Telynegion Maes a Môr/Bob nos olau leuad

Hyd fin y maes, ym min yr hwyr Telynegion Maes a Môr
Telynegion Men
gan Eliseus Williams (Eifion Wyn)

Telynegion Men
Cartre'r Haf yw Deffrobani

BOB NOS OLAU LEUAD.

BOB nos olau leuad,
Fel deuai'n thro,
Rhodianna i garu
Wnâi deuoedd y fro;
Mordwyo wnaem ninnau
O gilfach y gro;

Mordwyo, mordwyo,
O gyrraedd, o glyw,
Myfi wrth y rhwyfau,
A Men wrth y llyw.

'Roedd cariad yn ieuanc
A ffôl ar y pryd,
Y môr oedd ei degan,
A'r cwch oedd ei grud,
A difyr oedd chwarae
Hyd wyneb ei fyd;

Mordwyo, mordwyo,
A'r galon yn llon;
A'r lloergan fel barrug
Y môr ar y don.

Mwy hoff na chwedleua
Ac eistedd tan bren,
Oedd gwrando chwerthiniad
Y tonnau, gan Men,

Neu gri y gylfinhir
A'r wylan uwchben

Mordwyo, mordwyo,
O olwg y tir,
A'r rhwyfau ar brydiau
Yn sefyll yn hir.

Rhyw nos olau leuad
A ddaeth yn ei thro,
Rhodianna i garu
Wnâi deuoedd y fro;
Mordwyo wnaem ninnau
O gilfach y gro:

A gwnaethom cyn dychwel
Y llw i gyd—fyw,
Myfi wrth y rhwyfau,
A Men wrth y llyw.