer heddyw'r bore
18. Eluseni Meistres
CYDGANWN i'r Gogoned
19. Gwel yr Adeilad
RHOWCH osteg yn ystyriol
CAERNARFON:
ARGRAFFWYD AC AR WERTH GAN H. HUMPHREYS,
CASTLE SQUARE.
TELYN SEION.
CAROL 1.[1]
Mesur-TEMPEST OF WAR.
GYN'LLEIDFA gariadus, cyd-ganwn fawl melus,
Ag odlau soniarus, daionus, i Dduw ;
O'i gariad trag'wyddol, trwy Grist y Maen Bywiol,
Agorodd ffordd rasol i'w bobl gael byw:
Trwy rinwedd ei ras, yn wyneb ei was,
Y cofiodd blant gorthrwm, y codwm du, câs;
Ac heddyw'n ddiwâd, 'nol cyngor y Tad,
Esgorodd trugaredd y rhyfedd Fab rhad.
Cymerodd y Duwdod, yn sylwedd dibechod,
Ein natur, sef dyndod, yn gysgod i'r Gair,
Trwy'r Ysbryd santeiddiol y ffurfiodd gorff dynol
I'w berson anfeidrol, y'meidrol groth Mair;
A'r hynod Fair hon, esgorodd yn llon
Ei Thad a'i Chreawdwr, gwir Brynwr ger bron !
Nid gorwych lys rhi, llon, prydferth, llawn bri,
Ond preseb isel-gor, i'w esgor ga'dd hi!
Etifedd coronau, Cynnaliwr unbenau,
Gan Mair ar ei gliniau, mewn bratiau di bris,
Creawdwr yr hollfyd mewn preseb âg anwyd,
Pa Lazarus gornwydlyd a welwyd yn is?
Teilyngdod pob bri tan w'radwydd a chri,
Er prynu goludoedd y nefoedd i ni;
Gan gyfrif, Dduw Gun, i'w berson ei hun,
Yr oll, er ein gwared, oedd ddyled ar ddyn.
O cofiwn ei ddagrau yn ngardd Gethsemane,
Ei ing a'i fflangellau yn dyodde' mhlaid dyn,
Cyfyngder ei enaid, pan gym'rodd gwpanaid
Ei Seion fendigaid, i'w hyfed ei hun;
Pa galon na thôdd, o'r ingder a'i clôdd,
Wrth ro'i dros ei 'nwylyd ei fywyd o'i fodd !
Gan oddef, heb wad, bob briwder a brâd,
Awch cleddyf cyfiawnder a digter ei Dad.
Goddefodd nes d'wedyd o'r Tad, Fe'm boddlonwyd
A llefain, Gorphenwyd, agorwyd ffordd gu,
Trwy'r anial truenus, glyn Baca wylofus,
A dwyfol fynegfys i'r B'radwys o'r bru;
Ei ysbryd tra llon, trwy'r dymesti a'r don,
Arweinydd daionus, a'n tywys hyd hon;
Trwy'r prid werth a wnaed, maddeuant a gaed,
I gaethion aneirif, ar gyfrif y gwaed.
Mae'r wledd ar fryn Seion, i'r holl bererinion,
Yn llawn pasgedigion, a chyfion i'w chael;
A'r gwin wedi ei wasgu o lafur ein Iesu,
Mae'r nefoedd, trwy hyny, yn gwenu ar y gwael:
Mae'r ddurtur lon, fâd, i'w chynyg trwy'n gwlad,
Uwch ben yr lawn hyfryd, i'r hollfyd yn rhad;
Tywynodd Haul Mawr Cyfiawnder i lawr,
Glyn angau ddysgleiriodd â nefoedd yn awr.
Gan hyny, fy mrodyr, ymgeisiwn am gysur,
Gan fod i bechadur fath gysur i'w gael;
Y gu-dorf nac oedwch, yr alwad 'morolwch,
Trwy fôr edifeirwch, am heddwch Duw hael;
Pa esgus a gawn, os gwrthod a wnawn,
Wir ras a rhadlonder tirionder yr Iawn?
O ceisiwn i gyd ein Iesu mewn pryd,
Gan foli'n Duw tirion o galon i gyd. Amen.
CAROL 2.
Mesur-TRYMDER.
DEFFROWN, deffrown, a rho'wn fawrhad,
Cyn toriad dydd,
I ddwyfol AER y nefol wlad,
Croesawiad sydd;
Fe ganodd ser er bore'r byd,
Sef holl angylion Duw yn nghyd,
Fe ganodd y Proffwydi i gyd,
Heb fod yn gau;
A pha'm na chanwn ninau'n un
Am gael Jehofa mawr ei hun
Mewn dull fel dyn, ac ar ein llun,
I'n gwir wellhau!
Ein cwymp fu fawr i gyd i'r llawr,
Heb gadw ein lle,
Gan werthu'n hawl, archolli ein hun,
A cholli'r ne';
Heb ran i'w gael o'n breiniau i gyd,
Ar wyneb maes yn feirw a mud,
Heb obaith, heb un Duw'n y byd,
O dan ein bai;
Yn aflan bawb fel yn y bedd,
Tan glwyfau'r sarff, galarus wedd,
Heb geisio'n rhad, un cysur hedd,
Yn gasa' rhai.
O ryfedd rad y cariad cu
A ddarfu ddwyn
I'n plith y Meddyg, Iesu mad,
Samariad mwyn!
Gadawodd orsedd nefol wlad,
Ei 'wyllys oedd er ein llesâd,
I lawr y daeth o lys ei Dad,
I'n hisel dir;
O'n natur lesg cymerodd ran,
Bu iddo 'mostwng y'mhob man,
Mewn beudy'n wael, mewn byd yn wan,
Bu'n bod yn wir,
Ymwelodd ein Creawdwr mawr,
Yn awr â ni,
Mewn dull rhyfeddol wael, er maint
Ei fraint a'i fri;
Cysgodi ei Dduwdod mawr a wnaeth
Mewn dynol gnawd, yn dlawd a chaeth,
I'r proseb caeth yr Iesu a ddaeth
O'i orsedd wen;
Pen gwrthddrych cân llu nef i gyd
Heb le mewn lletty claerdy clyd;
Cynnaliwr mawr pilerau'r byd
Heb le roi'i ben.
Ond er ei waelder ar y llawr
Mae'n fawr un fodd,
Mae pob trysorau tan ei sel
Goruchel rodd;
Mae'n hollgyfoethog enwog un,
Yn gadarn Dŵr i gadw dyn,
Mae pob cyflawnder ynddo 'i hun
I Adda a'i had;
Mae'n fywyd meirwon i ail fyw,
Mae'n Feddyg llon i'r fron sy'n friw,
Gwisg lawn i'r noeth, a chyfan yw,
A chyfiawnhad.
Bechadur heddyw, gwel dy le,
Gad gael dy lais,
Am gael i'th fynwes Frenin ne'
Pob cyfle cais:
Paham yn drist y safwn draw?
Efe yw'n braich rhag ofn a braw;
Mae'n derbyn ato bawb a ddaw,
A'i law ar led;
Dim cariad mwy na hwn nid oes,
Ac ni bu 'rioed mewn neb rhyw oes,
Ei fywyd rhoes ar bren y groes
Dros bawb a gred.
Hwn ydyw'r gŵr a'i groes yn drom
O Edom aeth,
O Bosra gynt a'i wisg yn goch
O'r wasgfa gaeth;
Fe sathrodd ar elynion lu,
Gorchfygwr yw, Gorchfygwr fu,
Fe ddwg ei saint, fu, ddaw, ac sy,
I fyny'n fyw;
Ca'dd fuddugoliaeth lawn o wledd
Ar angau, uffern, byd, a'r bedd,
Esgynodd fry i feusydd hedd,—
Efe sydd Dduw.
Mae eto'n d'od, yn barod b'om
Tra byddom byw,
I ymgyfarfod mewn gwir ffydd
Bob dydd â'n Duw;
Rho'wn gyfrif o'r or'chwyliaeth hon,
Ni thâl esgusion ger ei fron,
Mae'n adwaen gwraidd y galon gron
Mewn golwg rhydd;
O am ein caffael ynddo fe,
Fel gogoneddus blant y ne',
Bydd llon ein lle ar ei law ddê,
Pan ddêl ei ddydd.
—ROBERT DAVIES, Bardd Nantglyn.
CAROL 3.
Mesur—GRISIAL GROUND.
FE greodd Duw ddyn, yn lanwaith ei lun,
'Doedd ynddo yn reddfol had marwol ddim un;
Uwch Angel oedd e', uwch Seraph y ne',
Daearol ben arglwydd a llywydd y lle;
Yn awr Tri yn Un a wnaethant i'r dyn
Ymgeledd, gwraig wiw lwys, wareiddlwys o'i lun;
Oh! ddedwydd gyflyrau, llawn o bob rhinweddau,
Heb wg yn eu heiliau, gwag eiriau na gwŷn;
Mewn cyflwr teg wawr, ni fuont hwy fawr,
O ganol dedwyddyd hwy lusgwyd i lawr;
Oh! ddeuddyn anhyfryd, mawr iawn fu'r cyfnewid,
I ninau'r un ffunud mae'n ofid yn awr.
Oh! drefn Un yn Dri, Oh! fraint uchel fri,
Mawr yw'r ymwared, mae'n nodded i ni;
Nyni'n wael ein gwedd, fel marw'n ei fedd,
Er hyny'n cael bywyd mae'n hyfryd mewn hedd;
Nyni oll a wnaed yn rhwym ddwylaw a thraed,
A golwg go waeledd yn gorwedd mewn gwaed!
Heb ronyn o rinwedd, yn llawn o bob llygredd,
I'n codi o'r fath ddyfnfedd tugaredd a gaed;
Oh! gwelwn yn gu, mai fel hyn y fu
Ein bod mewn anobaith, oll unwaith yn llu,
Ond Iesu ddaeth wed'yn, o'i nefoedd yn addfwyn,
I'n achub rhag disgyn i'r dyfn—lyn mawr, du.
Mab Duw ddaeth mewn cnawd i le oedd dylawd,
A llawer dyn angred 'n ei weled yn wawd,
Y'mreseb yr ŷch, yn wael iawn ei ddrych,
Ni chafwyd i'w eni un gwely hardd gwych;
Yn drist iawn o'r dre' y troes ei fam E',
Nid ydoedd ond beudy, dim lletty yn y lle;
'Roedd ffäau i lwynogod, ac i adar nythod,
Dim lle wedi ei osod i fod iddo fe;
Er ised ei wedd, bu lawen y wledd,
Plant angau wareiddiwyd i fywyd o fedd;
Angylion gogoniant i'n Iesu canasant,
Drwy nefoedd mewn nwyfiant cyhoeddant gu hedd.
Gogoniant ar g'oedd, yn Methlehem oedd,
Llu'r nefoedd yn adsain, ar blygain bu bloedd,
Gogoniant teg wawr, drwy'r nefoedd yn awr,
Tangnefedd i ddynion oedd lymion ar lawr;
Sêr boreu ynghyd, a'r Seintiau 'run pryd,
Yn canu i'w Cynhaliwr, a Phrynwr y byd;
O! ddydd iachawdwriaeth, a dydd gwaredigaeth,
Y cafwyd achubiaeth trwy driniaeth tra drud;
Drud iawn iddo E' oedd marw yn ein lle,
Ei gorph glân a ddrylliwyd, anafwyd is ne',
Ond eto tosturiodd i'n hachub o'i wirfodd,
Er marw'n fyw deuodd cyfododd efe.
O cofiwn i gyd na ddaeth Crist i'r byd,
Ond drwy ei ddirmygu, i'n prynu mewn pryd,
Ond fel y bo'm byw yn hollol i Dduw,
Ac nid yn elynion anraslon o ryw;
Os felly'r â'r oes fer heibio, nid oes
Ond goddef byth ddigter, byw lymder y loes;
Yn awr y mae Iesu o'i rad yn gwaredu,
Gwell ini gan hyny ymgrymu wrth ei groes;
O Dduw rhwyga'r llen, yn awr is y nen,
Fel b'o o'r trueni i bawb godi ei ben;
Ac yna hwy gânant i Dduw am faddeuant,
Yn Salem preswyliant mewn moliant. Amen.
—OWEN WILLIAMS, Waunfawr.
CAROL 4.
Mesur—DIFYRWCH GWYR TREFALDWYN.
CYDUNED pob doniau, yn forau un fwriad,
Mewn mawl ac anrhydedd iawn cydwedd i'n Ceidwad,
Ail berson yn hanfod Duw hynod ei hunan,
Yn un anwahanol a dynol dlawd anian.
Nis gallai'r Nef lwys mo'i gynnwys ef ynddi!
Rhyfeddol ei hun yn ddyn ga'dd ei eni!
Un Person, dwy natur, Penadur poenedig;
Yn gymhwys Gyfryngwr, Iachawdwr parchedig:
Mor uchel a Duw, i ateb i'w burder;
Mor isel a dyn, mewn eithaf iselder;
O Fair pan ei ganed, fe ga'dd fawr ogonedd
Gan luoedd ysbrydawl, difyrawl glodforedd.
Ond rhyfedd y ffurfiwyd Mab Duw yn mru Mari,
Tri pherson tra doeth—lawn, mewn dawn, yn cyd—weini:
Pob gweithred o gariad at ddyn yn rhagori;
Galluoedd Duw Ysbryd i gyd am ei godi;
Doethineb y Tad, yn ethol a danfon;
Ufudd—dod y Mab, yn d'od yn dra boddlon;
Gwaith cywrain Glân Ysbryd, fu yn ei genhedlu;
Trefn anrhydeddusa'n cymhwyso'r pur IESU;
Santeiddio bru Mair, i ddal y GAIR DWYFOL,
Cyfleu Duw (ei hun) mewn cnawd, yn ddyn meidrol,
Mawr syndod diddarfod gwaith hynod Doethineb;
Rhyfeddwyd, rhyfeddir i bob trag'wyddoldeb.
Ac er cael ei eni, mewn tlotaf wael anian,
O forwyn iselwedd, mewn agwedd dyn egwan;
Ni chollodd angylion mo'u tirion Iôn, yno;
Er dyfod dan w'radwydd o'u gwydd, fel i 'mguddio;
Dechreu'sant yn ddoeth, bur goeth, ei bregethu
Yn Dduw iddynt hwy, a mil mwy na hyny;
Yn gyflawn gyfodiad, a Cheidwad pechadur;
Athrawon Nef uchod yn gosod i'n gysur.
I ninau yn awr, doed gwawl nefol goron,
Goleuni i lawr i wel'd y mawr berson;
Fel delom, rai dylesg, i'w ddilesg addoli
Yn ngoleu dysgleiriol ei radol fawrhydi.
Roedd Crist wedi ei addaw gan arfaeth drag'wyddol,
Y deuai i wisgo am dano gnawd dynol:
Rhoed, wedi, i farwolion, addewid fawr helaeth,
Gan ddyweyd i fyd isod, "Anorfod yw'n harfaeth,
Mae IESU yn dyfod, Concwerwr mawr dwyfol,
O wraig, o had Efa; fe 'siga ben Diafol.'
Eu gair a gyflawnwyd, fe'u rhoddwyd yn rhyddion:
Gwraig rydd ydyw'r arfaeth, addewid sy'n foddlon.
Ond rhyfedd iawn oedd i'r nefoedd lân hawddgar,
Gwlad rydd, hi a aeth yn rhwym, i'r gaeth ddaear;
Duw mawr heb un ddyled, mewn dyled i ddynion,
A'r Priodoliaethau'n dysgleirio'n dra boddlon.
Y Nefoedd a dalodd, ni dduodd addewid,
I'r ddaear, (faith eigion) fel ei cyfoethogid;
'Nawr ddaear, mae dolef Duw nef yn dy ofyn,
Mae dydd it' i dalu, ar ol hyn yn dylyn.
Awdurdod ein Iôr arweiniwyd o'r wiw—nef,
Efengyl fawr gref, myn ddodrefn Nef adref;
Hi gasgl y rhif ethol, ni âd yn ol aelod
Gwerth gwaed y Dyn Iesu, er Diafol a phechod:
Rhwym Iesu'r hen Lew, yn mhydew y poenau;
Dwg gaethion o'i hawl, gyfryngawl grafangau;
O lafur ei enaid i'w law fawr E ynill,
Ni âd o'i holl eiddo un iddo yn weddill.
Pan gesglir holl nifer yr Arfaeth i Seion,
O bob cwr y ddaear, Cenhedloedd, Iuddewon;
Bydd llawen y lluaws a gaed i'r Llenlliain,
Yn seinio mawl uchel, i'w IESU'n ddi ochain.
Rhwn wnaeth ddwfr yn wîn, trwy nerth ei rîn wyrthiol
A'u deil yn ei law, (er llid a braw Diafol)
Hwn eilwaith, try alar ei blant yn orfoledd;
Yn helaeth iawn yfant o wîn ei dangnefedd.
Yn cerdded fe'i caed, a'i draed ar frig tònau;
Yn dyfod y cair, Mab Mair, ar gymylau;
O bulpud y cwmwl ar bawb oll, fe eilw,
O ddaear, o foroedd, "I'r farn deuwch feirw."
—W. WILLIAMS, Gwilym Peris.
CAROL 5.
Mesur ARGLWYDDES TRWY'R COED.
GWRANDAWN ar leferydd y newydd yn awr,
Un mawr ei gymeriad is haul mwyaf sylwad,
Ac ynddo dystiolaeth deg odiaeth am Geidwad;
Mae mynwes trugaredd mewn rhyfedd barhad,
Yn wastad yn estyn, dros hydol draws adyn,
Ei berlais nefolaidd i'w hoffaidd amddiffyn;
On'd ydyw'n beth mawr, ini'n awr dan y nen,
Ein dal ar faes gobaith yn lanwaith ddilen?
Pe cawsai cyfiawnder ei rwysg yn ei burder,
Llyncasai fyd, oll i gyd, i enbyd ddiddymder;
Y priodoliaethau oedd oll yn cyd—ddadleu
Am achos y Meichiau a'i radau di ri,
Drwy hyn y daeth arbed a nodded i ni;
Cyfiawnder a gafodd yr hyn a ofynodd,
Y Meichiau'i hun, dros y dyn, du elyn, a dalodd,
Am hyn mae pechadur yn rhydd yn mhob ystyr,
Nid allai'r ddeddf wreuthur un mesur oedd mwy,
Hi gafodd dâl cyfiawn, deg lawn yn ei glwy'.
Un defnyn o'r gwaed a gaed o'i gorph gwyn,
Y mae hyn yn beth hynod, a bwysai holl bechod
Y byd, yn nghlorianau difrychau'r nef uchod;
Paham y bychenir, y dywedir nad oes
Yn ngwaed y groes grasol deg lawn a digonol
Ar gyfer rhwyg Addaf, du anaf rhyw dynol,
Holl feiau'r byd crwn arno'n bwn mawr heb oed,
Ag angau mileinwaith ar unwaith a roed;
Ac er holl effeithiau, ddilwydd ddialeddau,
Ni ddaliai'r pwys E'n y gŵys, neud tradwys, ond tridiau,
Fe gafodd dynoliaeth ryddhad yn hardd odiaeth,
Heb unrhyw wahaniaeth ragoriaeth ar gam,
Ond pawb yn gydraddol, hynodol ddi nam;
Pe rhoesai'r Oen grasol yr aberth diarebol
I guddio bai unrhyw rai, e fuasai'n anfoesol;
Ond gwir yw'r ymadrodd nid felly y gweithredodd—
Pob un a arddelwodd yr un fodd i fyw,
Fel byddont wybodus, ddiesgus am Dduw.
Tra pery drwg fuchedd dan ffaeledd yn ffol,
Annuwiol heb newid yn rhodio ffordd rhyddid,
Hyll yrfa yr holl arfer sydd flinder aflendid;
Pa beth a feddyliwn os d'wedwn nad oes
Na moes na chy{{c|Mesur, na nerth gan bechadur,
I ymbil at orsedd iachuswedd a chysur,
Mae hyn yn beth chwith yn ein plith ni a'n plant,
Ac hefyd yn gabledd am sylwedd Duw'r sant;
Os oes nerth i bechu, a sefyll i fynu,
Mae nerth yn awr i lithro i lawr i fawr edifaru:
Gan hyny mae dynion, chwi welwch, yn rhyddion
I sefyll neu syrthio'n ffordd gyfiawn neu'r gau;
O'u blaenau gosodwyd, fe ddod wyd y ddau;
Pe amgen yr ammod—pa le gai'r ufudd-dod?
Os Duw ei hun a gipia ddyn heb achwyn o bechod,
Ac os yw Duw'n cospi y dyn am ddrygioni,
Ac yntau erioed wedi ei adu'n ddifoes,
Mae hyn i gyfiawnder, a'i gryfder, yn groes.
Os oes rhai gobeithiol, drwy reol gwir ras,
O'r ddinas fawr enwog—tŷ Iesu'n Tywysog,
Mae pawb yr un moddau yn fronau'n gyfranog;
Nid galw ar rai a wna'n Harglwydd ni,
Ond gwaeddi yn gyhoeddus—yr oll, yw'r ewyllys,
Trowch yma bawb llwythog, blinderog, a dyrus;—
A chan fod ei lef, euraidd ef, ar bob dyn,
Yr y'm yn obeithiol wybyddol boh un;
Pa faint yw gorfoledd a chyson iachuswedd,
Cael yn brid, er llymder llid, addewid ddiddiwedd;
Trowch heibio'r athrawiaeth, sef gwrthodedigaeth,
Sy'n llawn o gamsyniaeth hir fariaeth i fyw,
Yn nodi pob diffyg yn ddirmyg ar Dduw;
Awn oll o Sodoma, gwae mawr, a Gomora,
Mae Soar bach, eto'n iach, yn gilfach ddiogelfa;
Gochelwn ymroad ar un rhan o'r gwastad,
Ond cadw'n ddiattaliad ymlyniad yn mlaen,
Rhag myn'd i'r un dymer, hir chwerwder, a Chain.
A chan fod yr alwad yn dywad yn deg,
Rhown osteg gan ystyr i ddilyn y llwybr
Sy'n arwain i'r bywyd iawn oglyd yn eglur,
Can's heddyw mae neithior ein Pôr mawr a'n parch,
Ei gyfarch sy'n gofyn ei ddeiliaid i'w ddilyn
Yn ngwisg y briodas iawn urddas i'n harddyn;
Ei fwrdd ef a gawn, yn bur lawn, o wobr y wledd,
Y manna dymunol tra maethol a medd;
Os bydd ryw rai'n pallu gan nych, neu'n gwanychu,
Ni gawn win yn ein min, yn wyrthiol, i'n nerthu;
Mae pob peth yn barod, a Christ ini'n dannod,
Ein bod ni yn ei wrthod—mae'n bechod o bwys,
Dibrisio hael gynyg ein Meddyg, un mwys:
Wel frodyr hwyrfrydig, sy'n oesi'n wrthnysig,
Heb wel'd mor bur, a theimlo cur, ein Awdur poenedig,
Mae'n bryd i ni ddeffro, a dewrwych ystyrio,
Gochelwn hŵy huno tra dalio lliw'n dydd,
Rhag ofn ini, wrth hyny, y fory na fydd.
—RICHARD JONES, neu, Gwyndaf Eryri.
CAROL 6.
Mesur—YMADAWIAD Y BRENIN.
I GADW gwyliau yn un galon,
Nid o fwriad hen arferion;
Mewn meddwl gonest de'wn i ganu,
Fawl Nadolig fel gwir deulu:
Mae côr y Nef yn gorfoleddu,
Bugeiliaid yn y maes yn canu,
De'wn ninau'n awr, cyn tori'r wawr,
Creaduriaid llawr daear,
I barchu'r newydd yn 'wyllysgar,
I ni cyfododd Haul Cyfiawnder.
Haul y Nef ar hil anafus,
A dywynodd, modd daionus.
Haulwen hedd, a wawria ei wedd,—
Trugaredd ragorol:
I fyd o bechaduriaid marwol,
Oedd i Dduw'n eithaf gelyniaethol.
Tarana'r gyfraith oedd yn rhuo,—
Er codwm Adda, uwch ben ei eiddo:
Cyfiawnder haeddol yn cyhoeddi
Dyn dan felldith cyn ei eni:
'Roedd dyn yn moreu 'i enedigaeth
Yn trafaelio at farwolaeth,
Holl ddynol ryw yn cefnu ar Dduw,
A distryw yn taenu drostyn',
Trwy i Adda goelio iaith y gelyn,
Tòri a chamu y gorchymyn:
'Roedd cyfraith santaidd Duw'n golygu
Cyfiawnder pur i'w hanrhydeddu,
Ac uchel lef, o flaen y Nef,
Mewn gafael gref, gyfion,
Yn cyhoeddi ei melldithion,
A'i hawdurdod yn gyfreithlon.
'Roedd ei bygythion, och! mor gaethedd!
Heb ar ei geiriau un drugaredd:
Ei lid at gamwedd ydoedd gymaint,
Heb ollwng gwaed nid oedd maddeuant;
Ac er gwaed bustych a gwaed hyrddod,
Lladd durturiaid a ch'lomenod,
Llosgi a lladd, er hyn ni cha'dd
Ddigonedd a wna gymmod;
Heb berffaith Iawn nid oedd gollyngdod,
Na gobaith bywyd i'w gydnabod;
Nid oedd greadur dan y nefoedd
Er ei farw, na gwaed yn foroedd,
A wnae'n gytun Dduw a dyn,
Heb sylwedd Brenin Silo,
Yn Dduw a dyn ei hun i'w huno,
A gwisgiad dynol gnawd am dano.
Lle gwelwn gariad rhad yn eglur
Yn mhriodas y ddwy natur,
Y Duwdod santaidd yn ymwisgo,
A'r natur ddynol yn ymrwymo;
Iesu Brenin Nef y nefoedd,
O'i hunan gariad, hwn a'i gyrodd,
Priodi a wnaeth forwyn gaeth,
Mewn arfaeth o'i wirfodd;
A swm ei dyled oll a dalodd:
A phob gofynion a gyflawnodd.
Cyflawnodd eiriau y Proffwydi,
Oedd am dano'n rhagfynegi;
Cyflawna ei waith, blinderus daith,
Ar y gyfraith hir gyfri;
Cyflawna a addawodd i'w ddyweddi,
Ei addewidion yn ddioedi.
Cyflawn waith ein prynedigaeth,
A ragwelwyd draw mewn arfaeth";
Gadawai ei nefoedd lân yn ufudd.
Agorodd ddrws cyfammod newydd;
Dros ei aelodau etholedig,
Fe gym'rodd arno boen a dirmyg,
Cystuddiau a gwawd, yn y cnawd,
Yn Frawd hwyrfrydig,
O garu maddeu gorfu i'r Meddyg
Ddyodde' gw'radwydd angharedig.
Dyodde' ei wadu, dyodde' ei wawdio,
Ei fflangellu a'i gernodio,
O 'wyllys da dyodde' a wna,
Tros Adda am droseddu:
Ar ben Calfaria bu'n aberthu
Ei gorph ei hun o achos hyny.
Nid allai'r haul mor edrych arno
Yn ei boenau heb g'wilyddio;
Nid allai'r ddaear lawr mor dyodde',
Heb grynu o ddychryn pan ymada'!
Nid allai seiliau'r byd ond siglo,
Pan oedd pechodau'n pwyso arno,
Gan wyro ei wedd i borth y bedd,
I orwedd mewn amdo;
Ond er ei weled yno a'i wylio,
'Roedd yr agoriad ganddo i'w gario;
Nid allodd Uffern mo'i garcharu,
Nid allodd bedd mo'i ddal i bydru,
Cyfodai'n rhydd y trydydd dydd,
Mae sicrwydd o hyny,—
Fel na cha'i Thomas ei anghredu,
Ca'dd roddi ei fŷs yn ystlys Iesu!
Gan adgyfodi o'r Pen yn gynta',
Fe adgyfodir yr aeloda';
Bydd adgyfodiad cyffredinol
I bob achau, graddau, gwreiddiol:
Pan gan udgorn mawr y Nefoedd,
Fe gwyd y meirw o dir a moroedd
Cyfodi raid o'r llwch a'r llaid,
Daw'r enaid a ymranodd
Yn ol i'r corph, yr hwn a'i cariodd,
I gyd deyrnasu heb derfyn oesoedd;
Duw ei hunan a'n dihuno,
I gyflwr parod i ympirio,
Pan ddel efe ar gymylau'r ne',
Boed ini le ynddo,
A gwledd i'r enaid Iesu a rano,
Amen, Amen, a Duw a'i myno.
—H. W.
CAROL 7.
Mesur—DIFYRWCH GWYR CAERNARFON.
DIHUNED plant y dyfnder du,
Nol bod yn cysgu cy'd;
Mae'r dydd yn gwawrio oddi fry,
Ar ben amgylchu'r byd.
I ni genhedloedd gwael ein dull,
Oedd draw a thywyll drem,
Y rhoed goleuni, gwedi gwyll,
A sail yn mhebyll Sem.
Newyddion da sy yn ein dydd,
Fe gaed Gwaredydd rhad;
Mawr angenrheidrwydd sobrwydd sydd,
A ffydd i wneyd coffâd.
Wrth gofio dydd Mab Duw, a'i daith,
Ar waith rhyfedda' erioed,
I'w enw, gan bob llwyth ac iaith,
Y mawl yn berffaith boed.
Etifedd gwir y nefoedd fry,
A'i dysglaer lu di lyth,
Mewn dyndod ar y ddaear ddu,
Peth i'w ryfeddu fyth.
Mewn oes ofidus, hyd ei fedd,
I'n dwyn i hedd â'i Dad;
A'r Tad yn gwaeddi "Deffro gledd,"
O! rhyfedd Geidwad rhad.
Cyfiawnder dwyfol Un yn Dri,
Ein harbed ni nis gwnae,
Ac er aberthu mwy na rhi,
Y ddeddf yn gwaeddi "Gwae,"
Fe ddaeth y SEILO, hyfryd son,
Ein holl ddyledion ni
A dalodd ef,—cyflawnodd Iộn
Ei holl ofynion hi;
Ar fryn Calfaria, un prydnawn,
Tywalltwyd cyfiawn waed,
A roes i'r gyfraith daliad llawn:
Digonol lawn a gaed.
Mae merch yr hen Amoriad, mwy
O'i dyled trwy y tro:
Caed digon yn ei farwol glwy'
I dalu ei dirwy, do.
Rhajd eto ei diosg a'i rhyddhau
O'i harffedogau dail;
Ei lladd i'r ddeddf cyn gwir fwynhau
Rhinweddau Adda'r Ail.
Mae'r ddeddf yn athraw uniawn rôl
At Grist o'n cnawdol wŷn;
Ond rhin ei waed sy'n troi yn ol
Euogrwydd damniol dyn.
Pan ddel y newyn i drymhau
Yn ngwlad y cibau cas,
A Duw yn dechreu eglurhau,
Mewn grym, drysorau gras;
Ni wel y mab yn ngwlad y moch,
Ond poen ac och i gyd,
Ymflina ar eu braw a'u broch,
Eu rhôch sydd oer o hyd.
Wrth feddwl dychwel adre' i fyw,
Mae'n ofni rhyw sarhad;
Y gwael newynog, euog yw
O adael Duw ei Dad.
Cyn marw o newyn gyda rhai,
Wynebai tua'r Ne',
Ac at ei Dad, gan addei fai,
Pe'i lladdai yn y lle.
Pan ddaeth, a syrthio wrth ei draed,
Dan bwys rhyddhad o'i boen;
Ac, yn y fan, fe eglurhaed
Eiriolaeth gwaed yr Oen;
Ei Dad a'i dygodd ef i'w dŷ,
A llawenychu a wnaed:
Ni ddamniwyd un erioed a fu
Ar drengu wrth ei draed.
Mae eto yn cyhoeddi gwys,
"Chwi rai truenus trowch,
A deuwch allan, gyda brys,
O'ch ffyrdd peryglus ffowch:
Cyn myn'd Sodoma yn ulw du,
Dowch bawb sy'n caru byw;
Mae gwaredigaeth yn ei dŷ
Gan IESU; a digon yw.
Tarian ei Saint mewn troion serth,
Mewn culni certh y caed;
O ras i ras, o nerth i nerth,
Dyg ato werth ei waed.
—GRIFFITH WILLIAMS, Gutyn Peris.
CAROL 8
Mesur—BLUE BELL OF SCOTLAND.
WEL ganwyd Crist y Gair,
O'r forwyn Fair, i feirwon fyw;
Clybuwyd engyl glân
Yn rhoddi ar dân newyddion Duw;
Daeth sain y rhai'n a'u llef
I lawr o'r nef, lwyra' nôd,
I draethu n'wyddion da
I'r rhai tylota' oedd bena'n bod.
'Roedd swn ewyllys da
Yn eu geiria', anian gwir,
Tangnefedd i rai caeth,
Gwelwn daeth goleu i dir.
I bwy mae'r newydd hwn,
Tan oer bwn yn tynu'r boen?
Pwy fysiodd gael o flas,
Digymmar ras gemau'r Oen?
Yr enaid sydd yn drist,
Yn ceisio ei Grist,—cyson gred,
Mae heddyw'n ddyn a Duw,
Di frycha'i liw, a'i freichiau ar led:
A galwad i bob rhai,
Oddiwrth eu bai ddyeithro byth,
A gwisgo Crist a'i iau,
I'w fwynhau ef yn nyth.
Daeth Iesu o'r nef ei hun,
I wisgo dyn i'w osgo daeth,
Diosgai ei fraint a'i fri,
Ymgydio â ni gwedi a wnaeth.
O rhyfedd! ras y Nef,
(Er maint oedd llef ein pechod llym,)
Fe ddeuodd heb ei wa'dd,
I dòri o radd dewra' ei rym!
Dinystriodd Had y wraig
Allu Draig, wallau drud;
A gwir i'r cyfiawn Oen,
O dan oer boen dynu'r byd.
Y du-dew d'wyllwch mawr
Ai'n oleu 'n awr, anwylaf nôd:
Daeth Haul i'w gwneyd yn ddydd,
Trwy Iesu'n rhydd troes y rhôd;
Mae meddyginiaeth gref
I'w chael o'r Nef uchela' i ni;
Trugaredd Iesu glân,
Di—wahan ydyw hi,
Tragywyddol Fab y Tad
A rydd yn rhad roddion rhwydd:
Ac iddo rhoddir mawl,
O demlau'r sawl a deimlo'r swydd.
Mae damnedigaeth dyn
Arno ei hun, oerni hwyr,
Am wrthod goleu Duw,
A charu lliw tywyllwch llwyr;
A'r t'wyllwch hwn, lle bydd,
Gelyn dydd i'w ganlyn daw:
O goledd hyn drwy'r byd,
E rydd ryw bryd arwydd braw.
Ond heddyw goleu'r Ne',
I'w ddal o'i le a ddelo i lawr,—
Trwy fyw mewn t'wyllwch cudd,
Mawr alaeth fydd,—marwolaeth fawr.
Trwy gwympiad Adda ein tad,
Cawsom frad anfad friw:
Trwy Iesu Grist mae modd
(Un cu da fodd) i'n codi'n fyw,
Os oedd marwolaeth wael
I ni gael bod ag un; A
dferiad, er ei glod,
Sydd ini'n d'od trwy Fab y dyn
Efe 'dyw'r un a ga'dd
Ar groes ei ladd,—grasol yw;
A thrwy farwolaeth tro'dd
Iawna' fodd, ini fyw.
Nid digon ini'n awr,
Son yn fawr am dano fe,
Rhaid caffael mwy o'i braw'
Na'i hanes draw yn Methle'm dre':
Ei gael i'r galon gell
Sydd yn well ini'n wir,
Na holl drysorau llawn,
Mawr—werth iawn, môr a thir.
Gochelwn gario ynghyd
Obeithiau byd, bethau bach;
Pwy ŵyr na raid cyn hir
Ini'n wir ganu'n iach!
A chyn i hyny dd'od,
Ymwnawn am fod ynddo fe,
Rhag, fel morwynion ffôl,
Fod yn ol o fyd y ne':
Heb gael cyfrifiad oes,
A thaliad croes etholiad Crist,
E fydd y byd a ddaw,
Ini draw yn o drist:
Efe yw'r un a roed,
Er erioed dros ei radd:
O bedwar cwr y byd,
Awn ato i gyd, mae eto'n gwa'dd.
Gweddiwn ar y Tad,
Yn ei rad ini roi,
Yn rhad ddatguddiad rhydd,
A goleu ffydd i gael fioi.
Cyn delo dial mawr,
Awn yn awr tua'r ne',
I 'mofyn Iesu'n rhan,
Yn y fan y mae efe:
Gweddiwn ar i Dduw,
Sydd yn byw a'i swydd yn ben,
Ddyhidlo o'r nef i lawr,
(Er Iesu mawr) ras,Amen.
—J. J. [2]
CAROL 9.
Mesur—MALLDOD DOLGELLAU.
PAN anwyd Iesu yn mhreseb Bethl'em
Y rhoed yr anthem rydd,
Gan yr angylion, mewn sain clodfawr,
Ar doriad gwawr y dydd;
A'r gân oedd yn ogoniant dwyfol,
Newyddion o lawenydd nefol,
Ar ran y ddynol ryw,
Fod ini Geidwad rhad Waredydd,
Wedi ei ddyfod i dŷ Ddafydd,
A Christ yr Arglwydd yw;
A'r arwydd hynod a roir i ni,
I drosi am y drych,
Mai mewn cadachau, yn ddyn byehan,
Mewn preseb, man pawr ŷch;
A chyn i angel ddechreu'i gydgan
Daeth llu angylaidd i gyd ddatgan,
Ar blygain heb oer bla,
'Gogoniant yn y goruchafion,
Ar y ddaear tangnefedd dirion,
Lles dynion—ewyllys da."
Os llawen ganai yr angylion,
Am fodd i ddynion fyw,
Pa faint mwy achos llawen ddatgan
I ran y ddynol ryw,
Sef y rhai oedd feirwon, drwy oferedd,
Dan arw gur yn ddidrugaredd,
Yn gorwedd yn eu gwaed;
Dyma'r meirwon a gafodd fywyd,
Sef ni oedd waelion, hyn oedd olud,
A'r gwynfyd mwya' gaed.
Am hyn edrychai yr hen broffwydi,
Gan nodi Iesu a'i ras,
Ei fod i ddyfod o dŷ Ddafydd,
O gynnydd enwog was,
Yn ol ei ddyfod i'w ddyoddefaint,
A thrwy y gwânau i'w ogoniant,
Trwy llwyddiant tra dilyth;
Hyn a bregethai'r Apostolion,
I'r Cenedloedd a'r Iuddewon,
Mai 'fe sy'n ddigon fyth.
Boddlonodd bob cyfiawnder erom,
Mae'n aberth drosom ni,
Nid oes lidiawgrwydd at ein bywyd,
Gollyngwyd gwaed yn lli';
Mae yn Nghrist fywyd i hi Adda,
A ni heb allu ein hunain wella,
Er d'od o'r ddalfa den;
A dyna ydyw'r gwir a'n gweryd,
O'r anialwch mawr iawn olud,
Yn mywyd Crist,Amen.
—OWEN WILLIAMS, Waunfawr.
CAROL 10.
Mesur—YMDAITH ROCHESTER.
DEFFROWN yn ystyriol i ganu'n blygeiniol
Mawl Iesu meluscl yn llwyddol ein llef;
Daeth hyfryd newyddion dyddanol i ddynion,
Am eni Mab cyfion, dawn union Duw nef;
O fynwes gwir fwyniant, gogoniant ddisgynodd,
Y gair a gywirodd, fe ddeuodd yn ddyn,
Bru morwyn gymerodd, fe'i gwisgodd fel cysgod,
Ein natur a burodd a ddododd i'w Dduwdod,
A chymmod iachâd i Adda ac i'w had,
A ranwyd o rinwedd Iôn rhyfedd yn rhad;
Nyni oedd golledig, drancedig, drwy'r codwm,
Tan ddistryw tyn ddwystrwm yn noethiwm o'r nef,
Ond wele'r angylion, lu gwynion yn gweini
Rhyw newydd rhyfeddol, dymunol, am eni
Gŵr ini, gwir yw, yn Geidwad iawn gwiw,
Eneiniog yr Arglwydd, un dedwydd, Oen Duw.
Cytundeb boreuol na syf yn dra'gwyddol,
Fu rhwng y bendigol Fab Dwyfol a'i Dad,
Am drefnu ffordd eglur a chodi pechadur
O'i ddyled a'i ddolur, a chysur iachâd;
Y Tad a'i danfonodd, o'i gariad fe'i gyrodd,
Y Mab ufuddhaodd, cyfryngodd un fryd
A'r Ysbryd Glân tirion, ein Iôr a'i eneiniodd
Yn Ben—cyfammodwr, Faddeuwr fe ddeuodd;
Ac Abra'm drwy ffydd a welodd ei ddydd,
Yn mhell cyn ei eni, 'n ein rhoddi ni'n rhydd;
Bu Moses a Dafydd mewn cynnydd yn canu,
Proffwydo a chyffesu am urdd Iesu mor dda,
Esia, Hosea, Joel, Daniel, a Jona,
Ezeciel, a Jeremi, Malachi, Mica,
Ac ereill a geir yn helaeth un air,
O gywir broffwydi, am eni Mab Mair.
A phan ddaeth cyflawnder o rym sel yr amser,
Daeth Brenin Cyfiawnder drwy burdeb i'r byd,
A'i fawredd o forwyn, un llariaidd ac addfwyn,
Yn marchog ar asyn, mor isel ei fryd;
Ond nid ei dderchafiad, ond codiad o'u cadwen,
Golledig blant Eden, oedd dyben ei daith;
Y gwaith yn gu ethol ddiffynol orphenodd,
Drwy chwys ac ing caled ein dyled a dalodd;
Nid ofnodd un dòn, na phwys gwaewffon,
Ein gwared oedd, gwelwch, hyfrydwch ei fron;
Ei groes a'i ddrain goron gan hoelion gynnaliodd,
Ein camwedd gymerodd a barodd ei boen;
Pur Oen, ei bêr enau mewn geiriau ni agorodd,
Maddeuodd yn ddibaid i'r lleiddiaid a'i lladdodd;
Gweddïodd ddydd pryn, ar Galfaria fryn,
"O Dad na ddod iddyn' i'w herbyn mo hyn."
Y pethau berthynant mewn haeddiant i'n heddwch
I gyraedd hawddgarwch dedwyddwch Duw Dad,
Gyflawnodd yr Iesu, o'i 'wyllys a'i allu,
Trwy santaidd fucheddu a gweithredu'n goeth rad;
Y gyfraith fawrhâodd, cyfiawnder foddlonodd,
Ein dyled a dalodd o'i wirfodd â'i waed,
Fe wnaed ei fynediad wrth rad ei weithredoedd
I gau ar byrth uffern, ac agor y nefoedd;
Ar gyhoedd Wr gwiw fe'i dodwyd gan Dduw
Yn deg brynedigaeth o'r arfaeth gwir yw,
Y gwaith mawr i ninau i'w ddechreu trwy ddychryn
Yw gwylied ein gelyn, a dilyn ein Duw,
A byw ar ei fynwes i'w gynes ogoniant,
Gan wadu'r byd hudol yn drechol, a'i drachwant;
Er llwyddiant drwy'r llen, rho'wn bawb bwys ei ben
Ar Grist am ein bywyd bob munyd. Amen
—ROBERT DAVIES, Bardd Nantglyn.
CAROL 11.
Mesur—SAWDL BUWCH.
CYDGANED yr eneidiau sydd tan eu beichiau'n byw,
Fod lle rhag lid i'r gwaela' i gyd i ddiengyd at ei Dduw.
Dyferodd ar Galfaria i'r gwaetha' ddwfr a gwaed
O'n Iesu, ni i'r llawr yn lli', er golchi'r dua' gaed;
A'r rhinwedd sy'n parhau yn hynod i lanhau,
Llawer llewyg, rhai cythreulig, a lloerig mae'n wellhau;
Fe wella'r dyn aflana'i lun, a'r gwenwyn mawr a ga'dd,
Sef pechod câs, sy'n flin ei flâs, gan luddias iddo ei ladd.
Mae lle i gael gwellhad i gleifion yn mhob gwlad,
Gerbron yraddfwyn drugareddfa, ond myn'd i'r olchfa rad;
Nid dyfroedd tyn Siloam lyn wna'r du mor wyn a'r wawr,
Budreddi a drig, a dolur dig, heb waed y Meddyg mawr.
Nid rhyfedd fod angylion yn gwaeddi ar ddynion gwael,
Uwch ben y wlad, â llef gwellhad, fod Ceidwad wedi ei gael.
Fe wyddai'r dyrfa weddus, lu anrhydeddus, da,
Mai Duw ei hun oedd yno'n ddyn, mewn plentyn, heb ddim pla,
Ac fod ei nôd yn awr am fynu tyrfa fawr,
O'r hil syrthiedig, isel, ysig, golledig, uwch y llawr,
Trwy dd'od ei hun i ddalfa dyn, a'i wisg o forwyn wael,
I roddi'r Iawn, yn llwyr a llawn, oedd gyfiawn i Dduw gael;
A'r Aberth mawr a roes yn gryno ar y groes,
Ei fendigedig ymddygiadau yn làn hyd angau loes,
Oedd yn ddiau yn cwblhau holl lyfrau'r nef yn llawn,
Nes gwaeddi heb gudd, O rho'wch e'n rhydd, mi gefais ddedwydd Iawn.
Rhoes natur dyn am dano, yn uno mae o hyd,
Yn mhlith y llu hyfrydaf fry, bydd felly'n barnu'r byd.
Edifar fydd i'r diafol, mai'r natur ddynol ddaw
I'w yru ef, alarus lef, yn drist i ddyoddef draw,
Gan dd'wedyd wrthynt, Ewch i dân, cyd—y madewch,
Gair garw! byth i'r gerwyn boethaf, bwll isaf, ymbellhewch
Oddiwrthyf fi ni chewch chwychwi byth brofi beth yw braint
Cael bod yn byw'n nghymdeithas Duw mor siriol yw i'r saint!
Er hyny cyfyd rhai o'r bedd heb gur na bai,
Ac yna i ganu mewn gogoniant y dringant yn ddidrai,
I wel'd yr Iawn, a'i ddwyfol ddawn, a'u rhoes yn gyflawn rydd,
Gan seinio'i glod, Hosanna glân, rhyfeddol gân a fydd.
Rhyfeddol ei ddoethineb, a'i burdeb heb ddim bai,
Yw'n Brawd da, gwych o bryd a gwedd, a rhinwedd i bob rhai.
Mae'r difai Berson dwyfol mor annherfynol fawr,
A'i bresenoldeb, undeb ef, yn llenwi nef a llawr;
Ei Dduwdod sy'n parhau, a'i ddyndod yn ddiau,
Yn un Duw hynod anwahanol, ac nid yn Ddwyfol ddau;
Mae'n Dduw, mae'n ddyn hardd, teg, cytun, er hyny un yw E',
Sef Duw mewn cnawd, fu'n goddef gwawd, yn hynod dlawd ei le;
'Rhwn bïoedd bob rhyw beth heb ddim i dalu'r dreth;
Y Gwr wnai'r bydoedd yn y beudy yn cael ei fagu, heb feth;
Yr Iesu yw—O dyna'n Duw i farw a byw o'n bodd:
Fe glwyfodd glol y Sarff, neu'i siol, a'r ddraig uffernol ffodd.
Er bod yn Mair anmhuredd, a thuedd llygredd llawn,
Ac eto i gyd daeth Duw i'r byd yn Iesu hyfryd iawn;
Cnawd o gnawd Mair gymerwyd, fe'i ffurfiwyd yn ddiffael
Yn gorph glân, byw, i amdoi'n Duw, o'r cyfryw ddefnydd gwael.
Rhyfeddol weddol waith, y penaf, mwyaf maith,
Oedd gwneyd i'r Duwdod gnawd nodedig yn ddilygredig graith,
Heb nwyd, heb nam, heb feiau'i fam, heb lithro cam o'i le,
Er bod pob loes o'i gryd i'w groes, glân oedd ei einioes E'.
Y ddwy-blaid anghytun yn hwn a wnaed yn un,
Crist cyn ymadael a'u cymmododd, fe'u hasiodd ynddo'i hun;
A thrwy roi pridwerth ar y pren, dileu'r ysgrifen law,
Agorodd ddrws trugaredd rad i drigfa Cariad, draw.
Hyn ydyw'r testyn canu a llawenychu i ni,
Fod llwybr llawn, trwy Iesu a'i Iawn, in' gael cyfreithlawn fri;
Yr Arch a'r Drugareddfa, y Person yma yw;
Mae'r ddeddf o hyd yn gyfa'i gyd, bob enyd ynddo'n byw.
Er bod yn ngwaelod bedd, mewn dalfa gwaela' gwedd,
A milwyr chwerw i'w gadw gwedi rhag codi T'wysog hedd,
Nid allent hwy ei faeddu'n fwy â'u dychrynadwy nerth,
Ond yn y man fe ddaeth i'r lan, er byddin Satan serth:
Ein T'wysog moddog mawr sydd wedi conc'ro'r Cawr,
Wrth brynu epil eiddil Adda, ca'dd ben Golia i lawr.
Cwyd Seion wan dy lef i'r lan i ddatgan elod dy Dduw;
Crist yw dy blaid a'th rym wrth raid, a noddía d'enaid yw.
Fe fethodd dyfais diafol gaethiwo yn ol ei nerth,
Trwy leiddiaid lu, na'r bedd lle bu, i waelu dim o'i werth;
Rhoes Iesu'r Llew thuadwy o tan ei glwy' â'i gledd,
Er angau cry', a'r sarffaidd lu, fe godai'i fyny o'i fedd;
Ond rhyfedd iawn y tro, hwn cadwn yn ein co',
Mab Joseph, o gyff Jesse, a dòrai'i faglau fo.
Y Bugail mwyn a ddaeth i ddwyn ei weiniaid ŵyn i'w dŷ,
Fe dyn ei braidd o blith y blaidd, rai llariaidd, ato'n llu.
Mae'r Jubili'n y wlad yn seinio pur leshad,
Y rhai sy'n credu yn yr Iesu sy'n deulu i'w anwyl Dad,
Ein lloches glyd, a'n hedd o hyd, pan fyddo'r byd ar ben,
A'n cyflawn wledd tu draw i'r bedd, llawn mawredd o!l.
Amen.
CAROL 12.
Mesur—MILLER'S KEY.
NAC ofnwch, rai sy'n effro
I wylio gyda'r wawr,
O nefol gaerydd ar foreuddydd
Mae newydd yma'n awr,
Fod Ceidwad wedi ei eni,
Rhydd ini lawn ryddhâd,
Gwnaed rhyddid trwyddo i bawb a gredo
Anturio i wydd y Tad;
O ddedwydd ddydd a ddaeth,
Yn llifo o fêl a llaeth!
Crist mewn cadachau rwymwyd,
Gwaith diafol a ddattodwyd,
Rhydd godwyd rhai oedd gaeth;
Angylion loywon lun
A byncient fawl bob un,
Wrth wel'd y nefol Dduwdod
O'i ras ar ddaear isod
Gwedi d'od i gadw dyn.
Er dyfod trwy dwyll diafol
Y cwymp gelynol glwy',
Fe ddaeth drwy gynghor Duw gogoned
I ddyn ymwared mwy;
Mae sail yr ail gyfammod
Nid ar ufydd—dod dyn,
Ond ar oleuddawn yr Ail Adda,
Jehofa mawr ei hun:
Trwy'r Adda Cynta' i'n caed,
A'n llygru ni ynddo a wnaed,
Daeth Adda'r Ail i roddi,
O'i fynwes lawn haelioni,
I'n golchi ddwfr a gwaed;
Doeth Frenin ddaeth ar frys
I lawr o'i nefol Lys,
I dalu biliau dyled
Hi Adda, tan hir ludded,
A chaled ing a chwŷs.
O'i gariad anorchfygol
At wael ddaearol ddyn,
Cymerodd bwysau'n hanwireddau
A'n hangau arno ei hun;
Ein pechod ninau eto
Yn ei ail groeshoelio sydd,
Nes ymadael, a'i symudo
Mewn tro maddeuant rhydd;
Cael clwyf, ac yspryd cla',
I'r llwch a'n gwir wellà
Tan gystudd enaid unig,
I'r galon friw ddrylliedig
Mae Duw yn Feddyg da;
O'i gariad hael ei hun
I'r newynog lwythog lun,
Gwnaeth wledd o basgedigion,
Ac eli o waed ei galon
I glwyfau dyfnion dyn.
Os dynion heddyw'n gyhoedd
Am nefoedd ydym ni,
Trown i'w cheisio trwy iachuswerth
Fawr Aberth Calfari;
Gadawn ein cyfiawnderau,
A'n cymhwysiadau, os oes,
Ac awn a'n gwaeledd yn ddi gelu,
Tan gredu, at Oen y groes;
Rhaid iddo er ei glod
Yn gyfan Feddyg fod,
Ni thal daioni dynol,
Na hunan anwahanol
O tan ei nefol nôd;
Mawr yw y môr o waed
O ystlys Iesu a gaed,
A phechaduriaid mawrion
O dan ddcluriau duon
Yn wynion ynddo a wnaed.
Yr un gallu sy eto'n gyflym,
'Run grym sy ngwaed y groes,
Mae grasol groeso i bawb a ddelo
I glirio ei euog loes;
Mae Crist yn ffordd, yn fywyd,
Gwirionedd hefyd yw,
Bu farw'r cyfion dros'r anghyfion,
Caiff rhai oedd feirwon fyw;
Mae'n Harglwydd mawr ei hun
Yn hanfod Tri yn Un,
Diogel brynedigaeth,
Wrth air y wir dystiolaeth,
Yn iachawdwriaeth dyn;
Mae'n Dri i ni yn y ne'
'Rhan swydd, a llwydd, a lle,
Ond Tri yn Un 'run enyd,
Un Tad, un Mab, un Yspryd,
Da fywyd ydyw efe.
Gan ddarfod geni'r Iesu
I ni'r ol llygru o'n lle,
Ein geni ninau, goleu gwiwles,
Yw'r lles o'i fynwes fe;
Cael myned trwy r esgorfa,
A phrofi'r olchfa rad,
Fel delo'n llygredd, a'n hanwiredd,
Yn ffiaidd eu coffâd,
I'r blin a'r llawn o bla
Mae Duw'n waredwr da,
Brawd ini'n briod enaid,
Llawenydd llu o weiniaid,
Mae'n clywed liais y cla';
Efe yw'r bywiol bren,
O bydded ar ei ben
Goronau fil o foliant,
Am orfoleddus lwyddiant,
Ein mwyniant ynddo, Amen.
—ROBERT DAVIES, Bardd Nantglyn.
CAROL 13.
Mesur—THE BIRD.
DEFFROWCH yn llon, breswylwyr llwch,
A chodwch, Oh! chwychwi;
Dadseiniwch oll, Hosanna a chân,
Mae'n lân wir Jubili:
Dihunwch chwi, rai tlawd a chaeth,
Hi ddaeth, hi ddaeth yn ddydd;
Mae'r haul yn glir, a'r hwyl i'n gwlad,
A'r ffordd yn rhad a rhydd:
Oh! wele'r dydd, newyddion da,
Pob tlawd a chla', clywch lef,
Chwi sydd â d'lêd i'ch suddo hyd lawr,
O! wynfyd wawr, y Meichiai mawr
A ddaeth yn awr o'r nef:
Tangnefedd sydd, mae'n rhyfedd son,
Lles dynion, 'wyllys da;
I ddynion drwg, o'i ddawn di drai,
Druenus rai, dan bwys eu bai,
Yn rhyfedd a'i mawrha,
Oh! rhyfedd byth, fath gwlwm byw
Rhwng Duw âg enaid dyn;
Mae eglur sail ei eglwys Ef,
Cyn bod y nef, yn un;
Pan 'roedd y dyn ar Eden dir,
Y wraig yn wir a wnawd
O'i asgwrn ef, i wisgo'r nodd—
Drwy hon cynyddodd cnawd;
Pan gwympodd hon y gamp oedd hallt,
Pwy ddichon ddallt mor ddefn
Oedd rhyfedd ddawn doethineb Duw,
Yn addo'n wiw, d'ai'r Had o'i rhyw
I'w chodi'n fyw drachefn:
Er bod y pechod chwerwdod chwith
Yn tyfu'n felldith fawr,
Trag'wyddol sail yr eglwys yw
Addewid Duw, yn rhad o'i rhyw,
Sydd ganddi'n byw, bob awr.
A hwn yw'r GAIR a wisgodd gnawd,
'Fe wnawd yn Frawd i ni;
Ac yn ei gnawd, âg enwog nerth,
Condemniai'r anferth ri':
Yn gymaint oll, mai y'nghnawd y dyn,
Daeth colyn gwenwyn gynt,
Y'nghnawd y dyn y cnydiodd dawn,
Bu'n rhyfedd iawn yr hynt:
Er dyfned oedd trueni dyn,
Mab Duw ei hun wnai hedd,
Aeth dan bob rhan, digofaint pryd
Olrheiniai ar hyd ei eglwys ddrud
Trwy'r byd tu draw i'r bedd:
Oh! 'r cariad oedd y'nghalon Duw,
Rhyfeddod yw mewn dawn!
Gwaith cariad rhad, congeweriad rhwydd,
Yn chwalu chwydd hen sarffaidd swydd,
Pob lid euogrwydd llawn.
I rai sydd dan euogrwydd dwys,
Yn teimlo'r pwys a'r poen,
Mae'n rhyfedd werth y nerth a wnaed
O rinwedd gwaed yr Oen:
Nid rhaid i'r iach wrth feddyg rhad,
O ran gwellhad na lles;
Rhag lid y seirff, trallodus haint,
'Roedd braint y sarff o bres:
Raid felly i'n cred ddyrchafu Crist,
I rai sy'n drist dan draed;
Gan feirw i'w chwant, hwy fyddant fyw,
Bob rhai a glyw rhyfeddant Dduw;
Mor werthfawr yw ei waed!
Y rhei'ny gân i'w enw gwir,
Nes byddo'n clir ddatgloi
Byrth carchar cau, heiyrn farau'r fall,
Nes deffro'r dall i wel'd ei wall,
A ffydd i'r anghall, ffoi.
Y ganiad hyny, âg enw teg,
Yw'r gwir a'r gareg wèn;
Maddeuant rhad, o gariad rhydd;
Dyrchafiad ffydd i'w phen:
Dirgelwch yw da'r goleu'i chael,
Mawr fael wna'r meirw'n fyw;
Moliennir Ef â llef yn llon,
Gan waredigion Duw:
A gwyn ei fyd a gano fawl,
Mewn hawl o'r gwir fwynhad,
Coel fawr yw'r fraint Calfaria fry,
Plant Seion sy, mewn cariad cu,
'N mawrygu pardwn rhad;
O fyth am nerth, mae'n faith y nôd,
I roi teilwng glod i ti;
Yr Oen a ga'dd ei ladd, trwy loes,
Ar bren y croes, yn rhad a roes,
O newydd, oes i ni.
O'r iechydwriaeth helaeth hon,
Mor fawr gerbron yw'r braint;
Ac O mor bell o gyraedd byd
Yw sylwedd bywyd saint!
Na thwyller chwi, deallwch wir,
Nid oer watwarir Duw;
Rhaid ini gael ein dwyn o gas
Ei farn, a'i ras i fyw:
O'r diluw drwg fe'n deil ni draw,
Gerllaw o gyraedd llid;
Ei eglwys Ef, mae'n wiwglwys hi,
Yn Nghrist a'i fri sy'n Arch i ni,
Rhag boddi gyda'r byd:
A gwyliwn bawb, rhag ofn y b'o
I neb fod eto'n ol;
Can's heddyw yw'r awr gym'radwy sydd,
Nid foru fydd, rhag colli'r dydd
Ar ffydd morwynion ffol.
O! Duw, na bae'm â di nam bwyll,
Yn profi o'i ddidwyll ddawn;
I gael y nôd, mewn goleu nef,
I'w 'nabod ef yn iawn:
Adnabod sail Crist, a'i dair—swydd,
Yn Arglwydd ynom ni;
A pheth yw trefn maddeuant rhad,
Trwy ffydd a phrofiad ffri:
Cael profi'n bod yn eglwys bur,
A'n geni o natur Nef:
Un gwedi'i chael trwy'r gwaed a'r chwys,
Yn lân ddi lys, fel Efa i'w flys,
O'i santaidd ystlys Ef:
Dyrchafwn glir, dra chyfiawn glod,
I'n Priod, fu ar y pren:
I esmwythâu'n pwn, yn hwn bo'n hawl,
Lle geill pob sawl, ar dôn ddi dawl,
Gyd—ganu mawl.—Amen.
—THOMAS EDWARDS.
CAROL 14.
Mesur—DORCHESTER MARCH.
GAN ini fod trwy ras yn fyw
I weled heddyw ŵyl Nadolig,
Dod gymhorth ini, Nefol Ri,
I'w chadw hi'n barchedig:
Rho in' oleuni, nerth, a dawn,
Er mwyn yr uniawn, raslawn Iesu,
Yr hwn a ddaeth o'i breswyl deg,
Ar redeg i'n gwaredu.
Efe a ddaeth yn ol yr arfaeth,
I barthau isa'r greadigaeth,
Fel y dygai boenedigaeth:
Fe ddaeth yn berffaith odiaeth Un,
I wisgo am dano natur dyn.
Rhyfeddai côr y nefoedd eirian
Wel'd gwisg o gnawd am Dduw ei hunan;
A hynod ymgynhyrfodd anian
Pan ddaeth yn Faban egwan noeth,
Ac eto'n Dduw anfeidrol ddoeth.
Er ised caed yr Iesu cu
Llawenu o'i eni wnae holl anian:
Cyd—ganodd teulu'r nef yn nghyd,
Pan ddaeth i'r byd yn Faban.
Angylion gwynion gwlad y gwawl
Oedd weision siriawl y Messia,
Gan deithio'n gyflym ato ef,
O'r nef i dir Judea.
Pa faint mwy dyled sy i ni dalu,
Lu daear isod, fawl i'r Iesu
Am iddo'n rhadol, ein gwaredu
(safn orddu'r fagddu fawr;
A'i ras i ni a roe's yn awr.
Ein Iesu tirion, o'i dosturi,
A ddaeth tan wawd yn debyg ini
Fel y caem ein cyfoethogi
Trwy ei dylodi, ei gyni, a'i gur;
A gwin ei saint o'i gwpan sur
Efe fawrhaodd gyfraith Ner,
Wrth fyn'd, o'i fwynder tyner tani;
Fe'i gwnaeth yn anrhydeddus iawn
Wrth rodio'n uniawn wrthi:
Efe'i boddlonodd hi mewn rhan,
Eneiniog gwiwlan, pan ei ganwyd;
Ond gwaeddi 'roedd o hyd am waed
Nes caed y gair, "Gorphenwyd."
Gan mai'r ddynol anian bechodd
Am ddynol waed o hyd y llefodd
Cyfiawnder dwyfol; nes y cafodd,
Yn Aberth gwirfodd, lesu gwyn,
A chafwyd heddwch y pryd hyn:
Ac am na fynai'r gyfraith fanol
Neb is radd i'r Iesu siriol,
Efe a ddofai'r felldith ddwyfol.
"Duw a ymddangosodd yn y cnawd;"
Yn ddyddiwr gwiw, yn ddiodd'wr gwawd.
Ac am i'r ddeddf gael llwyr foddhad
Yn Iesu gwiwfad, ynad union,
Dylifai boll fendithion Duw
I ddynol ryw oedd weinion.
Trwy'r goruchafion seinio sy,
Caed Iesu'n addas frenin heddwch,
Ac ar y ddaear 'wyllys da
I ddynion, a diddanwch,—
Ganwyd heddyw'n ninas Dafydd
Y goreuglod Grist yr Arglwydd;
I'r holl bobl mae'n Waredydd:
Efe yw Llywydd nef a llawr,
A'i ras i ni a roes yn awr.
Ni all tafod dyn fynegi,
Na holl lüoedd gwlad goleuni,
Pa faint o freintiau a ddaeth ini
Pan ga'dd ei eni'n berffaith un;——
Yn berffaith Dduw, yn berffaith ddyn.
Ac am eni yr Iesu Grist,
A dyodde'n athrist dan fawr ruthrau,
Pregethir yr efengyl ar
Y ddaiar, i'r holl wythau.
Nid ar y tywod mae ei sail;
Nid yw hi adail 'sigwael, egwan;
Ond cenadwri a'i sail yn gref
O'i enau ef ei hunan,
"Gan imi wisgo'r ddynol natur
Pregethwch yr efengyl wiwbur
Nes y credo pob creadur;
Ewch, ewch, yn brysur mae'n iawn bryd,
I'r parthau draw a'm Haberth drud."
"Gan fod y Silo wedi dyfod,
Na fydded neb heb ei adnabod
Sydd heddyw'n oesi ar y ddaear isod:
Ef, er ei glod, fo'n bod yn Ben,
I'n huno mwy yn Nuw, Amen.
—HUGH HUGHES, (H. Tegai.)
CAROL 15.
Mesur—DIFYRWCH GWYR ABERFFRAW.
CYD-GANED dynoliaeth am ddydd gwaredigaeth,
Daeth trefn rhagluniaeth i'r goleuni,
A chân Haleluia o fawl i'r Gorucha',
Messia Judea heb dewi:
Molianwn o lawenydd, gwir ydyw bod Gwaredydd,
Fe anwyd Ceidwad ini, sef Crist y Brenin Iesu,
Cyn dydd, cyn dydd, yn Meth'lem yn ddi gudd,
Y caed Gwaredydd ar foreuddydd, O wele ddedwydd ddydd.
Caed Iesu mewn preseb, Duw Tad Tragywyddoldeb,
Yn ol y ddiareb o'i herwydd;
Haul Mawr y Cyfiawnder yn myd y gorthrymder,
Yn faban bach tyner mewn tywydd;
Hwn Ydwyf, yr Hwn Ydwyf, yn sugno bronau'r wyryf,
Gwir Awdwr pob rhyw anian tan adwyth hin ardd Eden,
Y Gair, y Gair yn gnawd, ar liniau Mair,
A chilwg Pharoah yn gosod arno i'w buro yn y pair.
Fe anwyd ein Harglwydd o deilwng had Dafydd,
I ddyoddef pob gw'radwydd, gwnawn gredu;
Bradychu'r Gwaed Gwirion, gan un o'i ddysgyblion,
Sef, Judas, ffals galon heb gelu;
Pa reswm dal yr Iesu, pa achos ei fradychu,
Collfarnu Duw Jehofa, wnaeth dynion gwael ei doniau,
Mab Duw, Mab Duw, dan ddirmyg dynol ryw,
Mewn poen a dolur, Cynnaliwr natur pob rhyw greadur byw.
Ein Meichiau a'n Meddyg, dan fflangell Iuddewig,
Ar agwedd un diddig yn ddyoddef,
A'i farnu gan Pilat, a'i wisgo mewn 'sgarlad,
Gan ddynion dideimlad, rhaid addef;
A phlethu draenen bigog, yn goron annhrugarog,
A'i gosod mewn modd creulon ar ben Iachawdwr dynion,
Fel hyn, fel hyn, y gwasgwyd Iesu gwyn,
O dan arteithiau, ein mawrion feiau, i boenau pen y bryn.
Ei gymhell mewn dirmyg i gario'r groes bwysig,
A'i gefn yn friwedig, afradwyr;
Rho'i Mab y Jehofa i ddirmyg Calfaria,
Dan lwyth o bechodau pechadur;
A hoelio yn ngoleu Haulwen, Crist Iesu ar y croesbren,
A'i draed a'i ddwylaw'n ddolur, yn ymladd trosom frwydr,
A'r gwaed, a'r gwaed, wrth drengu, o'i ben a'i draed
Fel megys afon, o dyllau'r hoelion, yn ffrydiau cochion caed.
Tywyllodd yr hollfyd, wrth weled Haul Bywyd
Yn dyoddef mewn tristyd ar drostan;
Tywysog y fagddu yn ceisio lle i lechu,
A'r ddaear yn crynu—cur anian;
'Roedd agwedd y creigiau, fel ystyllod yn holltau,
A'r beddau yn agoryd, a'r meirw yn cael bywyd;
Mawr fraw, mawr fraw, yn lluddias pawb ger llaw,
Y gwŷr flangellau a'r milwyr, yn troi wynebau draw.
Nid marw wnaeth Silo wrth gael ei groeshoelio,
A myn'd i dir ango' trwy ingoedd;
'Roedd ganddo ef allu roi'i ysbryd i fynu,
A'i gym'ryd wnai'r Iesu, ni rosodd.
Daeth Iesu, Craig yr Oesoedd, fel ufudd was o'r nefoedd,
Disgynodd o'r uchelder i barthau isa'r ddaear;
Mewn bedd, mewn bedd ni wywodd dim o'i wedd,
Ond adgyfodi ddarfu'r Iesu 'nol claddu angau cledd.
Er ymdrech rhaglawiaid, a gofal milwriaid,
Er gwaetha'r holl geidwaid fe gododd;
Y maen, wedi'i selio, a gafodd ei dreiglo,
A phawb oedd yn gwylio a giliodd:
Fe dalodd yr holl ddyled dros ferch yr hen Amoriad,
A chroesi y biliau, dileu'r ordinhadau;—
O byrth, O byrth, dyrchefwch gyda'r gwyrth,
Ma'r Brenin Iesu yn d'od i fynu—gwaith synu, byth ni syrth.
Yr Aberth trag'wyddol yn awr sydd yn eiriol,
Trwy rinwedd gwaed dwyfol caed afon,
A darddodd yn dechreu o ochr ein Meichiau,
Ar fynydd Golgotha, rhwng caethion.
Mae afon goch Calfaria yn canu'r Ethiop dua',
Mor wyn a'r eira ar Eryri, heb frychau chwaith na chrych.
Trwy'r gwaed, trwy'r gwaed digonol Iawn a gaed,
I gadw'r heintus a'r gwahan—glwyfus yn drefnus ar eu traed.
Defnyddiwn ein breintiau, mae perygl o'n holau,
Cyn delo dydd angau diangwn;
Mae heddyw'n ddydd cymmod, a'r swper yn barod,
A'r bwrdd wedi'i osod—O brysiwn:
Mae'r dwylaw fu tan hoelion yn derbyn plant afradlon,
I wlad y Ganaan nefol, i wledda yn drag'wyddol.
Amen, Amen, O moliant byth, Amen,
Haleluia i'r Messia sy'n maddeu byth, Amen.
CAROL 16.
Mesur—DUW GADWO'R FRENHINES.
DEFFROWN, Deffrown i ganu'n ffraeth,
Gan gofio'r dydd a'r awr y daeth i'n Feddyg da;
Mae gwedi ei eni gyda'r wawr,
Fel dygai luoedd daear lawr o'u blinfawr bla.
Rhyfeddod rhyfeddodau'r byd,
Oedd gwel'd, ar gyfer hyn o bryd,
Hwn gyda Mair yn faban mud—rhow'n iddo'r mawl;
Pan anwyd ef, fendigaid Iôr,
Meddiannydd pob—peth yw ein Pôr,
I'w foli daeth angylaidd gôr o fro y gwawl.
Clodforwn ninau'r Meddyg mawr,
Yr hwn o'i lwyr—fodd ddaeth i lawr o'i nefol lys;
Ac er ei eni o forwyn dlawd,
Mae ini'n Frenin ac yn Frawd,—awn ato ar frys.
Gwrthrychau cariad lesu cu
Oedd dynion, ar y ddaear ddu:
Fe gedwir tyrfa, mae o'n tu, rhag distryw tân.
Ac ni chymerodd Iesu mawr
Naturiaeth engyl—maent yn awr
Fel ag y bwriwyd hwy i lawr o'r nefoedd lân.
Bu fyw yn addfwyn dan y nef;
Hosanna! boed i'w foliant ef orlenwi'r tir.
Ac ar y ddaear hon pan ddaeth,
Ffordd i'n dwyn ni o'r carchar caeth a wnaeth yn wir;
Awn ato ef, fe wrendy'n cwyn,
Mae wedi marw er ein mwyn,
Ac felly fe wnaeth ffordd i'n dwyn i hedd â'i Dad:
Er iddo farw, 'nawr mae'n fyw,
Yn eiriol ar ddeheulaw Duw,
Ac am a wnaeth i ni, fe glyw rhai yn mhob gwlad.
Bydd son am eni'r Iesu mawr
O dan ei lwydd drwy'r ddaear lawr—mae'n myn'd ar led,
A son am ddyoddefiadu'i oes,
Ac fel bu farw ar y groes:—Rhown ynddo gred.
Efengyl a chenhadon sydd
Yn myned allan yn ein dydd,
Boed iddynt fyned yn ddiludd i bob rhyw wlad:
Mae clywed am ei angau E',
A'r hyn a wnaeth o dan y ne',
I ddynion llymion, yn mhob lle, yn dwyn gwellhad.
Gogoniant byth a fo i'r Tad,
A'r Mab goleu-ddoeth yn mhob gwlad, a'r Ysbryd Glân;
Megys yr oedd cyn dechreu'r byd,
Y mae'r awr hon, a bydd o hyd yn ddiwahan.
Bydd i angylion gwynion gwawl,
Ynghyd a dynion yn ddidawl,
I'w enw mawr wir seinio mawl. Amen, Amen.
CAROL 17.
Mesur—MENTRA GWEN.
AR gyfer heddyw'r bore, 'n faban bach, 'n faban bach,
Y ganwyd Gwreiddyn Jesse, yn faban bach.
Y Cadarn ddaeth o Bosra,
Y Deddfwr gynt ar Sina',
Yr Iawn gaed ar Galfaria, 'n faban bach, 'n faban bach,
Yn sugno bron Mareia, 'n faban bach.
Caed bywiol Ddwfr Ezeciel, ar lin Mair, ar lin Mair,
A gwir Fessia Daniel, ar lin Mair;
Caed Bachgen doeth Esaia,
'Raddewid ro'ed i Adda,
Yr Alpha a'r Omega, ar lin Mair, ar lin Mair,
Mewn côr y'Methle'm Juda, ar lin Mair.
Gorphwyswch bellach, Lefiaid, cafwyd Iawn, cafwyd Iawn
Nid rhaid wrth anifeiliaid, cafwyd Iawn.
Diflannu wnaeth y cysgod,
Mae'r Sylwedd gwedi dyfod,
Nid rhaid wrth ŵyn a bychod, cafwyd Iawn, cafwyd Iawn
Na theirw na thurturod, cafwyd Iawn.
Ystyriwn gariad Trindod, o'u gwir fodd, o'u gwir fodd,
Yn trefnu ffordd y cymmod, o'u gwir fodd;
Y Tad yn ethol Meichau,
Y Mab yn foddlon dyodde',
A'r Ysbryd Glân â'i ddoniau, o'u gwir fodd, o'u gwir fodd
Yn tywys Seion adre', o'u gwir fodd.
Diosgodd Crist ei goron, o'i wir fodd, o'i wir fodd,
Er mwyn coroni Seion, o'i wir fodd;
I blygu ei ben dihalog
O dan y goron ddreiniog,
I ddyoddef dirmyg llidiog, o'i wir fodd, o'i wir fodd,
Er codi pen yr euog, o'i wir fodd.
O cofiwn Gethsemane, lle bu ef, lle bu ef
Yn chwysu'r gwaed yn ddagrau, lle bu ef;
Ac am y flangell greulon
Yn arddu cefn y Cyfion
Ar hyd heolydd Seion, lle bu ef, lle bu ef,
A'i gnawd yn gwysi hirion, lle bu ef.
Hawdd olrhain ei gerddiad, hyd y llys, hyd y llys,
Gan lwybr coch orlifiad, hyd y llys,
Lle cafodd Iesu cyfion
Ei watwar gan elynion,
A tharo'i wyneb tirion, yn y llys, yn y llys,
Er dirmyg ar ei berson, yn y llys.
O'r llys at orsedd Pilat, er ein mwyn, er ein mwyn;
Taenellwyd gwaed y Cymmod, er ein mwyn;
Lle bu y Duw anfeidrol
Yn goddef barn angeuol
Gan ei greadur meidrol, er ein mwyn, er ein mwyn,
Yn fud fel caeth troseddol, er ein mwyn.
O dacw'r Oen mewn dalfa, er ein mwyn, er ein mwyn,
Yn esgyn pen Calfaria, er ein mwyn,
I ddyoddef Dwyfol loesion,
Ar bren y groes rhwng lladron,
Y bicell fain a'r hoelion, er ein mwyn, er ein mwyn,
A cholli gwaed ei galon, er ein mwyn.
Gorweddodd yn y beddrod, er ein mwyn, er ein mwyn,
I dynu'r damp o'i waelod, er ein mwyn;
Yn awr mae ar ei orsedd,
Yn cynnyg rhad drugaredd,
Maddeuant a thangnefedd, er ein mwyn, er ein mwyn,
I'r adyn mwyaf ffiaidd, er ein mwyn.
Cyfiawnder a foddlonwyd, waith ei Iawn, waith ei Iawn,
A'r ddeddf a anrhydeddwyd, waith ei Iawn;
Mae uffern fawr yn crynu,
A'r durtur bêr yn canu,
A Duw a dyn yn gwenu, waith ei Iawn, waith ei Iawn,
Mewn hedd y'mherson Iesu, waith ei Iawn.
Am hyn, bechadur, brysia, fel yr wyt, fel yr wyt,
I 'mofyn am y Noddfa, fel yr wyt;
I ti'r agorwyd ffynon
A ylch dy glwyfau duon
Fel eira gwyn yn Salmon; fel yr wyt, fel yr wyt,
Gan hyny tyr'd yn brydlon, fel yr wyt.
CAROL 18.
Mesur—ELUSENI MEISTRES.
CYDGANWN i'r Gogoned,
Ar doriad dydd, heb ffael trwy ffydd,
Ac oni wnawn yn ffyddlon,
Mae'n foddion llwyr ddifudd;
Ymro'wn i foli'r Arglwydd,
Dduw bylwydd hael fel dylai gael,
Mewn ysbryd a gwirionedd,
Heb ffoledd yn ddiffael;
Ni ddylem felly addoli
Ei fawrhydi ef o hyd,
Trwy gariad gwiw, holl ddynol ryw,
Tra byddom byw'n y byd;
Ow! rhoddwn ein calonau,
A'n holl serchiadau goreu i Grist,
A brynai'r byd mewn union bryd,
Trwy adfyd trymfyd trist.
Fe anwyd, clod i'w enw,
I gadw'n gu'r holl seintiau sy,
A rhei'ny ddaw'n ddiomedd,
Yn fwynaidd, ac a fu;
Ei gariad ef a'i gyrodd,.
O'i fodd i fyw at ddynolryw,
I'w hachub hwy trwy achos,
Mae'n dangos hyn, on'd yw?
Ni buasai dyn cadwedig,
Oni b'ai i'r Oen diddig, Meddyg mawr,
Dd'od ato ef o entrych nef,
Pan glybu ei lef i lawr;
Ac yn ei waed fe'i cafodd,
Ac yno ym'gleddodd ef yn glau,
Rhoes win i'w friw, ac olew gwiw,
Gwnai'r cyfryw heb nacâu.
Hysbysaf beth yn mhellach,
Ddeheuach hyn i'r sawl a'i myn,
Pwy oedd y dyn lled farw,
A'i waed yn llanw'n llyn;
Hen Adda gynt a bechodd,
O'i fodd ei hun, gan lygru ei lun,
A phawb ar fyr â'i'n farw,
Yn hwn tan enw un;
A'r holl archollion hynod,
Yw briwiau pechod, trallod drud,
I olwg ffydd maent eto heb gudd,
Gwn beunydd yn y byd;
A'r gwin a'r olew, gwelwch,
Yw gras da a heddwch Crist ei hun,
A roes i'r saint, hyfrydol fraint,
Er lladd yr haint a'i llun.
I brynu y bobl yma,
Mi brofaf hyn, bu'r Iesu gwyn,
Yn colli ei waed, mi dd'weda',
Ar ben Calfaria fryn;
Peth mawr na choll'sem ninau
Rai dagrau dwys, trwy ffydd a phwys,
Am ras, os y'm heb gaffael,
Cyn myn'd mewn cesail cwys;
Os digwydd dydd marwolaeth,
Cyn troadigaeth, alaeth yw,
Nid eiff heb ras na gŵr na gwas,
I addas deyrnas Dduw;
Ond rhwn sy'n byw'n ysbrydol,
Gan rodio wrth reol grasol Crist,
Duw'n ddiau a ddaw â hwn rhagllaw
I'r nefoedd draw'n ddi drist.
DANIEL JONES.
CAROL 19.
Mesur—GWEL YR ADEILAD.
RHOWCH osteg yn ystyriol, drwy gariad yma i Garol,
Iawn fuddiol foddion;
Er gwaeled ei gynghanedd, mae ynddo o'i ddechreu i'w ddiwedd,
Wirionedd union:
'Roedd Duw, cyn bod creadur byw,
Yn Ysbryd hapus,—gwae sy'n amheus
Oi allu a'i 'wyllys, cariadus, gweddus, gwiw,
Mae'r 'sgrythyr oll yn gytun yn dangos hyn, on'd yw;
Di frad, gwnaeth ef angylion gâd,
I'w wasanaethu a'i anrhydeddu,Heb. i. 14.
A'r moddion hyny oedd yn cyd—dynu â'r Tad,
Fel hyn amlygai ei agwedd wir gariad rhyfedd rhad.
A Lucifer mewn rhyfyg, gyfodai'n felldigedig,
Wenwynig anian;
Mewn balchder brenin pechod, chwennychodd drechu'n hynod,
Dduw ei hunan;
'Run awr aeth Lucifer i lawrDat. xii.
O'r nefoedd uchod i'r ddaear isod,
Y pwll diwaelod, gan godi ei wiwnod wawr;
Am ch wennych m or anmharchus i'r Arglwydd moddus mawr;
O'r nyth, lle syrthiodd ef drwy druth,
Nid eill mo'r dringo, os yw'n ewyllysio,
Gau rwymiad sy arno, sef yno i'w suddo'n syth,
Heb ob aith cael cyfnewid o'i adfyd funud fyth.
A'r Arglwydd a wnaeth Adda, yn gyfion gydag Efa,
Dedwydda' deuddyn;
Os cadwent 'rhyn a archai, nas gallai dim drwy'r dyddiau
Wneyd niwed iddyn';
Un clwy', nid oedd yn Eden trwy,
Na thân i'w llosgi, na dwfr i'w boddi,
Na gwres nac oerni, byth i'w dihoeni hwy,
Ac eto os gwnaent ond pechu, ni pharai hyny'n hŵy;
A'r dyn, pob peth oedd yn gytun,
Holl waith ein Llywydd, creaduriaid beunydd,
Oedd gyda'u gilydd yn llonydd yn eu llun,
Heb ynddynt un gynddaredd na naws anweddaidd wŷn.
A chwedi, yn mhen 'chydig, daeth Satan felldigedig
I ymgynyg yno,
Fel carwr ffals, anffyddlon, nes hudo'r wraig wan galon,
Ac Adda, i'w goelio;
Fe wnaeth hen Adda ac Efa'n gaeth,
Am dòri'n eglur orchymyn cywir
Eu doeth Benadur,—beth allent wneuthur waeth;
Pan goelient eiriau'r gelyn caent ddychryn sydyn saeth;
A'r dyn, a serchodd arno ei hun,
Dim hŵy nis bwytai Baradwys ffrwythau,
Oedd dda'n ddiameu, i'w ran ni fynai'r un,
Ond porthi ei anian gnawdol, eilunod oedd ei lun.
Nid oedd ar Dduw mo'r ddyled i 'mwisgo â chawd i'n gwared,
Mae'i air yn gwirio;
'R oedd cariad a thrugaredd, ni welwn yn ddiwaeledd,
Ddigonedd ganddo;
Y draul, a fwriai fe'n ddiffael,
Cyn iddo amlygu, na bod mewn beudy,
Fe wyddai'r Iesu beth oedd heb gelu i'w gael,
Nid llai na marw'n galed, 'rwy'n gweled tros ddyn gwael;
Oen ne', pan ddaeth i Fethle'm dre',
A chael ei eni o'r forwyn Fari,
Ei elynion difri fel llwyni oedd yn mhob lle,
A Herod, gynta', oedd waedlyd am ddwyn ei fywyd E.
Yn ddiwad 'roedd Iuddewon yn bobl uchel feilchion,
O galon galed;
Nis mynent hwy mo'r coelio mai dyma'r cywir Silo,
A rag-groeshoelied:
A hyn, sef anghrediniaeth dyn,
A'i gwnai'n anniddig, fel Satan ffyrnig,
Yn felldigedig mewn rhyfyg sarug syn,
Gan chwennych rhyw ddrwg ddiwedd i'r gwir Oen gwaraidd gwyn;
Fel gwas, cynnygiai i Israel ras,
Rhan fwya'n sydyn cyfodai i'w erbyn,
Yn llwyr ysgymun, mewn ysbryd cyndyn cas,
Nis clywent ar ei eiriau gan flin faleisiau fas.
A Christ, er llwyr gyflawni gair Moses a'r proffwydi,
Gwnai ymroddi 'n rhwyddaidd,
I ddwylaw pechaduriaid, sef tros yr ethol ddefaid;
Yr aeth mor ddofaidd;
Lle bu, yn llonydd yn ngwydd llu,
Yn dyodde' ei gleisio yn lle'i holl eiddo,
A'i wydn wawdio, ac yno ei hoelio'n hy';
Ac felly tan y felldith yn prynu bendith bu:
Fel saeth, trwy'r cystudd mawr yr aeth,
Gan ddangos ini ffordd pob daioni
I wlad goleuni, a'i llwyr ddynoethi a wnaeth,
Ac yno yn ngwydd y tystion, i'r nef Oen union aeth.
Yn Iesu'r ymddangosodd y ddelw gynt a gollodd
Y ddeuddyn gwallus;
Yr hon oedd gwir santeiddrwydd a ffrwythau pob perffeithrwydd,
Hylwydd hwylus;
A'r dyn, sy i ymwadu âg ef ei hun,
Yr unrhyw ddelw, mewn rhan, sy ar hwnw,
Mae Crist i'w alw yn Frawd, heb groyw gryn,
Mewn bywyd a 'marweddiad, mae'u tyniad yn gytun;
I hyn y ganwyd Iesu gwyn,
I ollwng allan ei bobl egwan,
O garchar syfrdan hen aflan Satan syn,
A'u dwyn at fyrdd o angylion i fro neu Seion fryn.
A'r sawl sy heb gael dychweliad, gwnewch chwilio gair Duw'n wastad,
Neu wrando'n ystig;
Yn aml fel hyn yma, bu rhai'n cael ffydd, mi brofa',
Drwy hyny'n unig;
'Roedd un yn darllen iddo ei hun
Broffwydoliaeth am Iesu o Nazareth,
Mewn anwybodaeth, di—elyniaeth oedd ei lun,
Daeth Philip i'w gyf'rwyddo, gan wir fedyddio'r dyn.
Fe drodd ynghylch tair mil un modd,
Wrth wrando ar Bedr yn dweyd trwy burder,
Eu beiau a'u harfer ysgeler nid ysgodd,
A'u calon wrth ei wrando oedd yn merwino, ymrôdd.
Ymroddwn ninau heddyw i Dduw, ni a allwn farw
Cyn y foru;
Dychwelwch chwi rai uchel, a dewch gerbron yn isel,
Y Brenin Iesu;
Pwy ŵyr ai haner dydd ai hwyr,
Y daw'r Oen did wyll i farnu ar fawrbwyll,
Gan losgi'n fyrbwyll y byd fel canwyll gŵyr;
Yr Arglwydd o'r uchelne', Efe yw'r goreu a'i gwyr;
O Dad! sy'n llawn o bob gwellhad,
Gwna ni'n ddilynwyr Crist heb rwystr,
'Nol gair y 'sgrythyr, fel brodyr heb ddim brad,
Gan roddi i ti'n ddiddiwedd anrhydedd a mawrhad.
Y sawl ar hyn sy'n gwrando, yr Arglwydd a'th gynhyrfo,
I'w goelio heb gilwg;
Nid gair disylwedd salaf, ond geiriau Duw Goruchaf,
Sydd yma'n amlwg:
Fe fydd y geiriau hyn heb gudd,
Ddydd barn i'n safio, neu ein condemnio,
Sant Paul sy'n tystio, ac Esay i'w selio sydd;
Nid aiff gair Duw dan gwmwl, na'i feddwl yn ddifudd;
Tawdd rhai gan wres gair Duw di drai,
A':sawl nis toddant fe'u seria â'i soriant,
Am hyny ymhoenant, caledu wnant fel clai,
Y rhai'n ânt yn gaeth—weision, a'r lleill yn Seion sai'.
—DANIEL JONES.
ARGRAFFWYD GAN H. HUMPHREYS, CAERNARFON.
Nodiadau
golyguBu farw awdur y gwaith hwn cyn 1 Ionawr, 1924, ac mae felly yn y parth cyhoeddus ledled y byd gan fod yr awdur wedi marw ers dros 100 mlynedd yn ol.