Telynegion Maes a Môr/Hwiangerdd Sul y Blodau

Cynhwysiad Telynegion Maes a Môr
Telynegion Bywyd
gan Eliseus Williams (Eifion Wyn)

Telynegion Bywyd
Flower Sunday Lullaby

TELYNEGION

MAES A MÔR.

HWIANGERDD SUL Y BLODAU.

(I fy Mam.)

Tan y garreg las a'r blodau,
Cysga, berl dy fam;
Gwybod mae dy dad a minnau
Na dderbyni gam:
Gwn nad oes un beddrod bychan
Heb ei angel gwyn;
Cwsg, fy mhlentyn, yma'th hunan-
Cwsg, Goronwy Wyn.

Cofio'r wy, pan oeddit gartre'n
Cysgu gyda ni,
Cadw fynnwn blant y pentre
Rhag dy darfu di :
Ond boddlonwn iddynt heno,
Gyda'u miri iach,
Pe bai obaith iddynt ddeffro
Fy Ngoronwy bach.


Cwsg, fy mhlentyn, heb dy fami —
Cwsg yn erw Duw;
Casglu blodau buom iti —
Sul y Blodau yw:
Chwe briallen fach a ddywed
Mai yr haf yw hi;
Cwsg o danynt heb eu gweled,
Cwsg, fy rhosyn i.

Beth i serch yw mis a blwyddyn?
Cwsg, fy nhlysaf un;
Onid ti yw'm hunig blentyn
Nad yw'n mynd yn hŷn?
Mae y lleill yn symud, symud,
Ac yn bryder im;
Ond nid felly di, f'anwylyd—
'Chrwydra'r marw ddim!

Tan y garreg las, Goronwy,—
Cysga beth yn hwy;
Rhaid yw dweud Nos da,” Goronwy,
Mynd a'th ado'r wy':
Nid oes eisiau llaw i'th siglo
Yn dy newydd grud;
Cwsg, nes gweld ein gilydd eto,
Cwsg, a gwyn dy fyd.