Testament Newydd ein Harglwydd a'n Hiachawdwr Iesu Grist (1879)/Mathew XVI
← Mathew XV | Testament Newydd ein Harglwydd a'n Hiachawdwr Iesu Grist (1879) gan Cymdeithas y Beibl |
Mathew XVII → |
I'w lawr lwytho ar gyfer darllenydd e-lyfrau gweler Testament Newydd ein Harglwydd a'n Hiachawdwr Iesu Grist (1879 testun cyfansawdd) |
PENNOD XVI.
1 Y Phariseaid yn gofyn arwydd. 6 Iesu yn rhybuddio ei ddisgyblion am lefain y Phariseaid a'r Saduceaid. 13 Tyb y bobl am Grist, 16 a chyffes Petr am dano. 21 Iesu yn rhagfynegi ei farwolaeth: 23 yn ceryddu Petr am ei gynghori ir gwrthwyneb; 24 ac yn rhybuddio y sawl a fynnent ei ganlyn ef, i ddwyn y groes.
AC wedi i'r Phariseaid a'r Saduceaid ddyfod atto, a'i demtio, hwy a attolygasant iddo ddangos iddynt arwydd o'r nef.
2 Ac efe a attebodd ac a ddywedodd wrthynt, Pan fyddo yr hwyr, y dywedwch, Tywydd teg; canys y mae yr wybr yn goch.
3 A'r bore, Heddyw dryccin; canys y mae yr wybr yn goch ac yn bruddaidd. O ragrithwyr, chwi a fedrwch ddeall wyneb yr wybren; ac oni fedrwch arwyddion yr amserau?
4 Y mae cenhedlaeth ddrwg a godinebus yn ceisio arwydd; ac arwydd nis rhoddir iddi, ond arwydd y prophwyd Jonas. Ac efe a'u gadawodd hwynt, ac a aeth ymaith.
5 Ac wedi dyfod ei ddisgyblion ef i'r làn arall, hwy a ollyngasent dros gôf gymmeryd bara ganddynt.
6 ¶ A'r Iesu a ddywedodd wrthynt, Edrychwch ac ymogelwch rhag surdoes y Phariseaid a'r Saduceaid.
7 A hwy a ymresymmasant yn eu plith eu hunain, gan ddywedyd, Hyn sydd am na chymmerasom fara gennym.
8 A'r Iesu yn gwybod, a ddywedodd wrthynt, Chwychwi o ychydig ffydd, paham yr ydych yn ymresymmu yn eich plith eich hunain, am na chymmerasoch fara gyd â chwi?
9 Onid ydych chwi yn deall etto, nac yn cofio pùm torth y pùm mil, a pha sawl basgedaid a gymmerasoch i fynu?
10 Na saith dorth y pedair mil,
11 Pa fodd nad ydych yn deall, nad am fara y dywedais wrthych, ar ymogelyd rhag surdoes y Phariseaid a'r Saduceaid?
12 Yna y deallasant na ddywedasai efe am ymogelyd rhag surdoes bara, ond rhag athrawiaeth y Phariseaid a'r Saduceaid.
13 ¶ Ac wedi dyfod yr Iesu i dueddau Cesarea Philippi, efe a ofynodd i'w ddisgyblion, gan ddywedyd, Pwy y mae dynion yn dywedyd fy mod i, Mab y dyn?
14 A hwy a ddywedasant, Rhai, mai Ioan Fedyddiwr, a rhai, mai Elias, ac eraill, mai Jeremias, neu un o'r prophwydi.
15 Efe a ddywedodd wrthynt, Ond pwy meddwch chwi ydwyf fi?
16 A Simon Petr a attebodd ac a ddywedodd, Ti yw y Crist, Mab y Duw byw.
17 A'r Iesu gan atteb a ddywedodd wrtho, Gwyn dy fyd di, Simon mab Jona: canys nid cig a gwaed a ddatguddiodd hyn i ti, ond fy Nhad yr hwn sydd yn y nefoedd.
18 Ac yr ydwyf finnau yn dywedyd i ti, mai ti yw Petr, ac ar y graig hon yr adeiladaf fy eglwys; a phyrth uffern nis gorchfygant hi.
19 A rhoddafi ti agoriadau teyrnas nefoedd: a pha beth bynnag a rwymech ar y ddaear, a fydd rhwymedig yn y nefoedd; a pha beth bynnag a ryddhâech ar y ddaear, a fydd wedi ei ryddhâu yn y nefoedd.
20 Yna y gorchymynodd efe i'w ddisgyblion, na ddywedent i neb mai efe oedd Iesu Grist.
21 O hynny allan y dechreuodd yr Iesu ddangos i'w ddisgyblion fod yn rhaid iddo fyned i Jerusalem, a dioddef llawer gan yr henuriaid, a'r arch-offeiriaid, a'r ysgrifenyddion, a'i ladd, a chyfodi y trydydd dydd.
22 A Phetr, wedi ei gymmeryd ef atto, a ddechreuodd ei geryddu ef, gan ddywedyd, Arglwydd, trugarhâ wrthyt dy hun; nis bydd hyn i ti.
23 Ac efe a drodd, ac a ddywedodd wrth Petr, Dos yn fy ol i, Satan: rhwystr ydwyt ti i mi: am nad ydwyt yn synied y pethau sydd o Dduw, ond y pethau sydd o ddynion.
24 Yna y dywedodd yr Iesu wrth ei ddisgyblion, Os myn neb ddyfod ar fy oli, ymwaded âg ef ei hun, a chyfoded ei groes, a chanlyned fi.
25 Canys pwy bynnag a ewyllysio gadw ei fywyd, a'i cyll: a phwy bynnag a gollo ei fywyd o'm plegid i, a'i caiff.
26 Canys pa lesâd i ddyn, os ennill efe yr holl fyd, a cholli ei enaid ei hun? neu pa beth a rydd dyn yn gyfnewid am ei enaid?
27 Canys Mab y dyn a ddaw yng ngogoniant ei Dad gyd â'i angelion; ac yna y rhydd efe i bawb yn ol ei weithred.
28 Yn wir y dywedaf wrthych, Y mae rhai o'r sawl sydd yn sefyll yma, a'r ni phrofant angau, hyd oni welont Fab y dyn yn dyfod yn ei frenhiniaeth.