Teulu Bach Nantoer/Pennod XIII

Pennod XII Teulu Bach Nantoer

gan Elizabeth Mary Jones (Moelona)

Pennod XIV

PENNOD XIII

DRANNOETH, tua thri o'r gloch yn y prynhawn, cerddai Ieuan yn hamddenol gan fyfyrio a chwibanu ar hyd y lôn fach. Aethai Alun a Mair i'r pentref i wneud rhyw negeseuau dros eu mam. Rhyw ddisgwyl eu cyfarfod yn dod yn ôl yr oedd Ieuan yn awr.

Ond yn lle ei frawd a'i chwaer, rhyw ŵr a merch ieuanc nas adwaenai a welai yn dod yn nhro'r ffordd. Dyn byr, tywyll, oedd, ac edrychai'n graff ar Ieuan wrth ddynesu ato. Troai'r ferch ei llygaid mawr ato hefyd, a rhyw olwg hanner ofnus ynddynt. Yr oedd wedi gwisgo mewn du, a heb yn wybod iddo, hedodd meddwl Ieuan at stori Alun, ac at y llun a welsai, a meddyliodd mai'r ferch ieuanc honno oedd am ryw reswm wedi dod i'r cwr anghysbell hwnnw o'r byd.

Arosasant. Gofynnodd y dyn ai'r bwthyn hwnnw oedd Nantoer, ac a oedd Mrs. Owen yn byw yno. Atebodd Ieuan, a dywedodd mai ef oedd ei mab hynaf. Cyn i'r gŵr dieithr gael amser i esbonio rhagor, cerddodd y ferch ymlaen at Ieuan, a chan estyn ei llaw iddo, dywedodd—

"Ieuan, fi yw Eiry, dy chwaer fach, wedi dod nôl." Edrychai Ieuan arni fel un mud; ni fedrai gael gair allan, ac ebe hi drachefn—

"Gad i mi weld mam."

Aeth Ieuan â hi, gan gydio yn ei llaw, ac edrych arni fel un mewn breuddwyd, i mewn i'r bwthyn lle'r eisteddai ei fam wrth y tân yn disgwyl i'r tegell ferwi. Pan welodd hi'r ddau yn dod yn union fel y dangoswyd iddi yn ei breuddwyd, cododd i'w cyfarfod gan lefain—" O, dyma mhlentyn i wedi dod nôl," ac wedi gwasgu Eiry at ei chalon a chlywed y gair "Mam o'i genau, llewygu wnaeth, a hir y buwyd cyn gael gair ganddi drachefn.

"Dyma Alun a Mair yn dod," ebe Ieuan yn ddistaw wrth Eiry, a oedd yn dal llaw ei mam o hyd. Cododd Eiry i'w cyfarfod.

Edrych o un i'r llall yn syn a gwylaidd wnai'r ddau am funud, gan fethu â deall pa gyffro oedd yn y tŷ. Yna, tra safai Mair o'r tu ôl, trodd Alun yn gyffrous at Eiry, daliodd allan ei law, a dywedodd â'i anadl yn ei wddf—

"Miss May!"

"A! ie, Miss May,' ac Eiry dy chwaer fach," ebe hi, gan ddal llaw Alun a Mair gyda'i gilydd. Ychydig feddyliais mai fy mrawd a achubodd fy mywyd," ac wylodd heb fedru peidio. Wylai pawb am ennyd. Ni wyddai Alun pan un ai llawenhau a wnai ai peidio am mai yr un oedd "Miss May ac Eiry. Pan oedd y pedwar felly, yn wylo ac yn gwenu, yn holi ac yn ateb bob yn ail, agorodd y fam ei llygaid. Syllodd arnynt yn ddwys am beth amser, yna gwenodd yn foddhaus, ac yn raddol daeth golwg dawel yn ôl i'w hwyneb.

Wedi ei gweld yn dod ati ei hun, daeth y gwr dieithr ymlaen. Dywedodd mai cyfreithiwr Mrs. May oedd ef, a'i fod wedi dod yno, yr holl ffordd o America, i roi esboniad ar bethau, ac y gwnai hynny'n awr os caniataent iddo.

Gorweddai'r fam ar esmwythfainc. Safai ei phedwar plentyn gerllaw iddi. Rhoddwyd cadair i'r gŵr dieithr yn eu hymyl.

Nodiadau

golygu