Teulu Bach Nantoer/Pennod II
← Pennod I | Teulu Bach Nantoer gan Elizabeth Mary Jones (Moelona) |
Pennod III → |
PENNOD II
SAFAI Nantoer yn agos i'r ffordd fawr a arweinia o orsaf Llanerw i draeth Glanywerydd. Man unig iawn oedd. Nid oedd tŷ yn agos, er nad oedd ond taith deng munud i'r briffordd. Yr oedd llawer o deithio rhwng yr orsaf a'r traeth. Ddwywaith yn y dydd, haf a gaeaf, âi'r fen fawr heibio, weithiau ag un neu ddau ynddi, ac ar rai adegau o'r flwyddyn, yn cludo llwyth llawn o bobl. Heblaw y fen fawr, yr oedd tyrfa arall o gerbydau yn mynd yn ôl a blaen bob dydd. Dygid yr ardal fechan bell hon, felly, i gysylltiad â'r byd mawr oddi allan,
Safai'r tŷ ar lethr. O'i flaen ymestynnai'r ddau gae bychan a berthynai i'r tyddyn, ac ar waelod y rhai hyn rhedai afonig fechan wyllt i gwrdd â'r Gwynli yn is i lawr yn y dyffryn. Y" Nant oer" hon a roddai ei henw i'r lle. Un cae bychan serth oedd y tu ôl i'r tŷ, ac yna, y rhos-yr eang ros ym mhobman. A'r tu hwnt i'r rhos, ar y gorwel pell, gwenai'n fawreddog fae glas Aberteifi. O ben y rhos, ar ddiwrnod clir, gellid gweld y bae i gyd, o Ynys Enlli a Chader Idris yn y gogledd i lawr hyd ffiniau Penfro, lle'r ymarllwys afon Teifi i'r môr; a draw, ymhell dros y don, deuai bryniau Iwerddon i'r golwg, fel cwmwl ar y gorwel.
Bwthyn bach to gwellt oedd Nantoer, fel y rhan fwyaf o dai bychain yr ardal honno. Nid oedd ond dwy ystafell ar y llawr, a math o daflod uwchben. Llawr pridd oedd iddo, wedi ei wneud yn galed a gloywddu gan fynych gerdded arno. Ceid ambell lech yma a thraw tua chyfeiriad y tân. Isel oedd v muriau a bychain y ffenestri, ond oddi mewn ac o gylch y tŷ, yr oedd popeth yn lân a threfnus odiaeth. Yr oedd un gwely yn y gegin, gwely bychan arall yn y penucha, lle y cysgai Mair ac Eiry fach, a gwely y ddau fachgen ar y daflod. Aent i fyny yno ar hyd ysgol, yr hon a dynnent i fyny weithiau ar eu hôl, yn ôl dull Robinson Crusoe gynt.
Er yn fychan, yr oedd y bwthyn yn hynod o glyd a diogel. Pan chwythai'r storm arwaf dros ehangder digysgod y rhos, ni siglid ei furiau cedyrn, ac o'r braidd y medrai'r glaw trymaf beri clywed ei sŵn trwy'r to diddos o wellt. Ar y clawdd bychan gwyngalchog o flaen y tŷ, ac yn yr ardd, yr oedd blodau pêr bron ar bob tymor. Yn y gwanwyn a'r haf, prin oedd ar y plant eisiau hyd yn oed y bwthyn. Allan gyda natur y treulient eu hamser, ac yr oedd pob un o'r pedwar bach wedi dysgu gwrando arni a mwynhau ei chwmni. Yr oedd aroglau pêr yr eithin ym mhobman, a'r grug yn ei liw urddasol yn tonni dan yr awel. Deuai nodau mwyn yr ehedydd o'r awyr uwchben, a seiniau clir y chwibanogl ac eraill o adar y rhos. Yn awr ac yn y man, clywid bref oen, ac o'r pellter obry, gyda gwynt y de, deuai sŵn cerbyd. Yr oedd y môr bob amser yn y golwg, a hyfrydwch pennaf Alun fyddai gwylio ambell long a groesai ei wyneb, a dyfalu o ba le y daethai, ac i ba le'r âi.