Telynegion Maes a Môr/Y Porth Prydferth
← Yr Afon | Telynegion Maes a Môr gan Eliseus Williams (Eifion Wyn) |
Os wyt Gymro → |
Telynegion Cymru
Y PORTH PRYDFERTH.
(Ar ddechrau Canrif.)
Ger y porth mae'th Fardd yn canu —
Byw, fy nghenedl, fo dy lên;
Cenir it farddoniaeth newydd,
Cystal a'th farddoniaeth hen;
Cyfod dithau'n sân y delyn,
Fel y dydd pan wnaed dy frad;
Ni ddaw eto Forfa Rhuddlan
Ar dy ymdrechfeydd, fy ngwlad."
Ger y porth mae'th Athro'n galwo
O fy nghenedl, canlyn fi;
Yng nghymanfa y cenhedloedd
Cedwir heddiw le i ti;
Golch dy lygad â goleuni —
Eiddot y meddylfryd mawr;
Bydd yn Roeg y ganrif newydd,
Wlad marchogion Arthur Fawr."
Ger y porth mae'th Broffwyd yntau,
Gwrando, Gymru, ar ei lef —
Croes y Crist fo yn dy galon,
Cerdd, fy nghenedl, tua'r nef:
Gwell yw Dysg na golud lawer,
Gwell na'r ddau yw sanctaidd foes;
Gløn, fy ngwlad, fel disgybl annwyl,
Ganrif arall wrth y Groes."