Teulu Bach Nantoer/Pennod V

Pennod IV Teulu Bach Nantoer

gan Elizabeth Mary Jones (Moelona)

Pennod VI

PENNOD V

UN o brif ddyddiau'r flwyddyn i'r plant oedd hwnnw pan aent am ddiwrnod cyfan i lan y môr. Diwrnod glan y môr y gelwid ef, am y gadawai pawb o bobl yr ardal eu gwaith am y dydd, ac yr aent yn llwythi llawn yn eu ceirt a'u ceir i Lanywerydd i'w mwynhau eu hunain.

Edrychai'r plant ymlaen ato ymhell cyn ei ddyfod, ac weithiau ymddangosai'r haf yn hir iawn, a'r wythnosau yn boenus o undonog cyn i'r dydd mawr wawrio.

Yn gynnar yn Awst, wedi gorffen y ddau gynhaeaf gwair, a chyn dechrau'r cynhaeaf ŷd, yr aed y flwyddyn honno. Aethai amser maith iawn--yn agos i fis-heibio oddi ar y digwyddiad ar y rhos. Eithr yr oedd sŵn y dydd yn dod o draw, oherwydd yr oedd Gwen Owen yn brysur yn gwnïo gwisgoedd newydd i Mair ac Eiry ar ei gyfer, a phleser mawr i'r ddwy oedd ei gwylio a'i helpu. Defnydd ysgafn, ysgafn, golau, golau oedd, a blodau tlysion drosto i gyd, ac yr oedd arogl newydd hyfryd arno. Aethai sylltau'r wraig ddieithr i'w brynu, a'r rhai a gawsai'r bechgyn i brynu hetiau gwellt iddynt hwythau eu dau.

Yr oedd y plant yn effro gyda'r haul ar y bore Iau hwnnw, oherwydd disgwylid iddynt fod ar ben y rhiw fach erbyn hanner awr wedi pump i gwrdd â phobl Bronifor a'r rhai yr oeddynt yn eu cario. Mor hyfryd oedd aros yn y fan honno yn ieuenctid y dydd i edrych ymlaen at ysbaid hir o bleser! Gwelent rai llwythi llawn a llawen yn pasio, a chyn hir gwelent gambo fawr Bronifor a'r ddau geffyl glas yn dod i'r golwg ar waelod y rhiw. Yr oedd calonnau'r plant yn llawn hyd yr ymylon. Dawnsient a chwaraent yn ddilywodraeth o gylch eu mam. Bellach, wele'r gambo yn sefyll yn eu hymyl, ac er yr ymddangosai'n llawn yn barod, caed ynddi ddigon o le iddynt i gyd-y fam a'r ddwy eneth rywle yn y canol, ac Ieuan ac Alun yn y lle oedd hoff ganddynt-ar y sachaid wair y tu ôl, a'u traed yn hongian dros yr ymyl. Caent deithio saith milltir felly, i fyny ac i lawr y rhiwiau, gan yrru'n chwyrn weithiau, a chanu i gyd bryd arall, nes cyrraedd glan y bae glas a welent bob dydd o'u cartref.

Cyraeddasant yno tua hanner awr wedi saith o'r gloch-cyn i'r rhan fwyaf o bobl y lle adael eu gwelyau. Rhyw sŵn oer, dideimlad, oedd gan y môr yn fore felly, sŵn a wnai galon Mair yn brudd, am mai un o reolau'r dydd i'r plant oedd eu bod i gael eu trochi yn y tonnau geirwon dros eu pennau. Wedi cael yr helynt blin hwnnw drosodd, yr oedd popeth yn iawn.

O'r swynion didrai oedd yng Nglanywerydd! Cai'r plant chwarae ac ymrolio yn y tywod glân, gwneud tai a chestyll ohono, rhedeg faint a fynnent heb esgidiau na hosanau, gwylio cwmnïau mawr o bobl mewn oed yn chwarae-yn chwarae yn union fel y gwnaent hwy eu hunain yn yr ysgol. Ac O! hyfryted oedd gwylio eraill yn ymdrochi- plant bychain, crynedig, ofnus, noeth, yn llaw mam neu chwaer neu fodryb, a gwybod eu bod hwy eu hunain yn ddiogel am y dydd.

Eithr yr hyn a dynnai fwyaf o sylw'r plant oedd y siop fach oedd yno ar fin y traeth. Cynhwysai hon bob math o drysorau-digon o rawiau a bwcedi, rhesi hirion o'r doliau harddaf a welodd neb erioed, llongau hefyd a chychod o bob math, oriaduron ddigonedd, heb sôn am y melysion a'r cnau.

Rhywbryd yn y prynhawn, safai Mair ac Eiry, gyda nifer o blant eraill, yn syllu ar ryfeddodau'r siop fach. Eisteddai eu mam gerllaw yn ymddiddan â rhywun, ac yn gwylio cwch bychan draw ar y môr yn yr hwn yr oedd Ieuan ac Alun, gydag amryw eraill, a phwy ddaeth heibio ond y gŵr a'r wraig a welsent ar y rhos!

"Here is that lovely child again," ebe'r wraig, gan blygu i siarad ag Eiry ac i gael gweld a oedd yn ei chofio. Gwenai Eiry arni fel cynt, a gadawai i'r wraig ei chusanu faint a fynnai. Drwy gyfrwng ei gŵr, gofynnodd i'r ddwy fechan beth a hoffent gael o'r siop.

"Dol!" oedd ateb parod y ddwy, a chawsant ar unwaith bob un y ddoli harddaf a welodd eu llygaid erioed. Pan ddaeth Gwen Owen ymlaen i ddiolch i'r wraig ddieithr, edrychodd honno arni â dagrau lond ei llygaid, a dywedodd—

"You have two dear little girls, and I have not one."

Rhy gynnar o lawer y bu'n rhaid cefnu ar y fan swynol. Gwelent belydrau machlud haul ar wyneb y lli pan symudent yn araf i fyny'r rhiw oddi wrtho. Ymhell cyn cyrraedd eu cartref, yr oedd pawb wedi distewi, ac Eiry fach, gan ddal y ddol yn dynn yn ei breichiau, yn cysgu'n dawel yng nghôl ei mam.

Nodiadau

golygu