Telynegion Maes a Môr/Y Llanw

Perthi Mai Telynegion Maes a Môr

gan Eliseus Williams (Eifion Wyn)

Yr Afon

Telynegion y Mor

Y LLANW.

I.

Beth yw'r llanw? Swyn y lloer
Ar y dyfnfor yn ymsymud;
Yntau'n caru'r Wen yn ôl,
Ac yn ceisio ei anwylyd:
Unwaith, dwywaith yn y dydd,
Tyrr ei galon ar y morfin;
Oni wyr y gwmon crin?
Oni wyr y gro a'r cregin?

Beth yw'r llanw i dydi,
Pan fo'n torri ar ei dywyn?
Nid yr un i bob gwrandawr
Yw'r gyfrinach yn yr ewyn:
Gwrendy un ar lais y llif —
Clyw y tonnau'n chwerthin, chwerthin:
Gwrendy'r llall, a beth a glyw?
Mabinogi nos y ddrycin!

II.

Chwery plentyn ger fy mron,
Marchog bychan un diwrnod;
Gerllaw eddi gwyn y don,
Cyfyd Gastell yn y tywod.
Crug o dywod, mur a thậr,
Caer o dywod i'w amddiffyn;
Pyrth o wmon llyfn y dŵr—
O, gadernid Castell plentyn!


Casgl y cregin i'w decáu —
Oni chlyw y llanw'n dyfod?
Her i'w Gastell gael ei gau
Gan y môr, fel Cantre'r Gwaelod.

Ofer fu'r saernïo hir, —
Newid bryd wna'r arglwydd bychan;
Myn i'r llanw ennill tir
Ar y Castell wnaeth ei hunan.

Chwardd y marchog, cymer ffon,
A thyrr gamlas yn y draethell,
Er mwyn gollwng llif y don,
Fel Seithenyn, at ei Gastell.

Beth yw'r môr, y glasfor maith, —
Beth yw llanw'r môr i blentyn?
Onid tegan —tegan llaith?
Cymar chwarae rhwng dau gyntun!

III.


Nawnddydd arall, ger y môr,
Eistedd brenin yn ei gadair;
Corsen teyrnas yn ei law,
Uwch ei arlais dalaith ddisglair:
Chwardd y feisdon oddi draw,
Chwardd yr haul ar emau'i goron;
Yntau gan ei ddoethed chwardd —
Chwardd y brenin yn ei galon.


Saif sidanog wŷr ei lys
Ar y traeth, gan sisial wrtho —
Rhaid i'r llanw pan y'th wêl,
Gilio'n ôl cyn hanner llifo:
Nid yw'r môr yn fwy na'th air,
Nid yw Duw yn fwy na'n brenin," —
Yntau gan ei ddoethed chwardd —
Chwardd y llanw yn y cregin.

Uwch a nes y dêl y llif,
Tros y tywod, tros y gwmon;
Ac ni chymer arno weld
Corsen aur a gemau'r goron:
Ebe'r brenin wrtho'i hun, —
Min y traeth a ddysg ddoethineb;
Os mai ffals yw gwŷr fy llys,
Nid yw'r môr dderbyniwr wyneb."

Pan y sisial ar y traeth,
Ond ni phaid y tonnau lifo,
Hyd nes gylch y nawfed don
Odre'r brenin, gan ei leithio:
Gwelwch," ebe yntau'n ddoeth,
Gan ostegu'r mwynder seithug,
'Nid yw'r Llanw 'n ofni teyrn,
Nid yw mawredd ond dychymyg."

IV.

Geilw y llanw ym mhorth y môr,
A chlywir ohoian ym mrig y dydd:
Codwch yr angor i fwrdd y llong,
Gollyngwch garcharor y trai yn rhydd;
Taenwch y lliain i gyd ar led,
Mae'r awel, fy mechgyn, a'r llif o'n tu "—
A dring yr angor i fwrdd y llong,
A dacw'r baneri'n cyhwfan fry.


Cenir y clychau ym mhorth y môr,
A mwy yr ohoian a'r twrf na chynt;
Gwthiwch, fy mechgyn, y llong i'r llif,
Ni erys y llanw, a theg yw'r gwynt;
Acw'n y golwg mae'r dyfnfor llaes,
Gwrandewch arno'n gwahodd, er gwaeth neu well":
Ac etyb yr hwyliau i dro y llyw; —
Yfory, hwy fyddant ymhell, ymhell.

Geilw y llanw fel serch y môr,
A'r llong â i'w ganlyn —briodferch hardd —
Gwynned ei delw yn nrych y dwfr,
A chysgod yr alarch y'nghân y bardd:
Cenwch yn iach i bererin y llif,
I long y marsiandwr, ei llwyth a'i da;
Mordwyed yn esmwyth, a doed yn ôl
O Ynys y Trysor a Thir yr Ia.

V.


Y'ngolwg Ynys Enlli
Mae caban mab y môr;
Bob dydd y gylch y llanw
Y gro o flaen ei ddôr:
Ac yn y caban hwnnw
Mae Meinir ysgafn fron;
Fel un o'r morforynion,
Neu dylwyth teg y don.


Y gwylain yw ei cheraint,
A'r draethell ei hystad;
Ond gorau gan ei chalon
Yw cwch pysgota'i thad;
Aml dro yn ei mabandod
Y cwch fu iddi'n grud;
Y tonnau yn ei siglo,
A minnau'n wyn fy myd.

Liw nos, pan fwy' yn cychwyn
I gynnull maes y don,
Bydd Meinir ger y caban,
A'i grudd mor wen a'i bron:
Un ofnus yw ei chalon,
A chas yw ganddi'r trai;
Nis gall, medd hi, ei garu,
Heb garu'i thad yn llai.

Ond pan fo 'nghwch yn dychwel,
Liw dydd, at Graig y Llam,
Bydd Meinir yn fy nisgwyl,
A'i gwên fel gwên ei mam;
A beth mor fwyn a'i chroeso,
Ar ôl y cyfnos hir?
Mae 'mherl yn caru'r llanw,
Mae'n dwyn ei thad i dir.


VI.


Cyffrous yw cri'r ystorm,
Wrth geuddor fy ystafell;
A dyna dwrf y lluwch
Yn dymchwel ar y draethell.

Mae llawer mam a mun
Yn dweud eu gweddi heno;
Ond byddar yw y môr,
Ac nid yw'r gwynt yn gwrando.

Ni ddaeth y cwch yn ôl,
Cyn iddi godi'n awel;
Ac ni eill serch gael hun,
Na phryder fod yn dawel.

Pwy ŵyr y ffordd i dir,
Heb loer na sêr i'w dywys?
A dwfn yw gwely'r môr,
A'i draethau yn fradwrus!

Bydd llawer mam a mun
Yfory ar y tywod,
Yn holi llanw'r wawr
Beth ddaeth o lanc a phriod?

Mae bara'n brin, yn brin,
A rhaid i wyr anturio;
Mae serch yn benyd oes,
A rhaid i riain wylo.


A welir eto'r cwch,
A'i astell gyda'i enw?
Ni wyr na mam na mun, —
Mae'r ateb gan y llanw!

VII.


Aros, lanw, ar y draethell,
Paid a gwrando ar y gwynt;
Galw i'm cof yr wyt o hirbell
Lawer cyfoed gerais gynt:
Wele fi, a'r cychod segur,
Eto'n sefyll ar dy fin;
Ond pa le mae 'nghyd —fordwywyr?
Yn dy ddwfn, mewn mwynach hin!

Cof gan serch eu gweld yn cychwyn,
Gan fy nghyfarch dros dy li:
Down yn ôl ymhen y flwyddyn," —
Mordaith hir i'm golwg i;
Ond ni ddaethant o fordwyo,
Er eu disgwyl lawer dydd;
Llanw arall sy'n eu suo,
Yn eu pell welyau cudd!

Gorwedd maent o dan y tonnau,
Yn Nhawelfor mawr y De;
Huno'n ddwfn ym mysg y perlau —
Llygad Duw sydd ar y lle:
Na wahardder im eu cofio,
Yn y ganig ysig hon,
Hyd nes delont adref eto,
Gyda'r llanw, dros y don!


VIII.


Gadewais wlad fy nhad a'm mam,
O hiraeth pur yn wysg fy nghefn;
Edrychais ar ei glannau'n hir,
Rhag ofn na welwn hi drachefn:
Pan aeth o'm golwg, yr oedd un
Yn glaf o galon ar y bwrdd;
B'le mae y gŵr nas câr ei wlad,
Pan fo ei long yn mynd i ffwrdd?

O'm hôl yr oedd fy Ynys Wen,
A'r môr o'i chylch yn gân i gyd;
O 'mlaen yr oedd yr Eidal deg,
Lle mae yr haf yn haf o hyd:
O'm hôl yr oedd cyfandir byw—
Cyfandir bywyd newydd dyn;
O'mlaen yr oedd yr Aifft, mor hen
Nas gŵyr yn iawn ei hoed ei hun!

Ond beth i mi, a'r galon glaf,
Oedd tesni'r Aifft a'r Eidal dlos?
Nid arnynt hwy yr oedd fy mryd,
Yng ngolau dydd, na breuddwyd nos:
Fel Gwenffrwd a Goronwy Môn,
Am Gymru yr hiraethwn i;
Tan awyr las a haul y de,
Ni cheisiwn decach bro na hi.

Cyrhaeddais lannau Cymru'n ôl,
O'r tiroedd hud, tros erwau llaith;
Yn ôl heb golli dim o'm serch,
Na cholli sill o'm hen, hen iaith;

Mae'n werth troi'n alltud ambell dro
A mynd o Gymru fach ymhell,
Er mwyn cael dod i Gymru'n ôl,
A medru caru Cymru'n well.

IX.


Goris y llanw
Mae dinas fud,
Cantref y Gwaelod
A'i lledrith dud;
Caerog brifddinas
Y dwfn yw hon,
A brenin ei llys
Yw Dylan eil Don.

Neuaddau saffir
Sydd iddi hi,
A gerddi o ros
A meillion y lli;
Hyd ei heolydd
Y gwmon dardd,
A iarllod y môr
A'u rhiannedd chwardd.

Ambell fin nos,
Ar berlewyg byd,
Clywir ei chlychau'n
Canu ynghyd;
Clychau soniarus
Nas clybu dyn
Eu mwynach erioed,
Mewn llesmair na hun.


Glasnef y cwmwd
Yw'r môr uwchben,
Cysgod y llongau'n
Gymylau'i nen;
Tlws yw yr ieuainc
A'r hen i gyd,
Yng Nghantref y Gwaelod,
Y ddinas fud.

X.


Saif henuriad wrth y môr,
Neilltuedig broffwyd Iôr,
Gyda gwallt mor wyn â'r gwlân,
Gyda llygaid fel y tân —
Ei ddoethineb fel ei ddydd,
A'i welediad fel ei ffydd.

Gwêl y dilyw dwfr ar daen,
Fel yn toi y môr o'i flaen;
Yntau ysgrifenna i lawr,
Niegis un a wêl y wawr —
'Fel y llanw, yn ei bryd,
Taen Cyfiawnder tros y byd."

Gwêl y traethau'n mynd yn llai,
Ac yn darfod—blant y trai;
Yntau ysgrifenna i lawr,
Megis un a wêl y wawr —
"Derfydd cyfundraethau dyn,
A Gwirionedd fydd yn un."


Cudd dylifiad gwyn y don
Greithiau'r tywod ger ei fron;
Yntau ysgrifenna i lawr,
Megis un a wêl y wawr —
Pan orffenno Duw Ei waith,
Ni bydd ar Ei ddaear graith."

Gwêl y môr yn fôr o hedd,
Yn llonyddu yn ei wedd;
Yntau ysgrifenna i lawr,
Megis un a wêl y wawr —
"Wedi i ganwedd fynd ar goll,
Erys Cariad oll yn oll."

XI.


Beth yw'r môr, ei drai a'i lanw —
Creadigaeth gyntaf Duw?
Onid dameg fawr yr oesau?
Onid drych tragwyddol yw?
Fel ei lesni dwfn, nas dichon
Fod yn llonydd yn ei grud,
Onid ydyw bywyd yntau,
Yn dygyfor drwyddo i gyd?

Nid yw'r Ysbryd fu'n ymsymud
Unwaith ar y dyſnder maith,
Wedi llaesu Ei adenydd,
Na gorffwyso yn Ei waith.

Nerth Ei fywyd annherfynol —
Perffaith rym Ei Berffaith Fryd,
Sydd yn creu yr anniddigrwydd
Deimlir ym mhob oes a byd.

Mae y Cread yn ymestyn
At berffeithrwydd, at y wawr;
Ac yn nhrai a llanw'r oesau,
Cwblheir Un Amcan mawr:
Creir nef a daear newydd,
Ac fel mellten rhwng y ddwy
Ehed angel, gan ddywedyd
Na bydd môr na llanw mwy.