Telynegion Maes a Môr/O'r Deffroad

Ochain y Clwyfawg Telynegion Maes a Môr

gan Eliseus Williams (Eifion Wyn)

Cymru'r Diwygiad

O'R DEFFROAD.

"Bu Tom Ellis farw yn Ffrainc: ni fydd byth farw yng Nghymru."

Ennwch imi o'r Deffroad
Ei ladmerydd ef,
Hwnnw safodd buraf drosto,
Safodd dros y nef;
Ennwch ddewin a thywysog,
Ennwch lawer mwy —
Enwaf finnau'r marw ieuanc
Oedd yn nes na hwy.

Tua'r Cynlas, bore —deimlodd
Enedigaeth —wawr
Cenedl burach Cymru fyddai
Yn ei feddwl mawr;
Credodd yn y weledigaeth,
Credodd yn ei Dduw;
Credodd Cymru'r ddau, a'i hunan,
A dechreuodd fyw.

Ysbryd tanllyd rhy angerddol
Oedd i losgi'n hir;
Trwy'r Deffroad, cerdda allan
Gan oddeithio'r tir:
Bydd yn ynni ar y bryniau,
Rhyngddynt ym mhob cwm;
Bydd ei enw'n ysbrydoliaeth
Mewn bythynnod llwm.


Y Deffroad, onid bywyd
Gorau Cynlas yw,
Gan un galon genedlaethol
Eto'n cael ei fyw?
Onid yw ei ysbryd trwyddo
Gyda ni yn awr,
Yn y wlad yn ysgrifennu
Ei farddoniaeth fawr?

Hawdd yw wylo 'ngwydd ei aberth —
Hawdd gan wlad a thref;
Hawddach gweithio wedi aros
Ger ei allor ef:
Collodd Cymru ail Lywelyn,
Bellach, hi a fedd
Ynnot ti, o Gefn y Ddwysarn,
Hoffach Gefn y Bedd.