Telynegion Maes a Môr/Rhagfyr

Tachwedd Telynegion Maes a Môr

gan Eliseus Williams (Eifion Wyn)

Trioedd y Mynydd

RHAGFYR.

(Bu Tachwedd, 1902, yn fis prudd i mi: torrodd
fedd i fy nhad.)

CASGL y nifwl, chwâl y nifwl
Ei lywethau uwch y dref;
Nid oes sŵn ym mrig y morwydd —
Nid oes belydr yn y nef:
Acw ar ei gorsen ysig
Gwelaf un blodeuyn claf —
Bu fy nhad fel yntau'n edwi,
Edwi'n dlws fel ffarwel haf.

Cryn yr eira, syrth yr eira
Ar yr heol, ar y coed,
Nes yw'r ddaear fel y Ddinas
Na lychwinodd neb erioed:
Cudd y graith ar y dywarchen,
Fel na welwyf mo'ni hi;
Ond ni chudd yr eira gwynna 'r
Graith sydd ar fy nghalon i.

Cân y clychau, chwardd y clychau
Yn eu dawns yn nhwr y dref —
Ai fel hyn y ceidw rhywrai
Heddiw Ei Nadolig Ef?
Heddiw wedi gŵyl a defod
Ugain canrif namyn un,
Os yw Duw yn caru dynion,
Nid yw dyn yn caru dyn!