Telynegion Maes a Môr/Yr Afal Melyn
← Hollt y Fellten | Telynegion Maes a Môr Telynegion Serch gan Eliseus Williams (Eifion Wyn) Telynegion Serch |
Serch → |
YR AFAL MELYN.
I.
MAE pren afalau yng nghoed fy ngardd,
Ac arno un afal, mor felyn, mor felys;
Mae'r adar fu'n nythu ym mherllan y bardd,
Yn canu eu hoffedd i'r afal cariadus;
Ond caned yr adar ar ben y brigyn,
Myfi bia galon yr afal melyn.
Gwelais yr afal yn flagur glas,
Ac nid oedd yr adar yn canu bryd hynny;
Gofelais amdano drwy'r barrug a'r ias,
Cyn iddo felynu, cyn iddo felysu;
A chaned yr adar ar ben y brigyn,
Myfi bia galon yr afal melyn.
II.
Mae'r ferch a garaf yn deg o bryd,
Ac unig yw hithau ar frigyn y teulu;
Mae 'nghyfoed yn hoffi ei thegwch i gyd,
A phawb yn ymryson am gael ei chusanu;
Ond caned a gano glod fy anwylyd,
Myfi bia galon fy nghariad hefyd.
Cerais hi gyntaf yn rhiain fach,
Yn nhlysni plentyndod, ym mlagur ieuengoed;
Bûm iddi yn gysgod yn glaac yn iach,
Ar eraill bryd hynny 'roedd llygaid fy nghyfoed:
A chaned a gano glod fy anwylyd,
Myfi bia galon fy nghariad hefyd.