Telynegion Maes a Môr/Hydref
← Medi | Telynegion Maes a Môr gan Eliseus Williams (Eifion Wyn) |
Tachwedd → |
HYDREF.
"CADWAF fy ngwyl," medd bywyd,
Galwaf fy ngwyrdd yn ôl;
Casglaf fy mlodau adref
O'r mynydd, yr ardd, a'r ddôl " —
Clybu y maes a'r prennau,
A rhywbryd rhwng hwyr a gwawr
Cyfododd y gwersyll blodau —
Mae'r pebyll yn llwyd hyd lawr.
Caea y dydd ei lygad
Cysglyd yn gynt a chynt;
Clywir lle bu'r uchedydd
Ryferthwy y glaw a'r gwynt:
Crin y binwydden ieuanc,
Cydia'n y mynydd mawr —
Ni ellir goroesi gaeaf
Heb wreiddio yn ddwfn i lawr.
Cyfyd y môr ei donnau,
Cyfyd yn uwch ei ru;
Tybed ddaw'r llong i borthladd,
A'r morwr yn ôl i'w dý?
Diolch i Dduw am aelwyd,
A diolch i Dduw am dân;
Mae rhywrai heb dân nac aelwyd,
Na chalon i ganu cân.