Testament Newydd ein Harglwydd a'n Hiachawdwr Iesu Grist (1879)/Marc XIV

Marc XIII Testament Newydd ein Harglwydd a'n Hiachawdwr Iesu Grist (1879)

gan Cymdeithas y Beibl

Marc XV
I'w lawr lwytho ar gyfer darllenydd e-lyfrau gweler Testament Newydd ein Harglwydd a'n Hiachawdwr Iesu Grist (1879 testun cyfansawdd)

PENNOD XIV

1 Cyd-fwriad yn erbyn Crist. 3 Gwraig yn tywallt ennaint gwerthfawr ar ei ben ef. 10 Judas yn gwerthu ei feistr am arian. 12 Crist ei hun yn rhag-ddywedyd y bradychai un o'i ddisgyblion ef. 22 Wedi darparu a bwytta y pasc, y mae yn ordeinio ei supper: 26 yn hysbysu ym mlaen llaw y ffoai ei holl ddisgyblion, ac y gwadai Petr ef. 43 Judas yn ei fradychu ef â chusan. 46 Ei ddala ef yn yr ardd. 53 Cynnulleidfa yr Iuddewon yn achwyn arno ef ar gam, ac yn ei farnu yn annuwiol, 65 ac yn ei ammherchi yn gywilyddus. 66 Petr yn ei wadu ef deirgwaith.

AC wedi deuddydd yr oedd y pasc, a gwyl y bara croyw: a'r arch-offeiriaid a'r ysgrifenyddion a geisiasant pa fodd y dalient ef trwy dwyll, ac y lladdent ef:

2 Eithr dywedasant Nid ar yr wyl, rhag bod cynnwrf ym mhlith y bobl.

3 ¶ A phan oedd efe yn Bethania, yn nhŷ Simon y gwahan-glwyfus, ac efe yn eistedd i fwytta, daeth gwraig a chanddi flwch o ennaint o nard gwlyb gwerthfawr ; a hi a dorrodd y blwch, ac a'i tywalltodd ar ei ben ef.

4 Ac yr oedd rhai yn anfoddlawn ynddynt eu hunain, ac yn dywedyd, I ba beth y gwnaethpwyd y golled hon o'r ennaint?

5 Oblegid fe a allasid gwerthu hwn uwch law tri chàn ceiniog, a'u âu, a dywedyd wrtho bob yn un ac rhoddi i'r tlodion. A hwy a ffrommasant yn ei herbyn hi.

6 A'r Iesu a ddywedodd, Gadêwch iddi; paham y gwnewch flinder iddi? hi a wnaeth weithred dda arnaf fi.

7 Canys bob amser y cewch y tlodion gyd â chwi; a phan fynnoch y gellwch wneuthur da iddynt hwy: ond myfi ni chewch bob amser.

8 Hyn a allodd hon, hi a'i gwnaeth: hi a achubodd y blaen i enneinio fy nghorph erbyn y claddedigaeth.

9 Yn wir meddaf i chwi, Pa le bynnag y pregether yr efengyl hon yn yr holl fyd, yr hyn a wnaeth hon hefyd a adroddir er coffa am dani.

10 ¶ A Judas Iscariot, un o'r deuddeg, a aeth ymaith at yr archoffeiriaid, i'w fradychu ef iddynt.

11 A phan glywsant, fe fu lawen ganddynt, ac a addawsant roi arian iddo. Yntau a geisiodd pa fodd y gallai yn gymmwys ei fradychu ef.

12 ¶ A'r dydd cyntaf o wyl y bara croyw, pan aberthent y pasc, dywedodd ei ddisgyblion wrtho, I ba le yr wyt ti yn ewyllysio i ni fyned i barottôi i ti, i fwytta y pasc?

13 Ac efe a anfonodd ddau o'i ddisgyblion, ac a ddywedodd wrthynt, Ewch i'r ddinas; a chyferfydd â chwi ddyn yn dwyn ystenaid o ddwfr dilynwch ef.

14 A pha le bynnag yr êl i mewn, dywedwch wrth wr y tŷ, Fod yr Athraw yn dywedyd, Pa le y mae y letty, lle y gallwyf, mi a'm disgyblion, fwytta y pasc?

15 Ac efe a ddengys i chwi oruwchystafell fawr wedi ei thaenu yn barod yno parottôwch i ni.

16 A'i ddisgyblion a aethant, ac a ddaethant i'r ddinas; ac a gawsant megis y dywedasai efe wrthynt; ac a barottoisant y pasc.

17 A phan aeth hi yn hwyr, efe a ddaeth gyd â'r deuddeg.

18 Ac fel yr oeddynt yn eistedd, ac yn bwytta, yr Iesu a ddywedodd, Yn wir meddaf i chwi, Un o honoch, yr hwn sydd yn bwytta gyd â myfi, a'm bradycha i.

19 Hwythau a ddechreuasant dristau adweedyd wrtho bob un ac un, Ai myfi? ac arall, Ai myfi?

20 Ac efe a attebodd ac a ddywedodd wrthynt, Un o'r deuddeg, yr hwn sydd yn gwlychu gyd â mi yn y ddysgl, yw efe.

21 Mab y dyn yn wir sydd yn myned ymaith, fel y mae yn ysgrifenedig am dano: ond gwae y dyn hwnnw trwy yr hwn y bradychir Mab y dyn! da fuasai i'r dyn hwnnw pe nas ganesid.

22 ¶ Ac fel yr oeddynt yn bwytta, yr Iesu a gymmerodd fara, ac a'i bendithiodd, ac a'i torrodd, ac a'i rhoddes iddynt; ac a ddywedodd, Cymmerwch, bwyttêwch: hwn yw fy nghorph.

23 Ac wedi iddo gymmeryd y cwppan, a rhoi dïolch, efe a'i rhoddes iddynt: a hwynt olla yfasant o hono.

24 Ac efe a ddywedodd wrthynt, Hwn yw fy ngwaed i o'r testament newydd, yr hwn a dywelltir dros lawer.

25 Yn wir yr wyf yn dywedyd wrthych, nad yfaf mwy o ffrwyth y winwydden, hyd y dydd hwnnw pan yfwyf ef yn newydd yn nheyrnas Dduw.

26 ¶ Ac wedi iddynt ganu mawl, hwy a aethant allan i fynydd yr Olew-wydd.

27 A dywedodd yr Iesu wrthynt, Chwi a rwystrir oll o'm plegid i y nos hon: canys ysgrifenedig yw, Tarawaf y bugail, a'r defaid a wasgerir.

28 Eithr wedi i mi adgyfodi, mi a âf o'ch blaen chwi i Galilea.

29 Ond Petr a ddywedodd wrtho, Pe byddai pawb wedi eu rhwystro, etto ni byddaf fi.

30 A dywedodd yr Iesu wrtho, Yn wir yr ydwyf yn dywedyd i ti, Heddyw, o fewn y nos hon, cyn canu o'r ceiliog ddwywaith, y gwedi fi deirgwaith.

31 Ond efe a ddywedodd yn helaethach o lawer, Pe gorfyddai i mi farw gyd â thi, ni'th wadaf ddim. A'r un modd y dywedasant oll.

32 A hwy a ddaethant i le yr oedd ei enw Gethsemane: ac efe a ddywedodd wrth ei ddisgyblion, Eisteddwch yma, tra fyddwyf yn gweddïo.

33 Ac efe a gymmerth gyd âg ef Petr, ac Iago, ac Ioan, ac a ddechreuodd ymofidio, a thristâu yn ddirfawr.

34 Ac efe a ddywedodd wrthynt, Y mae fy enaid yn athrist hyd angau arhoswch yma, a gwyliwch.

35 Ac efe a aeth ychydig ym mlaen, ac a syrthiodd ar y ddaear, ac a weddïodd, o bai bosibl, ar fyned yr awr honno oddi wrtho.

36 Ac efe a ddywedodd, Abba, Dad, pob peth sydd bosibl i ti: tro heibio y cwppan hwn oddi wrthyf: eithr nid y peth yr ydwyf fi yn ei ewyllysio, ond y peth yr ydwyt ti.

37 Ac efe a ddaeth, ac a'u cafodd hwy yn cysgu; ac a ddywedodd wrth Petr, Simon, ai cysgu yr wyt ti? oni allit wylio un awr?

38 Gwyliwch a gweddïwch, rhag eich myned mewn temtasiwn. Yr yspryd yn ddïau sydd barod, ond y cnawd sydd wan.

39 Ac wedi iddo fyned ymaith drachefn, efe a weddïodd, gan ddywedyd yr un ymadrodd.

40 Ac wedi iddo ddychwelyd, efe a'u cafodd hwynt drachefn yn cysgu; canys yr oedd eu llygaid hwynt wedi trymhâu: ac ni wyddent beth a attebent iddo.

41 Ac efe a ddaeth y drydedd waith, ac a ddywedodd wrthynt, Cysgwch weithian, a gorphwyswch: digon yw; daeth yr awr: wele, yr ydys yn bradychu Mab y dyn i ddwylaw pechaduriaid.

42 Cyfodwch, awn; wele, y mae yr hwn sydd yn fy mradychu yn agos.

43 Ac yn y man, ac efe etto yn llefaru, daeth Judas, un o'r deuddeg, a chyd âg ef dyrfa fawr â chleddyfau a ffyn, oddi wrth yr arch-offeiriaid, a'r ysgrifenyddion, a'r henuriaid.

44 A'r hwn a'i bradychodd ef aroddasai arwydd iddynt, gan ddywedyd, Pwy bynnag a gusanwyf, hwnnw yw: deliwch ef, a dygwch ymaith yn sicr.

45 A phan ddaeth, yn ebrwydd efe a aeth atto, ac a ddywedodd, Rabbi, Rabbi; ac a'i cusanodd ef.

46 A hwythau a roisant eu dwylaw arno, ac a'i daliasant ef.

47 A rhyw un o'r rhai oedd yn sefyll ger llaw, a dynnodd ei gleddyf, ac a darawodd was yr arch-offeiriad, ac a dorrodd ymaith ei glust ef.

48 A'r Iesu a attebodd ac a ddywedodd wrthynt, Ai megis at leidr y daethoch allan, â chleddyfau ac â ffyn, i'm dala i?

49 Yr oeddwn i beunydd gyd â chwi yn athrawiaethu yn y deml, ac ni'm daliasoch: ond rhaid yw cyflawni yr ysgrythyrau.

50 A hwynt oll a'i gadawsant ef, ac a ffoisant.

51 A rhyw wr ieuangc oedd yn ei ddilyn ef, wedi ymwisgo â llïan main ar ei gorph noeth; a'r gwŷr ieuaingc a'i daliasant ef.

52 A hwn a adawodd y llïan, ac a ffodd oddi wrthynt yn noeth.

53 ¶ A hwy a ddygasant yr Iesu at yr arch-offeiriad: a'r holl archoffeiriaid, a'r henuriaid, a'r ysgrifenyddion, a ymgasglasant gyd ag ef.

54 A Phetr a'i canlynodd ef o hirbell, hyd yn llys yr arch-offeiriad; ac yr oedd efe yn eistedd gyd â'r gwasanaethwyr, ac yn ymdwymno wrth y tân.

55 A'r arch-offeiriaid a'r holl gynghor a geisiasant dystiolaeth yn erbyn yr Iesu, i'w roi ef i'w farwolaeth; ac ni chawsant.

56 Canys llawer a ddygasant gaudystiolaeth yn ei erbyn ef; eithr nid oedd eu tystiolaethau hwy yn gysson.

57 A rhai a gyfodasant ac a ddygasant gam-dystiolaeth yn ei erbyn, gan ddywedyd,

58 Ni a'i clywsom ef yn dywedyd, Mi a ddinystriaf y deml hon o waith dwylaw, ac mewn tridiau yr adeiladaf arall heb fod o waith Ilaw.

59 Ac etto nid oedd eu tystiolaeth hwy felly yn gysson,

60 A chyfododd yr arch-offeiriad yn y canol, ac a ofynodd i'r Iesu, gan ddywedyd, Oni attebi di ddim? beth y mae y rhai hyn yn ei dystiolaethu yn dy erbyn?

61 Ac efe a dawodd, ac nid attebodd ddim. Drachefn yr arch-offeiriad a ofynodd iddo, ac a ddywedodd wrtho, Ai tydi yw Crist, Mab y Bendigedig?

62 A'r Iesu a ddywedodd, Myfi yw: a chwi a gewch weled Mab y dyn yn eistedd ar ddeheulaw y gallu, ac yn dyfod y'nghymmylau y nef.

63 Yna yr arch-offeiriad, gan rwygo ei ddillad, a ddywedodd, Pa raid i ni mwy wrth dystion?

64 Chwi a glywsoch y gabledd: beth dybygwch chwi? A hwynt oll a'i condemniasant ef, ei fod yn euog o farwolaeth.

65 A dechreuodd rhai boeri arno, a chuddio ei wyneb, a'i gernodio; a dywedyd wrtho, Prophwyda. A'r gweinidogion a'i tarawsant ef â gwïail.

66 Ac fel yr oedd Petr yn y llys i waered, daeth un o forwynion yr arch-offeiriad:

67 A phan ganfu hi Petr yn ymdwymno, hi a edrychodd arno, ac a ddywedodd, Tithau hefyd oeddit gyd â'r Iesu o Nazareth.

68 Ac efe a wadodd, gan ddywedyd, Nid adwaen i, ac ni wn i beth yr wyt yn ei ddywedyd. Ac efe a aeth allan i'r porth; a'r ceiliog a ganodd.

69 A phan welodd y llangces ef drachefn, hi a ddechreuodd ddywedyd wrth y rhai oedd yn sefyll yno, Y mae hwn yn un o honynt.

70 Ac efe a wadodd drachefn. Ac ychydig wedi, y rhai oedd yn sefyll ger llaw a ddywedasant wrth Petr drachefn, Yn wir yr wyt ti yn un o honynt; canys Galilead wyt, a'th leferydd sydd debyg.

71 Ond efe a ddechreuodd regu a thyngu, Nid adwaen i y dyn yma yr ydych chwi yn dywedyd am dano.

72 A'r ceiliog a ganodd yr ail waith. A Phetr a gofiodd y gair a ddywedasai yr Iesu wrtho, Cyn canu o'r ceiliog ddwywaith, ti a'm gwedi deirgwaith. A chan ystyried hynny, efe a wylodd.

Nodiadau

golygu