Telynegion Maes a Môr/Paradwys y Bardd
← Cymru'r Diwygiad | Telynegion Maes a Môr gan Eliseus Williams (Eifion Wyn) |
→ |
"PARADWYS Y BARDD."
CYMRU fach i mi —
Bro y llus a'r llynnoedd,
Corlan y mynyddoedd,
Hawdd ei charu hi.
Sôn am diroedd hud —
Tecach na'r rhai hynny
Ydyw erwau Cymru,
Gwell na broydd byd.
Yn ei hanes hen
Enwir mil o arwyr,
Llin marchogion Arthur
Cedyrn cad a llên.
Mâg rai eraill mwy —
Gwŷr fo'n olud daear,
Na bu'n llys Gwenhwyfar
Hafal iddynt hwy.
Cymru fach i mi —
Cartre crwth a thelyn,
Cysegr salm ac emyn,
Porth y nef yw hi.