Teulu Bach Nantoer (testun cyfansawdd)

Teulu Bach Nantoer (testun cyfansawdd)

gan Elizabeth Mary Jones (Moelona)

I'w darllen pennod wrth bennod gweler Teulu Bach Nantoer
Wikipedia logo Mae erthygl parthed:
Elizabeth Mary Jones (Moelona)
ar Wicipedia
Wikipedia logo Mae erthygl parthed:
Teulu Bach Nantoer
ar Wicipedia
Wikipedia logo Mae erthygl parthed:
Nofel
ar Wicipedia



TEULU BACH
NANTOER

CHWEDL I BLANT

GAN
MOELONA



ARGRAFFIAD
NEWYDD

HUGHES A'I FAB
WRECSAM A CHAERDYDD




ARGRAFFWYD YN WRECSAM GAN Y MRI WOODALLS
GWASG CAMBRIA.



Teulu Bach Nantoer


PENNOD I

UN o nosweithiau hir y gaeaf oedd.

Oddi allan, rhuai'r gwynt a disgynnai'r glaw, ond ar aelwyd glyd Nantoer, gwenai'r tân yn siriol, ac yr oedd gwedd gysurus ar y teulu bychan o'i flaen. Newydd fynd heibio oedd y Nadolig, a gadawsai'r tymor hwnnw ei ôl yma fel mewn mannau eraill. Daethai rhyw Santa Clôs caredig heibio hyd yn oed i'r bwthyn bach ar fin y rhos, ac yn hapus a distaw, yn y mwynhad o'i roddion, y cawn, ar yr hwyr garw hwn, ein golwg gyntaf ar y teulu.

Ar bob ochr i'r tân, o dan y simne fawr, ymestynnai dau bentan hir. Ar y naill, eisteddai Ieuan, llanc llygatddu deuddeg oed, a'i bwys ar ei law, yn prysur ddarllen llyfr. Ar y llall yr oedd Alun a'i brennau a'i ysglod a'i offer saer, yn dwyn i fod ryw ryfeddod newydd mewn gwaith coed. Tua deg oed oedd ef, a golau oedd ei wallt a'i lygaid. Ar bob i ystôl fechan, eisteddai Mair ac Eiry fach, a phen tywyll y naill a gwallt modrwyog melyn y llall yn cwrdd â'i gilydd uwchben y llyfr darluniau newydd a oedd o'u blaen. Saith oed oedd Mair, a dwy flwydd a hanner oedd Eiry. Wrth y ford gron a'r lamp eisteddai Gwen Owen, y fam, yn prysur wau hosan, a'i llygaid yn aros yn garuaidd ar y naill ar ôl y llall o'i hanwyliaid bach.

Ni welid y tad ar yr aelwyd Ers mwy na dwy flynedd yr oedd enw Elis Owen wedi ei gerfio ar garreg fedd ym mynwent Y Bryn. Anaml y soniai'r fam am dano wrth y plant. Gwell oedd ganddi i Ieuan ac Alun beidio â'i gofio o gwbl, nag iddynt ei gofio yn dad meddw yn blin ymlwybro tua'r tŷ yn hwyr y dydd. Gan iddo wario ei holl arian, a marw cyn cyrraedd canol oed, gorfu i'r weddw ieuanc ofyn am help y plwyf i fagu ei phedwar plentyn. Enillai hithau ychydig drwy wnïo i hon ac arall, fel y gwnai yn gynharach yn ei bywyd, ac yr oedd yn Nantoer ddigon o dir i gadw un fuwch.

Gwraig dal oedd Gwen Owen. Gwallt du, tonnog, fel gwallt Mair, oedd ganddi, ond bod llinellau arian drwyddo i gyd erbyn hyn. Yr oedd edrychiad ei llygaid yn dyner a dwys, a thawel bob amser oedd ei llais. Yr oedd y plant i gyd wedi dysgu bod yn ufudd iddi. Gwnaent bob amser, yn llon, yr hyn a geisiai, ac yn ôl eu barn unol a diysgog, nid oedd mam hafal i'w mam hwy gan neb o fewn y byd.

'Mam," ebe Ieuan yn sydyn, gan gau ei lyfr," teulu tlawd ŷm ni, onid ê?"

"Ie, mae'n debyg, 'machgen i," ebe'r fam yn ddistaw, Pam 'rwyt ti'n gofyn ?"

"Wedi bod yn darllen am Abraham Lincoln wyf. 'Roedd yntau mor dlawd ag y gallai fod, pan oedd yn blentyn, ond ef oedd prif ddyn America cyn iddo farw. Un fel Abraham Lincoln wyf fi'n mynd i fod pan ddof yn ddyn."

Edrychodd ei fam arno am funud cyn ateb. Mor debyg oedd i'w dad yn edrychiad ei lygaid! Yr oedd ei dad wedi bwriadu gwneud pethau mawrion, ond ar ôl dechrau llithro, yn is ac is yr aethai, nes cyrraedd y bedd cyn gwneud dim. Ai felly y byddai hanes Ieuan? Na, er tebyced oeddynt, yr oedd mwy o benderfyniad yn wyneb y mab. Hwyrach mai ym mywyd Ieuan y cai bwriadau ei dad, druan, ddod i ben! A hi, ei fam, oedd i'w gychwyn ar ffordd bywyd. Bwysiced y gwaith!

"Pam 'rwyt ti am fod fel Lincoln ?" gofynnai.

"'Roedd ef mor dlawd, a neb yn gwybod ddim amdano, a dyna fe wedi codi i fod yn uwch na'r dynion cyfoethog i gyd, yn feistr ar bawb. Dyna hanes pert yw e'!" ebe Ieuan, a'i lygaid yn disgleirio.

"Ie," ebe'r fam, "ond er bod Lincoln yn ddyn o allu mawr, ni fuasai wedi codi fel y gwnaeth, oni bai iddo roi'r gallu hwnnw i gyd er mwyn gwneud y byd, ac yn enwedig ei wlad, yn well. Nid meddwl am ddod yn enwog 'roedd ef, ond edrych am le i wneud daioni i eraill 'roedd o hyd. Rhai felly yw dynion mawr y byd i gyd. Mae digon o le yn y byd i tithau i weithio. Mae eisiau rhai i weithio dros Gymru. Os gwnei di'r defnydd gorau o'th amser a'th allu, ac os byddi'n fachgen da o hyd, fe ddeui dithau- bachgen bach o Gymro-yn ddyn mawr ryw ddydd."

Gwrando heb ddweud gair a wnai Ieuan, fel y gwnai bob amser pan siaradai ei fam yn ddwys wrtho fel yn awr.

"Morwyn mam wyf fi'n mynd i fod," ebe Mair, gan godi oddiar ei hystôl, a phlethu ei braich am fraich ei mam.

"O'r gore, Mair," ebe'r fam. "Feallai y gwnei di gymaint o les yn y byd fel hynny. Mae llawer o'r bobl orau yn byw trwy eu hoes heb fawr o sôn amdanynt.

"Hei," ebe Alun, heb glywed dim o'r siarad, dyma fi wedi gwneud llong. Edrychwch ar yr hwylbren dal a'r hwyl wen yma! A gaf fi fynd i'w threio ar yr afon fach, mam?"

"Heno, ar y glaw yma? Na, mae yfory'n ddigon cynnar at hynny, 'machgen i."

"'Nawr, Eiry fach, mae'n hen bryd dy fod di yn dy wely," ebe hi, gan godi'r un fechan ar ei chôl. Beth mai Eiry fach yn mynd i fod, ys gwn i?"

Plentyn nodedig o dlws oedd Eiry. Yr oedd ei gwallt fel modrwyau aur o gylch ei phen, a chroen ei thalcen, ei gwddf, a'i breichiau, unlliw â llaeth newydd ei odro. Yr oedd gwên ar ei hwyneb yn wastad, a direidi lond ei llygaid glas. Gwnai gyfeillion o bawb. Yr oedd pawb a'i gwelai yn synnu at ei thlysni ac yn ei charu. Nid rhyfedd fod ei mam, wrth ei gwasgu at ei chalon, yn gofyn yn bryderus "Beth, blentyn annwyl, fydd dy hanes di?"

PENNOD II

SAFAI Nantoer yn agos i'r ffordd fawr a arweinia o orsaf Llanerw i draeth Glanywerydd. Man unig iawn oedd. Nid oedd tŷ yn agos, er nad oedd ond taith deng munud i'r briffordd. Yr oedd llawer o deithio rhwng yr orsaf a'r traeth. Ddwywaith yn y dydd, haf a gaeaf, âi'r fen fawr heibio, weithiau ag un neu ddau ynddi, ac ar rai adegau o'r flwyddyn, yn cludo llwyth llawn o bobl. Heblaw y fen fawr, yr oedd tyrfa arall o gerbydau yn mynd yn ôl a blaen bob dydd. Dygid yr ardal fechan bell hon, felly, i gysylltiad â'r byd mawr oddi allan,

Safai'r tŷ ar lethr. O'i flaen ymestynnai'r ddau gae bychan a berthynai i'r tyddyn, ac ar waelod y rhai hyn rhedai afonig fechan wyllt i gwrdd â'r Gwynli yn is i lawr yn y dyffryn. Y" Nant oer" hon a roddai ei henw i'r lle. Un cae bychan serth oedd y tu ôl i'r tŷ, ac yna, y rhos-yr eang ros ym mhobman. A'r tu hwnt i'r rhos, ar y gorwel pell, gwenai'n fawreddog fae glas Aberteifi. O ben y rhos, ar ddiwrnod clir, gellid gweld y bae i gyd, o Ynys Enlli a Chader Idris yn y gogledd i lawr hyd ffiniau Penfro, lle'r ymarllwys afon Teifi i'r môr; a draw, ymhell dros y don, deuai bryniau Iwerddon i'r golwg, fel cwmwl ar y gorwel.

Bwthyn bach to gwellt oedd Nantoer, fel y rhan fwyaf o dai bychain yr ardal honno. Nid oedd ond dwy ystafell ar y llawr, a math o daflod uwchben. Llawr pridd oedd iddo, wedi ei wneud yn galed a gloywddu gan fynych gerdded arno. Ceid ambell lech yma a thraw tua chyfeiriad y tân. Isel oedd v muriau a bychain y ffenestri, ond oddi mewn ac o gylch y tŷ, yr oedd popeth yn lân a threfnus odiaeth. Yr oedd un gwely yn y gegin, gwely bychan arall yn y penucha, lle y cysgai Mair ac Eiry fach, a gwely y ddau fachgen ar y daflod. Aent i fyny yno ar hyd ysgol, yr hon a dynnent i fyny weithiau ar eu hôl, yn ôl dull Robinson Crusoe gynt.

Er yn fychan, yr oedd y bwthyn yn hynod o glyd a diogel. Pan chwythai'r storm arwaf dros ehangder digysgod y rhos, ni siglid ei furiau cedyrn, ac o'r braidd y medrai'r glaw trymaf beri clywed ei sŵn trwy'r to diddos o wellt. Ar y clawdd bychan gwyngalchog o flaen y tŷ, ac yn yr ardd, yr oedd blodau pêr bron ar bob tymor. Yn y gwanwyn a'r haf, prin oedd ar y plant eisiau hyd yn oed y bwthyn. Allan gyda natur y treulient eu hamser, ac yr oedd pob un o'r pedwar bach wedi dysgu gwrando arni a mwynhau ei chwmni. Yr oedd aroglau pêr yr eithin ym mhobman, a'r grug yn ei liw urddasol yn tonni dan yr awel. Deuai nodau mwyn yr ehedydd o'r awyr uwchben, a seiniau clir y chwibanogl ac eraill o adar y rhos. Yn awr ac yn y man, clywid bref oen, ac o'r pellter obry, gyda gwynt y de, deuai sŵn cerbyd. Yr oedd y môr bob amser yn y golwg, a hyfrydwch pennaf Alun fyddai gwylio ambell long a groesai ei wyneb, a dyfalu o ba le y daethai, ac i ba le'r âi.

PENNOD III

DIWRNOD poeth ym mis Gorffennaf oedd. Yn ystod yr haf hwnnw, caed llawer o law, nes oedd hyd yn oed ar y rhos lawer pwllyn o ddwfr yma a thraw, ac yr oedd dyddiau tesog, braf, fel y dydd hwnnw, yn rhy anaml i'w sychu. Yr oedd ardalwyr Rhydifor yn brysur gyda'r gwair, a llawen iawn oedd plant y lle am fod gwyliau'r ysgol wedi dechrau.

Mam," ebe Ieuan ac Alun gyda'i gilydd y bore hwnnw, gan redeg i'r tŷ, mae Bronifor yn troi'r gwair ac yn galw am help. A gawn ni ddod yno gyda chwi ?

Peth braf gan y plant fyddai cael ymrolio yn y gwair a gwylio'r gweithwyr prysur, ond os eid ag un, rhaid fyddai mynd â'r pedwar, ac nid gwiw gwneud hynny. Ni wnai hynny ond creu gwaith lle'r oedd digon o waith yn barod. Felly, atebodd y fam:

"Na, rhaid i chwi eich dau ofalu am Mair ac Eiry heddiw. Yn lle dod i'r cae gwair, cewch fynd i'r rhos am y dydd. 'Rwyf am i chwi gasglu basgedaid o lus duon bach i mi. Gwnaf bastai i chwi wedyn erbyn te yfory.'

Felly, i'r rhos yr aethant. Cymerasant gyda hwy ystenaid o laeth, a digon o fara menyn yn fwyd.

Yr oedd yn hyfryd ar y rhos y bore hwnnw. Gwisgai'r grug a'r eithin wisgoedd eu gogoniant, a deuai arogl pêr o'r caeau gwair gyda'r awel o bobman. Yr oedd digonedd o lus hefyd er gwaethaf y glaw, ac yr oedd dwylo bychain, prysur, yn taflu dyrneidiau aml i'r fasged, gan gofio beunydd am addewid eu mam. Cyn hir, hefyd, gwelid ôl y llus ar y pedwar wyneb. Lliw glasddu oedd ar y dannedd, y gwefusau, a'r dwylo.

Wedi bod wrthi'n ddyfal am amser, daeth arnynt awydd symud i fan arall o'r rhos- yn agos i'r ffordd uchaf. Arweiniai hon hefyd i Lanywerydd, ond nid oedd cymaint o dramwy arni ag ar y llall. Wrth fynd, daethant at un o'r pyllau dwfr. Rhyw bwll hir, cul a bas oedd. Gallai Ieuan ac Alun, a hyd yn oed Mair, neidio drosto, ond byddai'n rhaid cario Eiry, neu gerdded gyda hi dipyn yn nes i lawr er mwyn osgoi croesi'r dwfr. Eithr nid felly y gwelodd y bechgyn yn dda i'w wneud.

"Alun," ebe Ieuan, "cydia di yn un llaw i Eiry, fe gydia innau yn y llall, a neidiwn ein tri dros y dŵr."

Ufuddhaodd Alun, ac aeth y tri ychydig oddi wrth y pwll er mwyn cael digon o nerth i neidio drosto. Rhifodd Ieuan " Un, dau, tri," ac yna i ffwrdd â hwy. Ond rywfodd, heb yn wybod iddynt, pan ar fin rhoi'r llam, gollyngodd y ddau fachgen eu gafael ar Eiry, nes iddynt hwy eu dau fod yn ddiogel ar y lan arall, ac Eiry ar ei hyd yn y dŵr. Neidiodd Ieuan i ganol y dŵr mewn eiliad, a chariodd hi drosodd yn ei freichiau, a'i dillad yn wlyb drwyddynt, a hithau'n llefain yn enbyd gan ofn.

Bu'r tri am ennyd mewn cryn benbleth. Ni wyddent beth i'w wneud â'u chwaer fach yn ei dillad gwlyb. Nid gwiw mynd yn ôl i'r bwthyn. Yr oedd allwedd hwnnw yn llogell eu mam yng nghae gwair Bronifor. Nid peth hyfryd i feddwl Ieuan chwaith oedd rhedeg tuag yno i gyffesu wrth ei fam, yng ngwydd y bobl, pa mor ddiofal y buasai. Gwell, os yn bosibl, aros hyd yr hwyr, nes i'r fam ddod adref. Felly, wedi ychydig ystyried, diosgwyd dillad Eiry, rhoddwyd côt Ieuan yn dynn am dani, gadawyd hi i orwedd ar y ddaear, a brat Mair yn orchudd i'w phen. Taenwyd y dillad, bob pilyn, o gylch y fan, a thra oeddynt yn sychu, eisteddodd y tri o gwmpas Eiry i gadw cwmni iddi a'i difyrru.

Cyn eistedd yn hir fan honno, gwelodd Ieuan gyfle braf am gynulleidfa lonydd i wrando arno yn pregethu neu'n areithio. Hoff gan Ieuan oedd arfer y ddawn honno, ond fynychaf, coed a llwyni'r ardd, neu'r defaid a'r wyn ar y rhos oedd ei wrandawyr. Byddai Alun a Mair ac Eiry, cyn iddo ond prin ddechrau, yn rhy hoff o redeg a chwarae o'i gwmpas—pethau hollol allan o le mewn cynulleidfa.

Rhyw gymysg oedd araith Ieuan y prynhawn hwnnw fel bob amser. Dechreuodd gyda brawddeg neu ddwy o ryw bregeth a glywsai rywbryd. Yna, trodd yn sydyn i'r Saesneg, a chaed ganddo ddarn o araith

Mark Antony gan Shakespeare, yn dechrau â—

Friends! Romans! Countrymen!

Taflodd ambell adnod i mewn, a chyn y diwedd, caed, mewn gwir hwyl Gymreig, y frawddeg-" Meddyliwch, bobol bach, fel yna y mae pethau!"

"Hei, Ieuan, edrych, edrych, dacw long fan draw," gwaeddai Alun, gan dorri ar draws huodledd ei frawd, a'r un funud, tra'n troi i edrych ar y llong, gwelent ar y clawdd yn eu hymyl ŵr a gwraig mewn dillad trwsiadus, yn edrych a gwrando arnynt gan wenu.

PENNOD IV

ANGHOFIODD hyd yn oed Alun am y llong pan welwyd y gŵr a'r wraig yn disgyn oddi ar y clawdd ac yn dyfod tuag atynt. Edrychodd y tri yn syn ar y dieithriaid. Eiry oedd yr unig un na chymerth sylw ohonynt. Ymhellach ymlaen ar y ffordd, gwelent gerbyd, a'r gyrrwr yn unig ynddo, yn aros am y ddau yn ddiau.

Ni welsai'r plant erioed o'r blaen neb wedi ymwisgo mor hardd; a'r hyn a barodd fwyaf o syndod i Ieuan ac Alun oedd fod y dyn yn gwisgo modrwy, un lydan a thlws iawn, ar ei fys bach. Ar ddillad hardd y wraig yr edrychai Mair-rhai o'r un lliw â blodau'r grug oeddynt.

Y dyn a siaradai â'r plant. Holai hwynt am lawer o bethau-pa le yr oeddynt yn byw; beth oedd eu henwau; beth a wnaent ar y rhos; ac yn bennaf am Eiry-pam yr oedd yn gorwedd ar ei hyd felly, heb esgidiau na hosanau; ai côt Ieuan oedd amdani, ac ai ei dillad hi a welent ar y grug yn sychu? Siaradai'r ddau â'i gilydd yn Saesneg. Ceisiodd y wraig gael gan y plant siarad â hi hefyd, ond ni fedrai hyd yn oed Ieuan ei deall. Siaradai'n rhy gyflym, ac nid yr un sŵn oedd i'w Saesneg hi ag i Saesneg Ieuan ei hun.

Yr oedd Eiry wedi dechrau cysgu, ond pan glywodd ymddiddan, deffrodd. Taflodd y gorchudd oddi ar ei hwyneb, a chododd ar ei heistedd, gan ysgwyd ei gwallt rhuddaur ac edrych ar bawb-y plant a'r dieithriaid-- gan wenu'n fwyn yn ôl ei harfer. Ac er mai Saesneg oeddynt, cofiodd y plant am byth eiriau'r wraig pan ei gwelodd.

"O, what an angel of a child!" ebe hi'n araf a dwys, gan blygu at Eiry a chwarae â hi, a cheisio cael ganddi siarad, a daeth y ddwy ar unwaith yn gyfeillion. Mawr oedd ei phryder rhag i'r un fach gael niwed i'w hiechyd wedi'r gwlychu, ond yr oedd y dillad bron yn sych erbyn hyn, a'r niwed, os oedd niwed yn bod, wedi ei wneud.

Gofynnwyd i Ieuan areithio eto fel y gwnai; ond nid peth hawdd iddo ef oedd gwneud hynny o'u blaen hwy. Yn lle hynny, adroddodd y tri ddernyn Cymraeg a ddysgasent erbyn Cwrdd Bach y Plant yng nghapel Y Bryn, a chanasant gyda'i gilydd un o'r tonau.

Eisteddai'r ddau yn eu dillad gwychion ar y grug i wrando arnynt, a'r gyrrwr o hyd yn ddistaw ac amyneddgar yn ei gerbyd. Cyn mynd, rhanasant flychaid cyfan o felysion rhwng y plant, a rhoesant i bob un ohonynt swllt, a chusanodd y wraig Eiry lawer gwaith.

Prin y medrai'r plant aros yn hwy ar y rhos. Yr oedd arnynt awydd cryf i redeg i'r cae gwair at eu mam i ddweud yr hanes wrthi. Daeth yr amser yn fuan, ond y peth cyntaf a wnaeth Ieuan oedd dweud wrth ei fam, gan edrych i'w hwyneb gyda'r llygaid oedd mor debyg i lygaid ei dad, mor ffol y buasai ef ac Alun i geisio neidio ag Eiry dros y dŵr, ac iddi syrthio a gwlychu.

"Ond," ebe Alun, gan dorri ar ei draws, yr oedd yn dda i ni wneud hynny, waith wedi gweld Eiry yn gorwedd i'w dillad gael sychu, fe daeth gŵr a gwraig ddieithr i siarad â ni, ac——

Yna, dechreuodd pob un, â'i anadl yn ei wddf, adrodd yr hyn a ddigwyddodd. Ac wedi gwrando, o'r braidd y medrodd y fam roi gair o gerydd i Ieuan.

'Mae'n dda gen i," ebe hi, "dy fod di wedi dweud y cwbl, heb dreio arbed dy hunan, na threio beio neb arall."

Ac yna, rhyw ymholi a wnai pwy allai': dieithriaid fod, a beth a barai iddynt gymryd cymaint diddordeb yn ei phlant; a daeth rhyw feddwl drosti fod cael pedwar bychan felly, mwyn, nwyfus, ac iach, a llawn o gariad tuag ati, yn fwy cyfoeth na llawer o olud byd.

PENNOD V

UN o brif ddyddiau'r flwyddyn i'r plant oedd hwnnw pan aent am ddiwrnod cyfan i lan y môr. Diwrnod glan y môr y gelwid ef, am y gadawai pawb o bobl yr ardal eu gwaith am y dydd, ac yr aent yn llwythi llawn yn eu ceirt a'u ceir i Lanywerydd i'w mwynhau eu hunain.

Edrychai'r plant ymlaen ato ymhell cyn ei ddyfod, ac weithiau ymddangosai'r haf yn hir iawn, a'r wythnosau yn boenus o undonog cyn i'r dydd mawr wawrio.

Yn gynnar yn Awst, wedi gorffen y ddau gynhaeaf gwair, a chyn dechrau'r cynhaeaf ŷd, yr aed y flwyddyn honno. Aethai amser maith iawn--yn agos i fis-heibio oddi ar y digwyddiad ar y rhos. Eithr yr oedd sŵn y dydd yn dod o draw, oherwydd yr oedd Gwen Owen yn brysur yn gwnïo gwisgoedd newydd i Mair ac Eiry ar ei gyfer, a phleser mawr i'r ddwy oedd ei gwylio a'i helpu. Defnydd ysgafn, ysgafn, golau, golau oedd, a blodau tlysion drosto i gyd, ac yr oedd arogl newydd hyfryd arno. Aethai sylltau'r wraig ddieithr i'w brynu, a'r rhai a gawsai'r bechgyn i brynu hetiau gwellt iddynt hwythau eu dau.

Yr oedd y plant yn effro gyda'r haul ar y bore Iau hwnnw, oherwydd disgwylid iddynt fod ar ben y rhiw fach erbyn hanner awr wedi pump i gwrdd â phobl Bronifor a'r rhai yr oeddynt yn eu cario. Mor hyfryd oedd aros yn y fan honno yn ieuenctid y dydd i edrych ymlaen at ysbaid hir o bleser! Gwelent rai llwythi llawn a llawen yn pasio, a chyn hir gwelent gambo fawr Bronifor a'r ddau geffyl glas yn dod i'r golwg ar waelod y rhiw. Yr oedd calonnau'r plant yn llawn hyd yr ymylon. Dawnsient a chwaraent yn ddilywodraeth o gylch eu mam. Bellach, wele'r gambo yn sefyll yn eu hymyl, ac er yr ymddangosai'n llawn yn barod, caed ynddi ddigon o le iddynt i gyd-y fam a'r ddwy eneth rywle yn y canol, ac Ieuan ac Alun yn y lle oedd hoff ganddynt-ar y sachaid wair y tu ôl, a'u traed yn hongian dros yr ymyl. Caent deithio saith milltir felly, i fyny ac i lawr y rhiwiau, gan yrru'n chwyrn weithiau, a chanu i gyd bryd arall, nes cyrraedd glan y bae glas a welent bob dydd o'u cartref.

Cyraeddasant yno tua hanner awr wedi saith o'r gloch-cyn i'r rhan fwyaf o bobl y lle adael eu gwelyau. Rhyw sŵn oer, dideimlad, oedd gan y môr yn fore felly, sŵn a wnai galon Mair yn brudd, am mai un o reolau'r dydd i'r plant oedd eu bod i gael eu trochi yn y tonnau geirwon dros eu pennau. Wedi cael yr helynt blin hwnnw drosodd, yr oedd popeth yn iawn.

O'r swynion didrai oedd yng Nglanywerydd! Cai'r plant chwarae ac ymrolio yn y tywod glân, gwneud tai a chestyll ohono, rhedeg faint a fynnent heb esgidiau na hosanau, gwylio cwmnïau mawr o bobl mewn oed yn chwarae-yn chwarae yn union fel y gwnaent hwy eu hunain yn yr ysgol. Ac O! hyfryted oedd gwylio eraill yn ymdrochi- plant bychain, crynedig, ofnus, noeth, yn llaw mam neu chwaer neu fodryb, a gwybod eu bod hwy eu hunain yn ddiogel am y dydd.

Eithr yr hyn a dynnai fwyaf o sylw'r plant oedd y siop fach oedd yno ar fin y traeth. Cynhwysai hon bob math o drysorau-digon o rawiau a bwcedi, rhesi hirion o'r doliau harddaf a welodd neb erioed, llongau hefyd a chychod o bob math, oriaduron ddigonedd, heb sôn am y melysion a'r cnau.

Rhywbryd yn y prynhawn, safai Mair ac Eiry, gyda nifer o blant eraill, yn syllu ar ryfeddodau'r siop fach. Eisteddai eu mam gerllaw yn ymddiddan â rhywun, ac yn gwylio cwch bychan draw ar y môr yn yr hwn yr oedd Ieuan ac Alun, gydag amryw eraill, a phwy ddaeth heibio ond y gŵr a'r wraig a welsent ar y rhos!

"Here is that lovely child again," ebe'r wraig, gan blygu i siarad ag Eiry ac i gael gweld a oedd yn ei chofio. Gwenai Eiry arni fel cynt, a gadawai i'r wraig ei chusanu faint a fynnai. Drwy gyfrwng ei gŵr, gofynnodd i'r ddwy fechan beth a hoffent gael o'r siop.

"Dol!" oedd ateb parod y ddwy, a chawsant ar unwaith bob un y ddoli harddaf a welodd eu llygaid erioed. Pan ddaeth Gwen Owen ymlaen i ddiolch i'r wraig ddieithr, edrychodd honno arni â dagrau lond ei llygaid, a dywedodd—

"You have two dear little girls, and I have not one."

Rhy gynnar o lawer y bu'n rhaid cefnu ar y fan swynol. Gwelent belydrau machlud haul ar wyneb y lli pan symudent yn araf i fyny'r rhiw oddi wrtho. Ymhell cyn cyrraedd eu cartref, yr oedd pawb wedi distewi, ac Eiry fach, gan ddal y ddol yn dynn yn ei breichiau, yn cysgu'n dawel yng nghôl ei mam.

PENNOD VI

BUAN y daeth y pum wythnos o wyliau haf i ben, a bu'n rhaid i Ieuan ac Alun a Mair adael y rhos, y gwair, y môr, a'u dirif chwaraeon, a mynd bob dydd fel cynt erbyn naw o'r gloch i ysgol y pentref.

Eithr yr oedd yn yr ysgol a'i gwaith hefyd lawer o fwynhad a swyn i'r tri. Ar ddiwedd mis Hydref, yr oedd yno waith pwysig iawn i'w wneud, sef symud y plant o un safon i'r llall. Rhoddid gwobrwyon hefyd i'r plant a oedd wedi dangos gallu neu ofal neilltuol mewn unrhyw gyfeiriad yn ystod y flwyddyn; a'r tro hwn, caed addewid gan y Parchedig Rhys Puw, rheithor y plwyf, y deuai i gyflwyno'r gwobrwyon a rhoi araith i'r plant.

Y degfed ar hugain o Hydref oedd-dydd nad anghofiwyd gan y plant a'u mam drwy eu hoes. Dydd cawodog oedd wedi storm enbyd o wynt a glaw. Yr oedd yr afon fach yn llawn hyd yr ymylon, a rhuthrai ei dyfroedd llwyd i lawr fel rhaeadr i ddal yr afon Gwynli lawr yn y dyffryn. Ni welwyd y fath genllif yno ers blynyddoedd. Gwyw a gwael eu gwedd oedd y gweddill bychan o flodau'r ardd, a gorchuddid y clôs o flaen y tŷ a'r lôn fach gan ddail meirwon gwlyb, a daflesid i lawr yn nirmyg y storm, ac oddi ar yr ychydig a oedd ar y canghennau, disgynnai dafnau glaw fel dagrau hiraeth. Dywedai Natur mewn iaith ddidroi'n-ôl fod yr haf drosodd. Tua hwyr y dydd, daeth niwl tew i guddio bro a bryn.

Ond er prudded y tymor, llon iawn oedd calonnau'r plant y bore hwnnw. Cawsant wisgo eu dillad dydd Sul a'u hesgidiau i fynd i'r ysgol, ac yr oedd honno wedi ei glanhau a'i haddurno, fel mai o'r braidd y gellid ei hadnabod. Ar ganol y llawr yr oedd bwrdd wedi ei osod, a lliain gorwych drosto, ac ar hwn gwelai'r plant swp o flodau hardd mewn llestr, a nifer fawr o lyfrau deniadol yr olwg. Crynhowyd y disgyblion at ei gilydd yn un dosbarth mawr i aros dyfodiad y gŵr dieithr, ac yn fuan, clywyd curo ar y drws, ac ef oedd yno.

Dyn tal, llednais yr olwg a'i wallt a'i farf fel y gwlân, oedd Mr. Puw. Heb wybod paham, teimlai y twr plant, fach a mawr, ar unwaith wrth eu bodd yn ei gwmni. Wedi ychydig ymddiddan â'r meistr, a chyn dechrau cyflwyno'r gwobrwyon, cododd ar ei draed, dywedodd wrth y plant fod ganddo neges iddynt, a'i fod am iddynt oll wrando. Ym meddwl mwy nag un o'i wrandawyr ieuainc, arhosodd sylwedd ei eiriau dwys am byth. Tebyg i hyn oeddynt-

ANNWYL BLANT,
"Da iawn gennyf cael cyfle i'ch annerch, chwi blant bychain o Gymry ynghanol y wlad. Ar fyr, byddwch wedi tyfu'n ddynion ac yn ferched, a chwi, ac eraill fel chwi, fydd yn cario achos Cymru yn y blaen. Am hynny, hoffwn ddweud rhywbeth heddiw a fydd o les i chwi, ac a gofiwch byth pa le bynnag y byddoch.

"Fel y gwyddoch, mae llawer o wahanol genhedloedd yn y byd. Cymry ydym ni, Saeson sydd yn ein hymyl yn Lloegr, Ffrancwyr yn Ffrainc, Ellmynwyr yn yr Almaen, Eidalwyr yn yr Eidal, ac felly yn y blaen. Mae'r cenhedloedd hyn i gyd yn wahanol i'w gilydd-un yn dda yn y peth hwn, y llall yn rhagori yn y peth arall, ac nid yw'r un ohonom yn berffaith. Ond yr wyf am i chwi wybod mor dda yw gen i mai Cymro ydwyf. Mae'n well gen i am Gymru nag am un wlad arall dan haul. Gwell fyddai gennyf fod yn Gymro tlawd nag yn ddyn o fri i genedl arall. Os ymffrostio mewn dim, ymffrostio a wnaf am fy mod yn Gymro, ac yr wyf am i chwithau ddysgu ymfalchïo am yr un peth.

Cofiwch ddod yn gyfarwydd â llenyddiaeth eich gwlad. Astudiwch lenyddiaeth Saesneg, ond astudiwch lenyddiaeth eich gwlad eich hun yn gyntaf. Mynnwch wybod rhywbeth am Dafydd ap Gwilym, Elis Wyn, Goronwy Owen, Dewi Wyn, Eben Fardd, Islwyn, Ceiriog, a Daniel Owen.

'Eto, dysgwch hanes dynion mawr Cymru. Mynnwch wybod hanes eich gwlad. Mae Cymru o —— ydyw —— mae Cymru wedi magu arwyr, a chaniataed Duw iddi fagu rhai eto- mae eu heisiau arnom heddiw. Cofiwch wrth ddarllen am Nelson a Wellington a Napoleon fod dynion cyn ddewred a dewrach na'r rhain wedi byw yng Nghymru. Darllenwch hanes Llywelyn, ac Owen Glyndŵr a John Penri. Mae llawn cymaint, a mwy o ramant yn hanes y rhai hyn, a gwna fwy o les i chwi am mai er mwyn Cymru—er eich mwyn chwi-y buont ddewr.

Ysgwn i faint sydd yma a fynnai fyw i wneud rhywbeth dros ei wlad? Cofiwch hyn, ynteu-os mynnwch ddod yn fawr mewn unrhyw gyfeiriad, fel Cymry y gellwch ddod yn fawr. Ni ddaw'r un Cymro byth yn fawr wrth geisio troi'n Sais. Ni ddaeth neb erioed yn fawr wrth wadu ei wlad a'i iaith. Cofiwch Henry Richard, Ieuan Gwynedd, Tom Elis! Sefyll dros Gymru fel Cymry a wnaethant hwy. Dyna paham y daeth y byd i wybod am danynt ac i wrando arnynt.

Pan dyfoch i fyny, a mynd, rai ohonoch, i fyw i'r trefi a'r lleoedd poblog, chwi gewch weld llawer o Gymry yn ceisio byw fel Saeson, a siarad fel Saeson. Gwlad fechan yw Cymru, a phan ddaeth y Sais yma, a'i gyfoeth a'i blasau, ei ddysg a'i ddeddfau, meddyliodd rhai pobl anwybodus a oedd yn byw yng Nghymru ac yr oedd yma lawer yn anwybodus y pryd hynny-fod rhaid troi'n Saeson os am fod yn barchus yn y byd! Mae pethau wedi newid erbyn hyn. Mae Cymru heddiw ar y blaen mewn addysg, ond y mae rhai pobl anwybodus eto ar ôl, y rhai a'i cyfrifant hi'n anrhydedd i fethu â siarad iaith eu mam! A glywsoch chi am beth mor ffôl erioed? Naddo, mi wn. Dysgwch gasáu'r hen arfer ffiaidd yma. Tosturiwch dros y rhai sydd yn euog ohoni-rhai anwybodus heb wybod eu bod felly; ac O, blant bychain, gwyliwch rhag syrthio i'r un camwedd eich hunain. O achos y pechod hwn y bu ein gwlad gyhyd ar lawr; a chwi, blant yr ardaloedd gwledig, sydd i helpu i'w chodi yn ei hôl.

Mae gan Gymru ei neges i'r byd. Fe ddowch i ddeall mwy am hyn fel y tyfwch, ond ni all Cymru wneud ei gwaith oni bydd ei phlant yn ffyddlon iddi. Beth bynnag yw ei ffaeleddau, mae cenedl y Cymry wedi ei chodi yn nes i'r nef na'r un genedl arall. Mewn cariad at addysg, at gartref, at bethau gorau bywyd, hi sydd ar y blaen. Dysgwch ymfalchio ynddi! Darllenwch hanes ei dynion gorau. Bydded eich sêl fel eu sêl hwy, a pha un a fyddoch ai mawr ai bach, ai enwog ai anenwog, byddwch fyw yn addurn i'ch gwlad, a bydd Duw, a fu mor amlwg gyda'ch tadau, yn Dduw i chwithau."

Unodd y plant gyda'r ysgolfeistr a'r ymwelwyr i guro eu dwylo fel arwydd o gymeradwyaeth i'r anerchiad cynnes a gwlatgar a glywsent.

Wedi rhannu'r gwobrwyon, hysbysodd y meistr na fyddai ysgol yn y prynhawn, ac aeth y plant allan gan fanllefu fel plant ym mhobman arall.

PENNOD VII

AR brynhawn dydd y gwobrwyo, gan nad oedd ysgol, cafodd y tri phlentyn waith wrth eu bodd. Cawsant fynd i Fronifor i helpu dyrnu tas wenith gyntaf y tymor. Eiry fach yn unig, felly, a oedd gartref gyda'i mam.

Lle llawn o ryfeddodau ar amser o'r fath oedd yr ysgubor eang honno. Ar un ochr, yr oedd pentwr anferth o ysgubau, a gludwyd i mewn o'r das y bore hwnnw. Gwaith un o'r gweision a Ieuan oedd datod y rhai hynny a'u taflu i ben y peiriant uchel oedd yn rhuo, yn oernadu, ac yn crynu ar y llawr yn ymyl. Mewn math o bulpud ar ben hwnnw, yr oedd Daniel, y gwas mawr. Ei waith ef oedd agor yr ysgubau a'u taflu i mewn i enau agored y peiriant. O'r tu mewn i hwnnw, rywfodd, gwahenid yr ŷd a'r tywys, a lluchid y gwellt allan yn chwyrn un ffordd, a'r grawn gwenith ffordd arall. Sathru'r gwellt oedd gwaith Alun a Mair, a chaent redeg a chwarae faint a fynnent ynddo. Cyn diwedd y gwaith, yr oedd y pentwr ysgubau ar y naill ochr, ar lawr yn isel, a'r gwellt a hwythau ar yr ochr arall gyfuwch â'r tô, a byddai'n rhaid iddynt gael help un o'r gweision i ddisgyn o'u mangre uchel.

Tua phump o'r gloch, tra oedd y plant a'r gweithwyr oll ar eu ffordd i'r tŷ i gael bwyd wedi gorffen dyrnu, clywent weiddi uchel trwy'r niwl o gyfeiriad Nantoer. Llais Gwen Owen oedd, ac yr oedd sŵn wylo ynddo. Rhedodd pawb am y cyntaf at y bwthyn, a chawsant y fam yn rhedeg yn ôl ac ymlaen o gylch y fan fel pe bai wedi gwallgofi.

"O," ebe hi, mae Eiry fach ar goll. 'Rwy'n methu ei gweld yn unman."

O'r braidd y medrai, yn ei hing, adrodd yr hanes. Yr oedd Eiry wedi cysgu yn ei chôl, fel y gwnai ambell brynhawn. Rhoesai hithau yr un fach yn ei dillad, fel ag yr oedd, i orwedd ar y gwely tra byddai hi'n glanhau'r beudy, rhoi'r fuwch i mewn, a rhoi bwyd iddi. Ni fu allan hanner awr i gyd. Pan ddaeth i mewn, nid oedd Eiry yn y gwely. Nid oedd yno ond y fan lle bu. Nid oedd yn unman yn y tŷ nac allan. Galwodd arni drachefn a thrachefn, ond nid atebodd neb. Rhedodd i'r ardd a thrwy'r lôn fach i'r cae, yn ôl trwy'r beudy, ac eilwaith i bob rhan o'r tŷ. Ond nid oedd Eiry yno. Y niwl llaith oedd o'i chylch ym mhobman, a rhu yr afon fach oedd yr unig sain a glywai. Bryd hwnnw y gwaeddodd yn ei gofid, ac y clywyd hi ym Mronifor-bedwar lled cae oddi yno.

Rhedodd pawb i chwilio-pawb yn brudd eu gwedd, a Mair a'i mam yn wylo yn hidl. Ble gallasai Eiry fach fod? Ai tybed iddi ddihuno a chodi o'r gwely i edrych am ei mam? Ond nid oedd dim i ddangos pa ffordd yr aeth. A oedd rhywrai wedi mynd i'r tŷ a'i chipio i ffwrdd gyda hwy? Na, amhosibl, neu buasai Gwen Owen wedi eu clywed yn pasio'r beudy, oherwydd os deuai neb, y ffordd hon y deuai. Nid oedd neb byth yn dod o gyfeiriad y rhos. Gan gymaint o ddail oedd ar y llawr, ni welid ôl troed yn unman. Beiai'r fam ei hun am adael y drws heb ei gloi, ond gwyddai pawb na wnaeth ond yr hyn a wnai pawb bob dydd. Nid oedd dynion drwg i'w cael y ffordd honno, ac ni chloai neb ei ddrws oni byddai'n gadael cartref am oriau ac yn mynd bellter. Ac yr oedd Eiry wedi bod ddegau o weithiau ei hun yn y tŷ fel ar y prynhawn hwnnw.

Wedi chwilio'n hir, daeth Alun o hyd i degan bychan o eiddo Eiry. Yr oedd ar ganol y cae bach, a chofiodd y fam gyda braw fod y tegan hwnnw yn llaw yr un fach pan ddododd hi yn y gwely. Rhaid, ynteu, ei bod wedi agor clwyd y cae—peth na wnaethai erioed o'r blaen—ac wedi cerdded i'r pen draw a syrthio dros y geulan i'r afon fach a redai mor chwyrn y diwrnod hwnnw. Rhedodd pawb am y cyntaf trwy'r cae i fin yr afon, a buan y gwelsant y fan lle'r oedd y ddaear wedi llithro yn ddiweddar. Ol traed Eiry fach, yn ddiau, oedd; ac O! rhaid ei bod hi, erbyn hyn, yn gorff marw yn rhywle yn nyfroedd llwyd yr afon, ac feallai, wedi ei chario ymhell gan nerth y llif. Anodd oedd ganddynt gredu i un mor fechan fedru agor y glwyd, ond gwna rhai o'i hoed hi bethau rhyfedd weithiau, ac yr oedd y tegan bach yno ar y cae yn dyst didroi'n-ôl.

Nid oedd mwyach ond y gobaith y ceid ei chorff. Bu cymdogion yn chwilio trwy'r nos. Dilynwyd yr afon fach hyd y fan lle rhedai i'r Gwynli. Dilynwyd honno eilwaith hyd ymhell. Aeth sôn am y peth trwy'r wlad. Buwyd ddyddiau lawer yn edrych amdani, nes i'r dyfroedd gilio drachefn a dod yn ddigon clir fel y gellid gweld y gwaelod. Ond ni welodd neb Eiry fach. Ni chafwyd ei chorff yn ôl i wylo drosto. Ni chaed plannu blodau ar ei bedd. Aeth hi, y dlysaf a'r lonnaf ohonynt, yn sydyn o'u gwydd ac ni wyddai neb i ba le. Ac yn hir, hir, ar ôl hynny, teulu trist iawn fu teulu bach Nantoer.

PENNOD VIII

ER mor wahanol oedd aelwyd y bwthyn bach wedi colli Eiry, aeth y byd yn ei flaen fel cynt. Daeth un dydd ar ôl y llall, nes i'r peth a oedd mor newydd a chyffrous gilio ymhell i'r gorffennol. Mynych, mynych, er hynny, gyda brig yr hwyr, yr âi Gwen Owen allan i'r cae bach, gan gerdded yn araf gyda glan yr afon a syllu i lawr i'w dyfroedd fel pe o hyd yn disgwyl gair o hanes ei merch fach. Dilynai Mair hi bob amser, gan gydio yn ei llaw a mynd gyda hi heb holi i ble'r âi, na phaham. Ond sisial ganu'n felys wnai'r afonig, yr un fath â honno y sonia Ceiriog amdani, fel pe heb wybod dim am ofid byd.

Ymhen tua blwyddyn, daeth yn amser i Ieuan adael yr ysgol, a pha grefft i'w rhoi iddo oedd y pwnc mawr a lanwai feddwl ei fam. Byd llyfrau oedd byd Ieuan. Eisiau dysgu a dysgu a oedd arno o hyd. Eithr cyn cael addysg dda, rhaid cael arian o rywle. Nid oedd arian gan Ieuan. Yr oedd yr amser wedi dod iddo ennill ei fwyd ei hun, ac i fachgen tlawd, heb dad, nid oedd ond un drws yn agored yn y wlad, sef bod yn was bach mewn fferm. Felly y bu yn hanes Ieuan. Y calangaeaf hwnnw, cyn ei fod lawn pedair ar ddeg oed, cyflogwyd ef ym Mronifor am bum punt y flwyddyn. Blin, blin, oedd gan ei fam ei weld yn gadael ei gartref am y tro cyntaf, ond yr oedd Bronifor yn ymyl. Cai ei weld bron pob dydd, allan ar y caeau neu yn rhywle arall. Hefyd, pan fyddai Alun a Mair ar eu ffordd adref o'r ysgol, aent yn fynych i ben un o'r cloddiau, a chwibanai Alun rhwng ei fysedd nes tynnu sylw Ieuan. Gwnai yntau yr un peth yn ôl, ac ysgydwai Mair ei llaw arno. Yna, wedi'r arwydd fechan honno, âi'r ddau adref, ac âi Ieuan ymlaen â'i waith.

Yn y gaeaf, prif waith y gwas bach ar y fferm fyddai porthi'r anifeiliaid. Byddai'n rhaid iddo helpu gyda thorri'r gwellt, torri'r erfin, cymysgu'r rhai hyn a'u cario i'r anifeiliaid, etc. Deuai'r dyrnu a'r nithio hefyd yn eu tro. Yn y gwanwyn, cai weithiau helpu trin y tir. Ef fyddai'n dilyn yr oged. Gwaith wrth ei fodd fyddai hwnnw, er y gwnai iddo flino'n enbyd. Yn yr haf a'r hydref, deuai'r cynhaeaf gwair a'r cynhaeaf ŷd â digon o waith ac o bleser iddo.

Ond yng nghist fechan Ieuan, yn ei ystafell wely, yn llofft yr ystabl, ceid rhywbeth heblaw dillad. Yr oedd yno stôr fechan o lyfrau, rhai o'i lyfrau ysgol, a rhai a gawsai'n fenthyg gan hwn ac arall; a mynych, tra byddai Daniel, y gwas mawr, yn cysgu'n esmwyth ar y gwely, a'r ceffylau un ar ôl y llall yn gorffen cnoi, yn gorwedd ac yn distewi, byddai Ieuan yno ar bwys ei gist, ar yr hon yr oedd cannwyll mewn llusern, yn prysur ddarllen ymhell i'r nos.

PENNOD IX

UN haf, yr ail i Ieuan ym Mronifor, daeth gŵr dieithr brawd y ffermwraig-i aros yno. Cyfreithiwr oedd Mr. Bowen yng Nghaerdydd, ac yr oedd sôn amdano fel un galluog yn ei waith, ac fel dyn caredig a da.

Yr oedd y cynhaeaf ŷd wedi dechrau: Bron bob dydd ym Mronifor gwelid rhes o ddynion yn torri'r ŷd â'u pladuriau, a rhes o fenywod a'r gwas bach yn rhwymo'r ysgubau ar eu hôl.

Un diwrnod, ganol dydd, pan oedd y gweithwyr i gyd yn mwynhau eu hawr o seibiant wedi bwyta eu cinio syml o uwd a llaeth, daeth Mr. Bowen ar ei dro trwy'r cae. Gorweddai rhai o'r dynion ar eu hyd o dan gysgod coeden; ysmociai eraill eu pibellaid yn hamddenol; yr oedd y twr gwragedd yn mwynhau ymgom felys, ac ar wahân, yn eistedd ar ysgub yn ymyl y clawdd, yr oedd y gwas bach a'i ben yn dynn mewn llyfr. Cerddodd Mr. Bowen ymlaen ato.

"Darllen wnewch chwi, ai e, yn lle gorffwys?" ebe'n serchog. Cododd Ieuan ar ei draed gan wrido, ac edrych yn siriol i lygaid y gŵr dieithr.

"Beth yw'r llyfr yr ydych yn ei gael mor ddiddorol?" ebai, gan gymryd y llyfr o law Ieuan ac edrych ar y teitl, a syllodd Mr. Bowen yn graff iawn ar y gwas bach o'i weld yno wrtho'i hun, ynghanol ei ludded, yn yfed mwynhad o hanes bywyd Mazzini—llyfr Saesneg a gawsai'n fenthyg gan rywun.

"A ydych yn hoff o ddarllen?" gofynnai Mr. Bowen.

"O ydwyf, syr," ebe Ieuan, "'rwy'n hoffi darllen hanes dynion mawr."

"A hoffech fod yn yr ysgol o hyd?"

Tynnu ochenaid a wnaeth Ieuan heb yn wybod iddo'i hun, a dywedodd, gan edrych draw—

Rhaid i mi ddechrau ennill 'nawr, gan mai fi yw'r hynaf, a ninnau'n dlawd."

'A ydych yn hoffi gwaith fferm?" ebe Mr. Bowen.

Gwenodd Ieuan, a dywedodd—

Mae mam yn dweud, syr, os gwnaf fy ngwaith yma yn iawn, y byddaf yn sicr o gael gwell gwaith rywbryd.'

Pa waith a hoffech ei gael? "’

Bod yn Aelod Seneddol dros Gymru, ' ebe Ieuan yn ddibetrus, a methai â deall pam 'roedd Mr. Bowen yn edrych arno am gyhyd o amser, ac yn gwenu.

Wedi ymholi ymhellach ynghylch ei fam a'r teulu gartref, ac am yr ysgol y buasai ynddi, a pha wersi a hoffai fwyaf, gadawodd Mr. Bowen ef, gan fynd heibio i'r lleill ac ymgomio â hwy, nes daeth yn amser i ail— gydio yn y bladur a'r rhaca.[1]

Yn ystod y dyddiau dilynol, deuai Mr. Bowen yn fynych i ymddiddan â'r gwas bach, a daeth Ieuan yn fuan i feddwl nad oedd y fath ddyn yn y byd â Mr. Bowen.

Un diwrnod gwlyb tua diwedd Awst, yr oedd y ddau was yn yr ysgubor yn gwneud rhaffau gwellt yn barod erbyn toi yr helmau llafur. Troi oedd gwaith Ieuan. Yn ei law yr oedd offeryn bychan a bach wrtho. Rhoddai'r bach am ychydig wellt o law Daniel, a thra y gofalai hwnnw am ddefnyddiau'r rhaff, troai Ieuan yn ddibaid, gan gerdded wysg ei gefn nes cyrraedd pen pellaf yr ysgubor. Pan oedd ef wrthi felly, yn brysur yn troi ac yn meddwl, daeth Ann y forwyn fach i'r ysgubor, a chan fynd at Ieuan, a chymryd y trowr o'i law, dywedodd—

"'Rwyf fi yn dod i droi, Ieuan. Mae ar Mr. Bowen eisiau siarad â chwi am funud yn y tŷ."

"Ieuan," ebe Mr. Bowen, "yr wyf yn mynd i ofyn cwestiwn ichwi, ac yr wyf am i chwi feddwl digon cyn ei ateb. Yn lle bod yn was bach yma, a hoffech chi ddod yn was bach i mi yng Nghaerdydd? Mae eisiau bachgen o'ch oed chwi arnaf yn fy swyddfa. Carwn roi cyfle i chi i ddysgu ac i ddod ymlaen yn y byd. A hoffech chi ddod?"

Daeth y dagrau i lygaid Ieuan, ond wedi munud o ddistawrwydd, edrychodd i wyneb Mr. Bowen, ac atebodd—

'Buasai'n well gennyf ddod yn was i chwi, syr, na mynd i unlle arall yn y byd, a dod a wnawn ar unwaith oni bai am mam. Nid yw hi wedi bod yn iach iawn wedi colli Eiry, ac yr wyf am ennill arian, fel na raid iddi hi weithio llawer. Byddai'n dda gennyf pe bawn yn gallu dod, ond nid wyf am adael mam, ac os gwelwch yn dda, syr, peidiwch â dweud wrthi eich bod wedi gofyn i mi."

"Da gennyf weld eich gofal am eich mam, Ieuan," ebe Mr. Bowen. Yr wyf wedi bod yn siarad â hi a hefyd â Mr. Howel, eich ysgolfeistr. Y mae eich mam yn falch o'r cyfle i chwi gael dod, a gofalaf fi y cewch ennill arian i'w helpu eto.

"O, os gallaf wneud hynny, ac os yw hi'n fodlon i mi ei gadael, mi ddof yn llawen," ebe Ieuan.

"Bydd hiraeth ar eich mam, wrth gwrs, ond y mae pob rhieni yn gorfod dioddef gweld eu plant, drwy un ffordd neu'r llall, yn eu gadael," ebe Mr. Bowen. "Bydd hyn yn y diwedd yn llawer mwy o les i'ch mam."

'Rwy'n ddiolchgar iawn ichwi, syr," ebe Ieuan, a'i lais ar dorri.

Ni fuaswn yn gwneud hyn â chwi, Ieuan, oni bai fod pawb yn rhoi gair da i chwi. Dywedai Mr. Howel eich bod yn ffyddlon a diwyd gyda'ch gwersi yn yr ysgol, eich bod bob amser yn dweud y gwir, a'ch bod yn un y gellir dibynnu arnoch, a hefyd, eich bod yn garedig a thyner wrth blant eraill llai na chwi. Dywed fy mrawd yng nghyfraith yma eich bod yn ofalus gyda'ch gwaith, ac yn onest gyda'ch amser, a dywed eich mam na fu mab gwell gan neb erioed."

Mam sydd wedi fy nysgu, syr," ebe Ieuan yn ddistaw.

Ie, da i chwi fod mam mor dda gennych, ac yn awr, yr wyf am i chwi gofio mai'r pethau hyn a ddysgodd eich mam i chwi—bod yn onest, yn eirwir, yn ffyddlon ac yn garedig— yw'r pethau sydd wedi eich cychwyn ar ffordd llwyddiant; a'r rhai hyn, os cedwch hwynt, sydd yn mynd i wneud dyn ohonoch. Mae pethau fel hyn yn sicr o dalu i bawb, hyd yn oed yn y byd yma, hwyr neu hwyrach. Os gwnewch eich gorau gyda mi, gwnaf finnau fy ngorau i chwi. Cewch eich cyfle i ddod ymlaen, a phwy ŵyr? feallai y gwelir chwi yn Aelod Seneddol ryw ddydd. Mae eisiau dynion da ar Gymru, ac ar y byd. Ieuan, 'roedd gen i fachgen bach tua'r un oed â chwi. Mae hwnnw yn y bedd erbyn hyn, a'i fam wedi ei ddilyn. 'Rwyf am i chwi dreio llanw lle hwnnw yn fy mywyd."

A phan ddistawodd Mr. Bowen yn sydyn, roddes Ieuan ei law iddo, a dywedodd, gan edrych i'w lygaid yn ôl ei arfer—

Diolch yn fawr i chi, syr. Nid anghofiaf byth eich caredigrwydd, ac mi wnaf fy ngorau i'ch talu'n ôl.'

Ieuan distaw iawn fu'n troi rhaffau am y gweddill o'r dydd hwnnw.

PENNOD X

YMHEN tua deufis ar ôl hyn, wedi calan- gaeaf, diwedd blwyddyn y fferm, gadawodd Ieuan fwthyn gwyn ei febyd; gadawodd dawelwch gwlad am firi tref, a gwaith anorffen fferm am waith y swyddfa. Bore prudd iawn i bawb o'r teulu bach oedd bore'r gwahanu hwnnw. Ychydig iawn a oedd ganddynt i'w ddweud wrth ei gilydd. Yr oedd cynghorion Gwen Owen wedi eu rhoi ymhell cyn y bore hwnnw-caent eu gwau i mewn yn raddol i gymeriadau ei phlant, nes eu troi'n egwyddorion y gellid dibynnu arnynt. Ynghanol ei hiraeth, llawenhai'r fam fod y cyfle i ddringo wedi ei roi i'w bachgen—cyfle i ddod rywbryd i fod yn lles yn y byd. Ef ei hun mwy oedd i benderfynu pa ddefnydd a wnai o'r cyfle.

Yr oedd Natur, y bore hwnnw, fel petai'n cydymdeimlo â theulu'r bwthyn bach.

Bore tawel, distaw, oedd, a rhywbeth rhwng niwl a glaw mân-fel dagrau dwys cyfaill yn gwlychu'r ddaear heb wneud yr un sŵn. Trwy ganol hwn yr aeth Ieuan yn y fen fawr i orsaf Llanerw, gan adael ei fam ac Alun a Mair yn brudd a hiraethus ar ben y lôn fach yn chwifio eu dwylo arno nes iddo fynd o'r golwg yn y drofa. Yn ei lythyr cyntaf i'w fam, ysgrifennodd Ieuan ei deimladau mewn pennill. Mae Cymry'r mynydd—dir i gyd yn feirdd, a chyda dagrau, daw yn fynych gerdd. Wele bennill Ieuan,—

Niwl orchuddiai fro a bryniau
Ar brudd fore'r canu'n iach,
Wylai'r awel ddagrau ffarwel
Drwy y tawel bentref bach.
Wylai'r grug—y grug diflodau,
Wylai'r eithin ddagrau'n lli,
Wylai'r coedydd, wylai'r caeau—
Ac fe wylai 'nghalon i.


Ond nid oedd ymadawiad Ieuan yn orffen i'r gwahanu. Cafodd Alun fynd yn was bach i Fronifor ar ôl Ieuan; ond wrth gyrchu'r defaid a'r gwartheg, ac wrth ddilyn yr ôg i lyfnu'r tir yn y gwanwyn, crwydro at y môr a wnai llygaid Alun o hyd. Ar y môr yr oedd ei galon, a blino ei fam am ganiatâd i ddilyn ei elfen a wnai o hyd.

"Wedi colli Eiry a cholli Ieuan, a raid i mi dy golli di eto, Alun bach?" oedd cri'r fam.

"O, mam fach," meddai Alun, "gadewch i mi fynd. Mi ddof a phob math o bethau o'r gwledydd pell i chwi i'ch gwneud yn hapus, a phan fyddaf yn gapten, cewch chwi a Mair ddod gyda mi am fordaith.'

Gwneu arno'n fwyn a wnai ei fam, ac o'r diwedd, cafodd Alun ei ddymuniad. Cafodd le yn llong y Capten Prys, ac ym mis Tachwedd, wedi gorffen ei flwyddyn ym Mronifor, trodd yntau allan i'r byd, gan hwylio o Lundain yn yr agerlong Glory ar ei fordaith gyntaf i Fôr y De.

PENNOD XI

BELLACH, nid oedd ar ôl yn y bwthyn bach ar fin y rhos ond Mair a'i mam. Felly y digwydd yn hanes pob teulu ar y ddaear. Megir twr o blant ar yr un aelwyd; chwarae— ant gyda'i gilydd; cânt yr un pethau i'w diddori, yr un rhieni i wylio'n dyner drostynt; ac ymhen amser ânt—y naill yma, a'r llall draw, fel adar dros y nyth—bob un i chwilio am ei le ei hun yn y byd. Mynych, wedi'r gwahaniad cyntaf, nid oes obaith gweld y teulu'n gyfan ar yr hen aelwyd drachefn.

O ddydd i ddydd, o wythnos i wythnos, o fis i fis, aeth deng mlynedd heibio. Yn ystod yr amser hwnnw, daeth aml gyfnewidiad dros y byd a thros deulu bychan Nantoer. Nid plant ar y plwyf mohonynt bellach. Enillent i gyd eu bywoliaeth mewn ffordd anrhydeddus. Erbyn hyn yr oedd yr addysg dda a gawsent gan eu mam yn dwyn ffrwyth. Esgyn yn uwch bob dydd a wnai'r tri ar risiau llwyddiant.

Trwy gymorth ei feistr caredig, a'i ymdrechion diflin ei hun, yr oedd Ieuan yn prysur ddod i'r amlwg. Deuai sôn am dano'n fynych gyda'r awel i fro dawel ei febyd. Nid yn unig ar gyfrif ei waith fel cyfreithiwr, ond cymerai ddiddordeb mawr mewn pob pwnc o bwys, yn enwedig pob pwnc ynglŷn â'i wlad. Clywid ef yn fynych yn siarad yn gyhoeddus, a phroffwydai pobl ddyfodol gwych iddo.

Er hoffed oedd Ieuan yng ngolwg ei fam, nid llai hoff ganddi Alun. Yn ei le ei hun, dringo o hyd wnai yntau hefyd. Aethai trwy un arholiad ar ôl y llall yn llwyddiannus, ac yr oedd ei nod, bellach, yn y golwg, sef bod yn gapten. Hyfryd iawn oedd yr olwg arno yn ei ddillad morwrol, a lliw'r haul ar ei wyneb, a glesni'r môr yn ei lygaid.

Nid yn aml y cai Alun ddod adref; ai deunaw mis heibio, weithiau heb ei weld. Bob tro y deuai, gwnai Ieuan ei ffordd yn rhydd i ddod hefyd.

Yr oedd Mair yn awr yn ferch ieuanc brydferth ugain oed. Wedi gorffen ei hysgol yn Rhydifor, cawsai aros yno fel athrawes. Yr oedd felly yn abl i gael addysg ei hun, ennill ei bywoliaeth, a hefyd fod gartref yn gwmni i'w mam. O dan ei gofal hi, daeth Nantoer yn lle mwy swynol a thlws nag erioed. Yr oedd pob man o'i fewn ac o'i gylch mor lân, a'r ardd fel yn gartref rhosynnau. Pan ddeuai'r bechgyn adref ar eu tro—Alun o'r môr ac Ieuan o'r ddinas fawr—nid rhan fechan o'u mwynhad oedd cael cwmni eu chwaer, a'u gwylio mor hardd a lluniaidd yn symud o gylch y tŷ, ac yn gweini mor siriol arnynt hwy ac ar eu mam. Ac i Mair, nefoedd ei bywyd oedd yr ymweliadau hyn, oherwydd ni flinai ei brodyr ddod â phob math o bethau hardd iddi i'w gwisgo, a pha ferch nad yw'n hoff o bethau felly? Ai'r tri'n fynych gyda'i gilydd fraich ym mraich dros y rhos, hyd yr hen lwybrau, a mawr oedd eu hyfrydwch.

Ond pan ddeuent at y fan y bwrlymai'r afon fach dros y llethr i lawr i'r cae, distawent yn sydyn, a chofient am y llif flynyddoedd maith yn ôl, ac am Eiry, eu chwaer fechan, hoff, a'r llygaid glas, byw, a'r gwallt modrwyog, melyn, a gollasid mewn ffordd mor ryfedd, ac na welwyd mwy.

Un nos Wener, tua diwedd mis Hydref, cerddai Mair yn hamddenol trwy'r lôn fach ar ei ffordd adref o'r ysgol, pan welai ei mam yn dod i'w chyfarfod gan ddal llythyr yn ei llaw. Rhedodd Mair ati.

"Yr oeddwn yn dy ddisgwyl, Mair," ebe'r fam. "Dyma lythyr oddi wrth Alun o Sunderland. Bydd yma ddydd Mawrth nesaf."

Cymerth Mair y llythyr a darllenodd ef yn awchus, ac nid oedd geiriau a fedrai ddisgrifio ei llawenydd. Neidiai a rhedai o gwmpas ei mam fel y gwnai pan oedd yn blentyn.

"Hwre! Alun yn dod eto o'r môr! Beth fydd ganddo i mi, ys gwn i? Rhaid anfon at Ieuan yfory. O, mam, mor hapus wyf!" meddai, gan gydio yn dynn ym mraich ei mam a phwyso ei hwyneb arni. Yr oedd ei mam mor hapus â hithau, er na ddangosai hynny mewn dull mor gyffrous.

Drannoeth, pan oedd Mair yn brysur yn gwyngalchu muriau'r bwthyn bach, daeth y postmon drachefn i Nantoer.

"Mrs. Owen" yr oedd y llythyr o rywle yn Lerpwl, ac oddi wrth rywun nas adwaenai hi. Yn Saesneg yr ysgrifenasid ef, a byr oedd ei gynnwys. Darllenodd a chyfieithodd Mair ef i'w mam.

'If this letter reaches the hand of Mrs. Owen, who, with her four children, once lived at Nantoer, Rhydifor, would she kindly communicate with me? I have something of importance to disclose to her.

LLEWELYN MORGAN."

7,—— St.,
Liverpool.

"O, mam," ebe Mair, "'rwy'n siwr fod rhywun wedi marw a gadael arian i chwi. A oes rhywun cyfoethog yn perthyn i chwi yn rhywle?"

Nac oes, yn wir, Mair fach," ebe'r fam. "Nid rhywbeth felly sydd yn y llythyr, mi wn. Gad iddo nes daw Ieuan, i gael gweld beth a ddywed ef."

Methu â dyfalu wnai'r ddwy pwy a'i danfonasai, ac i ba beth, a beth allai y "something of importance" fod, ac ebe Mair—

"Gadewch i mi ei ateb heddiw, mam. Daw'r llythyr a'r peth pwysig wedyn tra fo'r bechgyn yma.'

Cytunodd y fam, ac atebwyd y llythyr y diwrnod hwnnw.

PENNOD XII

HYFRYTED Cwrdd ag anwyliaid wedi absenoldeb hir! Wedi'r crwydro, mor felys dod yn ôl i'r hen fro gysegredig i adrodd helyntion y daith—y prudd a'r llon. Ac mewn byd lle mae cymaint o bethau yn newid ac yn cilio, hyfryd yw cael mam neu dad yn yr hen gartref a'u cariad yn aros yr un o hyd—eiliw gwan o gariad mwy.

Edrychai pob un o deulu Nantoer ymlaen at y dydd Mawrth hwnnw gyda chalonnau llawn. Yn ystod y nosweithiau cyn ei ddyfod, o'r braidd y medrai Alun gysgu o gwbl. Nid oedd Ieuan fawr gwell, nac, ychwaith, eu mam a Mair. Rhedai meddyliau'r pedwar at ei gilydd ymhell cyn iddynt gyfarfod wyneb yn wyneb. Fore Mawrth, wedi codi, sylwodd Mair fod ei mam yn brudd iawn ei gwedd fel pe bai ar dorri i wylo, a gofynnodd iddi yr achos.

"Meddwl am Eiry fach 'rwyf fi trwy'r bore," ebe hi. Cefais freuddwyd hynod iawn amdani neithiwr. Gwelwn hi yn dod i'r tŷ yn llaw Ieuan, yn ferch dal, ac O mor dlos,—fel y gallai fod yn awr pe bai'n fyw. Daeth ymlaen ataf, a gwenodd arnaf fel y gwnai gynt, a dywedodd 'Mam' a dihunais gyda'r gair."

Wylai Gwen Owen ac wylai Mair gyda hi, a methwyd â bwyta borefwyd yn y bwthyn y bore hwnnw, er mai dydd mawr dyfodiad y bechgyn oedd, am fod un o'r teulu bach na ellid ei ddisgwyl.

"Rhaid i ni anghofio hyn heno, Mair fach," ebe'r farn, "a phaid â dweud dim am y peth wrth y bechgyn. Nid wyf am eu tristau wedi iddynt ddod adref."

Tua hanner awr wedi chwech, aeth Mair i ben y lôn fach i ddisgwyl y fen fawr, gyda'r hon y deuai Ieuan ac Alun o orsaf Llanerw.

"Dyma fi wedi dod â hwy i chwi unwaith eto," ebe'r gyrrwr wrth Mair, oherwydd adwaenai hi yn dda. Disgynnodd y ddau fachgen tal, golygus, am y cyntaf, gan redeg at eu chwaer a'i chusanu, a holi mi o gwestiynau iddi â'u lleisiau dwfn, ac aethant eu tri, fraich ym mraich yn llawen i'r bwthyn lle'r oedd eu mam, a'r bwrdd llawn, a'r croeso cynnes yn eu disgwyl.

Noson hyfryd iawn oedd honno wrth y tân yn Nantoer. Yr oedd gan y ddau lawer i'w ddweud. Un o newyddion gorau Ieuan oedd ei fod wedi ei wahodd i fod yn Ymgeisydd Seneddol dros sir neilltuol yn yr etholiad nesaf. "Felly, peidiwch â synnu, mam," meddai, os taw' Ieuan Owen, A.S.' fydd nesaf yn dod i aros yma atoch."

Yr oedd gan Alun ystôr o hanesion am ryfeddodau'r môr a'r gwledydd pell.

Yr oedd ganddo rai pethau nad oedd gan Ieuan, neu, o leiaf, bethau na soniai Ieuan ddim am danynt. Tynnodd o lyfr bychan a gariai yn ei logell, wedi ei amdoi'n ofalus mewn papur sidan, lun merch ieuanc nodedig o hardd, wedi gwisgo'n brydferth, a'i gwallt fel mantell yn disgyn dros ei hysgwyddau.

Gadawodd Alun i'r tri edrych ar y llun yn syn am ysbaid cyn dweud dim.

"Helo!" ebe'r fam, "A ydyw Alun wedi cael rhywun i'w charu yn fwy na mi?

Gwenodd Alun yn ddireidus cyn ateb.

Na, nid felly, mam," ebai," achub bywyd y ferch yma a wnes ers mwy na blwyddyn yn ôl, a chael ei llun wedyn er cof. Dyma beth arall a gefais," ebai, gan ddangos oriawr aur hardd, ac arni'n gerfiedig y geiriau—

A LITTLE TOKEN OF GRATITUDE
TO
ALUN OWEN,
FOR SAVING MY LIFE
Nov. 17, 1896.
ELSIE MAY.

Yna adroddodd yr hanes—

"Yr oedd ein llong yn aros mewn lle o'r enw Hamilton, tref ar Ynys Bermuda ym Môr Iwerydd. Cerdded ar y traeth yr oeddwn i pan glywais weiddi mawr o'r môr. Yr oedd cwch bychan wedi dymchwelyd, a gwelwn ddyn a merch ieuanc yn dal eu gafael ynddo ac yn gweiddi am help. Medraf nofio'n dda, a chyn pen ychydig funudau, yr oeddwn yno—tua deugain lath o'r traeth. 'Achubwch fy merch,' llefai'r dyn, 'daliaf fi fy ngafael yn y cwch.' Rhywfodd, medrais ddod â hi i'r lan, ond bu agos i ni ein dau foddi. Nid oedd llawer o bobl ar y traeth, a boddodd ei thad cyn i neb gael cwch i fynd ato. Yr oedd y fam bron yn wallgof—yn falch am fod ei merch yn fyw, a bron a thorri ei chalon am golli ei gŵr. Gofynasant fy enw a'm cyfeiriad, a chyn i'r llong adael Hamilton, daeth hi a'i mam i'r bwrdd a'r oriawr a'r llun yma i mi. O, dyna ferch hardd oedd hi! Pan oedd yno yng nghanol y môr, a'i dillad gwynion am dani a'i gwallt hir yn nofio ar wyneb y dŵr, edrychai fel angyles neu fôr—forwyn. A dyna hardd oedd hi yn ei dillad duon ar y bwrdd! Wylai'r wraig yn rhyfedd wrth siarad â mi, a gofyn— nodd y ddwy i mi a awn i'w gweld pan fyddai ein llong nesaf yn Hamilton. Felly, hwyrach y gwelaf hi eto, mam," a deuai rhyw olau tyner iawn i lygaid y morwr bach.

Yr oedd calon y fam yn rhy lawn i ddweud llawer, ond gwyddai'r plant ei theimlad, ac yr oedd gwybod fod eu bywyd a'u gwaith yn y byd yn gwneud eu mam yn hapus yn fwy o dâl iddynt na dim clod a gaent gan eraill.

PENNOD XIII

DRANNOETH, tua thri o'r gloch yn y prynhawn, cerddai Ieuan yn hamddenol gan fyfyrio a chwibanu ar hyd y lôn fach. Aethai Alun a Mair i'r pentref i wneud rhyw negeseuau dros eu mam. Rhyw ddisgwyl eu cyfarfod yn dod yn ôl yr oedd Ieuan yn awr.

Ond yn lle ei frawd a'i chwaer, rhyw ŵr a merch ieuanc nas adwaenai a welai yn dod yn nhro'r ffordd. Dyn byr, tywyll, oedd, ac edrychai'n graff ar Ieuan wrth ddynesu ato. Troai'r ferch ei llygaid mawr ato hefyd, a rhyw olwg hanner ofnus ynddynt. Yr oedd wedi gwisgo mewn du, a heb yn wybod iddo, hedodd meddwl Ieuan at stori Alun, ac at y llun a welsai, a meddyliodd mai'r ferch ieuanc honno oedd am ryw reswm wedi dod i'r cwr anghysbell hwnnw o'r byd.

Arosasant. Gofynnodd y dyn ai'r bwthyn hwnnw oedd Nantoer, ac a oedd Mrs. Owen yn byw yno. Atebodd Ieuan, a dywedodd mai ef oedd ei mab hynaf. Cyn i'r gŵr dieithr gael amser i esbonio rhagor, cerddodd y ferch ymlaen at Ieuan, a chan estyn ei llaw iddo, dywedodd—

"Ieuan, fi yw Eiry, dy chwaer fach, wedi dod nôl." Edrychai Ieuan arni fel un mud; ni fedrai gael gair allan, ac ebe hi drachefn—

"Gad i mi weld mam."

Aeth Ieuan â hi, gan gydio yn ei llaw, ac edrych arni fel un mewn breuddwyd, i mewn i'r bwthyn lle'r eisteddai ei fam wrth y tân yn disgwyl i'r tegell ferwi. Pan welodd hi'r ddau yn dod yn union fel y dangoswyd iddi yn ei breuddwyd, cododd i'w cyfarfod gan lefain—" O, dyma mhlentyn i wedi dod nôl," ac wedi gwasgu Eiry at ei chalon a chlywed y gair "Mam o'i genau, llewygu wnaeth, a hir y buwyd cyn gael gair ganddi drachefn.

"Dyma Alun a Mair yn dod," ebe Ieuan yn ddistaw wrth Eiry, a oedd yn dal llaw ei mam o hyd. Cododd Eiry i'w cyfarfod.

Edrych o un i'r llall yn syn a gwylaidd wnai'r ddau am funud, gan fethu â deall pa gyffro oedd yn y tŷ. Yna, tra safai Mair o'r tu ôl, trodd Alun yn gyffrous at Eiry, daliodd allan ei law, a dywedodd â'i anadl yn ei wddf—

"Miss May!"

"A! ie, Miss May,' ac Eiry dy chwaer fach," ebe hi, gan ddal llaw Alun a Mair gyda'i gilydd. Ychydig feddyliais mai fy mrawd a achubodd fy mywyd," ac wylodd heb fedru peidio. Wylai pawb am ennyd. Ni wyddai Alun pan un ai llawenhau a wnai ai peidio am mai yr un oedd "Miss May ac Eiry. Pan oedd y pedwar felly, yn wylo ac yn gwenu, yn holi ac yn ateb bob yn ail, agorodd y fam ei llygaid. Syllodd arnynt yn ddwys am beth amser, yna gwenodd yn foddhaus, ac yn raddol daeth golwg dawel yn ôl i'w hwyneb.

Wedi ei gweld yn dod ati ei hun, daeth y gwr dieithr ymlaen. Dywedodd mai cyfreithiwr Mrs. May oedd ef, a'i fod wedi dod yno, yr holl ffordd o America, i roi esboniad ar bethau, ac y gwnai hynny'n awr os caniataent iddo.

Gorweddai'r fam ar esmwythfainc. Safai ei phedwar plentyn gerllaw iddi. Rhoddwyd cadair i'r gŵr dieithr yn eu hymyl.

PENNOD XIV

TYNNODD Mr. Llewelyn Morgan ryw bapurau o'i logell a dechreudd ei stori ar unwaith.

'Cafwyd y llythyr hwn ymysg papurau Mrs. Isabel May, y wraig a fu yn lle mam i'r ferch ieuanc yma (gan gyfeirio at Eiry). Bu hi farw chwe wythnos yn ôl yn ei chartref yn Hamilton. Yn ei hewyllys, ymysg pethau eraill, gofynnai i mi gyfieithu'r llythyr a chario allan ei gorchymyn hi ynglŷn ag ef. Yr oeddwn i ddod gyda Miss May i Gymru, chwilio am ei theulu, a'i chyflwyno yn ôl iddynt gydag eglurhad o'r modd y dygwyd hi. Wedi cyrraedd Lerpwl, ysgrifennais yma er mwyn cael gwybod a oeddech yn byw yma o hyd; cefais ateb, ac wele ni. Yn awr, caiff y llythyr ei esbonio ei hun."

Gwrandawai'r teulu bach yn astud tra darllenai Mr. Morgan gyffes hynod un oedd erbyn hyn mewn byd arall,-yn rhy bell oddi wrthynt i dderbyn cerydd na maddeuant.

HAMILTON,
Ionawr 1af, 1897.

Yn haf y flwyddyn 1883 daeth fy mhriod a minnau i Gymru am dro. Wrth fynd i Lanywerydd, deuthum ar ddamwain gyffyrddiad â phedwar o blant bychain yn chwarae ar y rhos. Synnwyd fi gan dlysni'r un fechan ieuengaf, Eiry. Ymserchais ynddi o'r awr honno, a dymunwn ei gweld eilwaith. Cefais fy nymuniad. Gwelais hi yng Nglanywerydd gyda'i mam a'i chwaer, ac euthum yn fwy hoff fyth ohoni. Meddyliwn yn brudd, pam na chawn i ferch fechan felly pan oedd gennyf ddigon o arian i'w dwyn i fyny yn briodol, tra oedd y fam hon yn dlawd, a'r fath blant tlws ganddi. Dri mis ymhellach, wrth ddychwelyd, nid oedd gyrrwr gennym. Fy mhriod a minnau yn unig oedd yn y cerbyd. Mynnais gael mynd i lawr i'r bwthyn i weld y plentyn unwaith eto. Yr oedd rhywbeth o'm mewn yn gwneud i mi fynd. Gwyddwn, wrth yr hyn a ddywedai'r plant, nad oedd eisiau ond croesi'r rhos o'r ffordd uchaf. Yr oedd yn glir bryd hwnnw, ond pan oeddwn yn nesau at y bwthyn, daeth niwl tew yn sydyn i guddio pob man. Euthum at y drws. Curais, ond ni chefais atebiad. Agorais ef, ac euthum i mewn. Nid oedd neb yno neb ond yr un fechan a hoffwn yn gorwedd ar y gwely. Gwelais fy nghyfle y plentyn yn cysgu, heb neb yn y tŷ, a'r niwl ym mhobman. Meddwl newydd hollol oedd, nid oeddwn wedi bwriadu dim o'r fath wrth ddod lawr. Rhedais allan. Edrychais i bob man, a gwrandewais. Ni welais neb, ac ni chlywn ond rhu'r afon yn y cae gerllaw. Gwelais y glwyd a arweiniai ati, a gwnes fy mhenderfyniad. Yr oedd gennyf glôg am danaf. Rhoddais ef am y plentyn, gan ei chodi yn ei chwsg a'i gwasgu at fy nghalon. Yr oedd tegan bychan yn ei llaw. Teflais ef â holl nerth fy mraich i'r cae tua chyfeiriad yr afon, a dymunais y gwnai ei waith drwy dynnu sylw pobl at y ffordd honno, a pheri iddynt feddwl fod yr un fach wedi boddi. Cyrhaeddais y ffordd a'r cerbyd; ac er cymaint a wrthwynebai fy mhriod, mynnais gael fy ewyllys. Yr oeddwn mor wyllt fy ngwedd nes yr oedd arno ofn fy nghroesi. Yr oedd mantell arall gennyf yn y cerbyd. Rhwymais honno am Eiry, fel nad oedd berygl i neb weld ei gwisg. Yr oeddem yn hwylio drannoeth i America, a gwyddwn, os gwnai y tegan bach ei waith, ac os cawn y plentyn unwaith ar fwrdd y llong, y byddai popeth yn iawn. Felly y bu. Prynais ystôr o ddillad bychain iddi yn Lerpwl. Bu hi o'r dechrau mor ddiddig â phetai gyda'i mam. Dywedais wrth fy nghyfeillion yn Hamilton mai merch fach i chwaer fy mhriod oedd, yn cael ei dwyn i fyny gennym ni.

Galwasom hi yn "Elsie—Elsie May," ac yn fuan, ni chofiai hi o gwbl am "Eiry na neb o deulu'r bwthyn. Da i mi nad oedd ond prin tair oed ar y pryd. Gan fod fy mhriod yn Gymro, dysgasom hi i arfer y ddwy iaith. Treuliasom un flwyddyn ar ôl y llall yn llawen fel chwedl. Ceisiwn feddwl fod y lles yr oeddwn yn ei wneud i'r un fechan yn gwneud i fyny am yr ing a barodd fy ngweithred i'r fam.

Yn 1896, cyfarfu fy mhriod â'i angau drwy foddi, a bu agos i'r un a alwn yn ferch, ac a garwn fel fy merch fy hun, foddi hefyd. Achubwyd hi gan ei brawd. Cofiwn enwau'r plant er y dydd cyntaf hwnnw ar y rhos, a phan glywais yr enw "Alun Owen," syllais arno ac adwaenais ef. Onid oedd ei lygaid yn union fel rhai Eiry? Pan welais y llygaid hynny yn edrych arnaf, a'i weld ef yn rhoi ei chwaer fechan yn ôl i mi o grafangau angau, tra'i galon fach ei hun wedi bod yn ddiau yn brudd amdani lawer gwaith, teimlais fy mai i'r byw. Meddyliwn fod Duw yn edrych arnaf drwy lygaid clir y morwr bach, a chredwn Ei fod, drwy gymryd fy mhriod mor sydyn, am fy nwyn ataf fy hun. O'r dydd hwnnw, ni chefais hedd i'm bron, a theimlwn, rywfodd, fod fy amser innau yn tynnu at y terfyn.

Trefnaf, felly, fod Eiry, wedi i mi farw, i gael ei dwyn yn ôl at ei theulu, a gobeithiaf fod ei mam yn fyw, ac y caf faddeuant ganddi. Unig oeddwn, ac mor siomedig; ac ymglymodd fy nghalon gymaint am ei merch fechan, dlos, a meddyliais yn y niwl a'r unigedd hwnnw ger y bwthyn fod nef a daear o'm tu. Dyma fi wedi ei magu yn dyner, ac wedi rhoi addysg dda iddi. Bu hithau'n ferch dda i mi heb erioed wybod fod ei mam ei hun yn fyw. Diolch am ei benthyg! Gwelwch, yn ôl fy ewyllys, fod fy arian a'm meddiannau i gyd iddi hi i wneud fel y mynno â hwy. {{c|(Arwyddwyd) ISABEL MAY.}]

Diwrnod rhyfedd fu hwnnw yn Nantoer, a diwrnodau rhyfedd fu y rhai dilynol. Meddyliai'r mam yn fynych mai breuddwyd oedd y cyfan, ac y dihunai ryw fore gan deimlo'r ing yn ei chalon am Eiry fel o'r blaen. Ond yn raddol, daethant yn gyfarwydd â'u dedwyddwch. Erbyn hyn, nid oes deulu hapusach o fewn y byd. Yn agos i'r bwthyn, rhyngddo â'r ffordd fawr, y mae ganddynt dŷ newydd hardd, ac yno y mae Mair ac Eiry yn llonni'r lle, ac yn gwneud popeth a allant i sirioli bywyd eu mam. Yno hefyd y daw ar ei dro Ieuan Owen, yr Aelod Seneddol ieuanc, brwdfrydig a phoblogaidd. Daw hefyd mor fynych ag y gallo y Capten Alun Owen o'r môr. Y mae ei fam a'i ddwy chwaer wedi bod eisoes am fordaith yn ei long. Dywed ef, na fyddai Eiry hyd eto wedi ei chael oni bai iddo ef, ers llawer dydd yn ôl, fynnu bod yn forwr.

Nid byw iddynt eu hunain a wnânt. Yr un fam dyner, ddiwyd a da, sydd yn y tŷ newydd ag a oedd gynt yn y bwthyn, a'i gair hi yw deddf y plant o hyd. Y mae eu hardal, eu gwlad, a'r byd yn well ohonynt.

Hyd yma y dilynwn eu hanes. Gadawn hwy oll yn wyn eu byd.

TEULU BACH NANTOER

GEIRFA
(VOCABULARY)

Wedi ei threfnu er hwylustod i'r plant yn yr ysgol a'r cartref, gyda'r geiriau yn eu ffurf dreigladol, os felly yn y stori, gan W. M. ROBERTS.

HUGHES A'I FAB, CYHOEDDWYR

GEIRFA (Vocabulary)

NODIAD.-Fe welir fod llawer o'r geiriau yn yr Eirfa yn eu ffurf dreigladol, fel ag y maent yn y stori. Diau y bydd hyn yn hwylustod i lawer, gan mai ychydig o blant sy'n ddigon hyddysg yn y Gymraeg i droi at y gair yn ei ffurf wreiddiol. Os na fydd gair yn ymddangos yn ei ffurf dreigladol yn yr Eirfa, gellir cymryd yn ganiataol mai yn ei ffurf wreiddiol y mae.

ANSODDEIRIAU A RHAGFERFAU.-Gan na ellir dweud oddi wrth ei ffurf (yn y Gymraeg) pa un ai ansoddair ynteu berf ydyw gair, rhaid i'r berthynas a ddeil gyda rhan o frawddeg, sylweddair, berf. neu ansoddair cyfagos, benderfynu'r pwnc. Ceir fod rhagferf a lythrennir yn unfath ag ansoddair, yn cael ei rhag- flaenu mewn brawddeg gan y gair yn. Os na fydd gradd cpv, eq, neu sv, yn gysylltiedig ag ansoddair, deëllir ei fod yn y Radd Gysefin (Positive).

BYRFODDAU (Abbreviations)

a . . . adjective . . . ansoddair.
adv . . . adverb . . . rhagferf.
cpv . . . comparative degree of adjective . . . gradd gymharol.
eq . . . equative degree of adjective . . . gradd gyfartal.
nm . . . Noun masculine . . . sylweddair gwrywol.
f . . . feminine . . . benywol.
nf . . . Noun feminine . . . sylweddair benywol.
np . . . noun plural . . . enw lliosog.
p . . . plural . . . lluosog.
P . . . page . . . tudalen.
prep . . . preposition . . . arddodiad.
pn . . . pronoun . . . rhagenw.
pt . . . past tense . . . amser gorffennol.
rf . . . radical form . . . ffurf wreiddiol.
S . . . singular . . . unigol.
sf . . . singular feminine . . .
sm . . . singular masc. . . .
sv . . . superlative degree of adjective . . . gradd eithafol.
v . . . verb . . . berf.


ACHUBWYD, v saved (pt.)
ADEGAU, np season (sg adeg).
ADDURN, n ornament.
ADDYSG, n education.
AELWYD, nf hearth.
AGORAIS, v (1) opened (prt).
ANGAU, n death.
ANGHYSBELL, a remote.
ALLU, n power; rf gallu.
ALLWEDD, nf key.
ANAML, ady seldom.
ANERCHIAD, n address.
ANRHYDEDD, n honour.
ANWYBODUS, a ignorant.
ARDAL, nf neighbourhood.
ARHOLIAD, n examination.
ARIAN, a (in this case, p 3), silver; (p. 60, it is a noun, and means wealth or money).
AROGL, n smell, scent.
ARWYR, np heroes; sq arwr.
ASTUD, adv attentively, diligently.
AWCHUS, adv eagerly.
BACH (p. 39, line 19), n hook.
BAE (mûr-gilfach),n bay.
BARN, n judgment.
BASTAI, n pie (rf pastai)
BELYDRAU, np rays, beams (rf, sq pelydr).
BENBLETH, nf perplexity (rf penbleth).
BENDERFYNIAD, n determination (rf penderfyniad).
BENTAN, n hob (rf pentan).
BENTHYG, n loan.
BEUDY, n cow-house.
BODDI, v drown(ed), (pt).
BREF, nf bleat.
BREICHIAU, np arms (sq braich).
BRENNAU, np timber (rf, sg pren).
BRWDFRYDIG, a enthusiastic.
BRYD, n time (rf pryd);HEN BRYD, high time.
BRYDERUS, adv (in this case, p. 5), anxiously (rf pryderus).
BWRLYMAI v bubbled (pt).
BWTHYN, nf cottage.
BYCHAN, a small.
BYW (I'R a quick last line p. 62).
BYWOLIAETH, nf a living, livelihood.
CALANGAEAF, n Allhallowtide,
Allsaints (November 1st, the period when, in some districts, servants are engaged).
CAMWEDD, n wrong, transgression, iniquity.
CAREDIG, a kind.
CEFNU, v to turn their backs (p. 21), return.
CENEDL, n nation.
CERBYD, n carriage.
CERYDD, n rebuke, reproof.
CLAWDD, n fence, dyke, hedge.
CLOD, n praise.
CLWYD, n gate (n this sense, p. 32) South Wales; Llidiart is the word used in N. Wales for gate, clwyd being used for "roost."
CNOI, v chewing.
CRIBINIAU, np rakes (sg cribin see rhaca).
CROESO, n welcome.
CURAIS (I) knocked (pt).
CWR, n corner, spot.
CYFLE, n opportunity.
CYFREITHIWR, n solicitor, lawyer.
CYNGHORION, np advice, counsel (s cyngor).
CYMDOGION, np neighbours (s cymydog).
CYMRU n Wales.
CYMRY, np Welshmen (sg Cymro)
CYNHAEAF, n harvest.
CYNNAR, a early.

CYSEGREDIG, a sacred, consecrated.
CHOL, n lap (rf côl).
CHROEN, nf (f in this case), skin (rf croen).
CHWEDL, nf story, fable, tale.
CHWIBANU, v whistling.
CHWILIO, v to search.
CHWYRN, adv (in this case, p. 29), rapidly, swiftly.
CHYFEIRIAD, n direction (rf cyfeiriad).
CHYFLWYNO, v to present (rf cyflwyno).
DAFLOD, nf loft, attic (rf taflod).
DAETHAI v came (pt.)
DAGRAU, np tears (sg deigryn).
DEBYCED, a, eg. d. how like.
DEDWYDDWCH, n happiness.
DEGAN, n toy (rf tegan).
DEDDF, n law, ordinance.
DEITHIO, v travelling (rf teithio).
DIBYNNU, v rely, depend.
DIDRAI a unfailing.
DIDDORDEB, n interest.
DIDDOS, a snug.
DIHUNAIS, v (I) awoke (pt).
DILYNWN, pv (we) follow (sg dilynaf).
DIODDEF, v to suffer.
DIOSGWYD, v stripped, taken off
DISGYNNAI, descended (pt).
DISTAW, a silent.
DIREIDI, n mischievousness.
DIYSGOG, a immovable, firm.
DLYSNI, n beauty (rf tlysni).
DRAETH, n shore, (rf traeth).
DWYS, a serious, grave.
DYFALU, V conjecturing.
DYNER, adv. (in this case),
tenderly (rf tyner).
DYRNU, v to thresh.
DDAMWAIN, n accident (rf damwain).
DDARLLEN, v reading (rf darllen).
DDEWRED, a eq.d. as brave (rf dewred).
DDIBETRUS, adv unhesitatingly (rf dibetrus).
DDIOFAL, a careless (rf diofal).
DDISTAW, adv (in this case, p. 3),
quietly (rf distaw).
DDIWYD, a industrious, diligent (rf diwyd).
DDWYS, adv seriously (rf dwys).
EDRYCHIAD, n look.
EDRYCHODD, v looked (pr).
EGLURHAD, n explanation.
EGWYDDORION, np principles (s egwyddor).
EHANGDER, n expanse.
EILIW, n reflection.
EIRWIR, a truthful (rf geirwir).
EISTEDDAI, V sat (pt).
EITHIN, np gorse (s eithinen).
ENNILL, v carn.
ERAILL, p pn others (s arall).
ERFIN, np turnips (s erfinen).
ESBONIO, v explain.
esmwythfainc, n sofa.
FAE, n bay (rf bae).
FELYSION, np sweets (rf melysion; s melysen).
FEN FAWR, nf a big coach (adv comes first in Eng.); (rf men).
FERWI, v to boil (rf berwi).
FIN, n edge or side (rf min).
FIRI, n pleasure, excitement, rush (rf miri).
FLWYDDYN, n year (rf blwyddyn).
PODDI, v drowning (rf boddi).
FORD, nf table (rf bord).
FORDAITH, nf voyage srf mordaith).
FOR-FORWYN, nf mermaid (rf môr-forwyn).

FREUDDWYD, myf nfm dream (rf breuddwyd.
FUWCH, nf cow (rf buwch).
FWRDD, n board (ship) (rf bwrdd).
FYFYRIO, v musing, medtating (rf myfyrio).
FYNNU, v to will, insist (rf mynnu).
FFAELEDDAU, np failings, faults (s ffaeledd).
GADAWAI'R TYMOR EI OL, the season left its mark.
GAEAF, n winter.
GARUAIDD, adv kindly, lovingly (rf caruaidd).
GARW, a rough.
GEGIN, nf kitchen (rf cegin).
GENLLIP, n torrent, flood (rf cenllif).
GERBYDAU, np vehicles, carriages (rf cerbydau; s cerbyd).
GERFIO, v carved (rf cerfio).
GIST, n chest (to keep things in) (rf cist).
GLAS, a blue.
GLYD, a comfortable (rf clyd).
GLOG, nfm cloak, mantle (rf clôg).
GOLWG, nmf sight, view.
GORCHUDD, n cover(ing).
GORCHYMYN, nf instruction, command.
GORWEL, nf horizon.
GORWEDD, v lying (down).
GRAFANGAU, np claws, clutches (rf crafangau, s crafanc).
GRAFF, adv intently, keenly (rf craff).
GRAWN, n grain.
GREFFT, nf trade, handicraft (rf crefft).
GRUG, n heather.
GWAITH, n work.
GWALLGOFI, v insane, distracted.
GWDDF, n throat, neck.
GWEDD, nf appearance.
GWEINI, V attending, serving.
GWENAI, v smiled (ptf).
GWELLT, np straw (s gwelltyn).
GWISO, nf dress, clothing.
GWLAD, nf country.
GWOBRWYON, np prizes (s gwobr).
GLAW, n rain.
GWRANDEWAIS, v I listened (pr).
GWYCHION, a fine, gay (s gwych).
GWYLIAU, np holiday (s gŵyl).
GWYLIO, v to watch.
GWYNGALCHU, v whitewashing.
GWYNT, n wind.
GYFARWYDD, a acquainted (rf cyfarwydd).
GYFIEITHU, v translate (rf cyfieithu).
GYFNEWIDIAD, n change (rf cyfnewidiad.
GYFRWNG, n means, by means of (rf cyfrwng).
GYFFES, nf confession (rf cyffes).
GYFFYRDDDIAD, n touch, contact (rf cyffyrddiad).
GYHYD, a and adv so long (rf cyhyd).
GYMERIADAU, np characters (rf cymeriadau, s cymeriad).
GYNHARACH, cp earlier (rf cynarach).
GYNWYS, n contents (rf cynwys).
GYNTAF, a first (rf cyntaf).
GYSURUS, a comfortable (rf cysurus).
GYSYLLTIAD, nf connection (rf cysylltiad).
NGHYFEILLION, np friends (rf cyfeillion; s cyfaill).
NGWEDD, n appearance (rf gwedd).

HAFAL, a like, eqqual.
HANWYLIAID, np beloved ones (rf anwyliaid; s anwylyn).
HARDAL, n neighbourhood (rf
HEDD, n peace.
stacks ((s helm, tâs).
HELMAU (teisi, N. Wales), np
HENO, adv to-night.
HEWYLLYS, nm will, testament (rf ewyllys).
HING, n distress, anguish (rf ing).
HIR, a long.
HIRAETH, n yearning, longing.
HONGIAN, v dangling, hanging.
HOSAN, nf stocking.
HWYL, nf sail (HWYLIO, v sailing).
HWYLBREN, n mast.
HWYR, n evening.
HWYRACH, adv perhaps.
HUAWDLEDD, n eloquence.
HYSGWYDDAU, np shoulders (rf ysgwyddau; s ysgwydd).
IAITH, nf language, tongue.
LECH, nf flagstone, or slate (rf llech).
LETHR, nf slope, declivity (rf llethr).
LOGELL, nf pocket (rf llogell).
LUDDED, nf fatigue (rf lludded).
LUN, n portrait (rf llun).
LUS, np bilberries, whortleberries, also whinberries in some districts (rf llus; s llusen).
LYFNU, v to harrow (rf llyfnu).
LLAM, n leap.
LLANC, n youth, lad.
LLENYDDIAETH, n literature.
LLEWYGU, v faint.
LLU, n flood (in this case, p. 21, the sea, ocean).
LLITHRO, v to slip.
LLONG, nf ship.
LLONNI, to gladden.
LLUSERN, n lantern.
LLYFR, n book.
LLYGATDDU, a dark-eyed.
LLYGAID, np eyes (s llygad);
LLYGATLAS, blue eyes.
LLYTHYR-GLUDYDD, n postman.
MACHLUD HAUL, n sunset.
MADDEUANT, n forgiveness, pardon.
MANGRE, nf place.
MANNAU, np places (s man).
MEDDDIANNAU, np possessions (s meddiant).
MEGIR, v (are) reared (p. 46).
MENYW, nf female.
MHENDERFYNIAD, n decision, determination (rf penderfyniad).
MHRIOD, nmf husband or wife, as the case may be (rf priod).
MINIOG, a keen, sharp.
MODRWY, nf ring.
MODRWYOG, curly.
MORWYN, n maid.
MUD, a dumb.
MURIAU, np walls (s mur).
MWYNHAD, n enjoyment.
MYNNAIS, v I insisted (pt).
MYNWENT, nf churchyard.
NADOLIG, n Christmas.
NANTOER, prop.n Cold-stream, name of house.
NEGES, nf message, errand.
NEWYDD FYND HEIBIO, only just over (or passed).
NITHIO, v winnowing.
NIWL, n fog, mist.
NODEDIG, adv (in this case, p. 5), remarkably.
NOSWEITHIAU np nights (s noswaith).
NWYFUS, a lively, sprightly.

OCHENAID, nf groan, sigh.
ODDI ALLAN, prep outside, without.
OFFER-SAER, np carpenter's tools (s offeryn).
OGED, n harrow.
ORIADURON, пp watches (s oriawr).
ORIAWR, nf watch.
ORSAF, nf station (rf gorsaf).
PECHOD, n sin.
PEIRIANT, n machine (threshing machine).
PERT, a pretty.
PILYN, n garment.
PLADURIAU, np scythes (s pladur).
PLENTYN, n child.
PLWYF, n parish.
PORTHI, v to feed.
PRYSUR, ad diligently.
PHOBLOGAIDD, a popular (rf poblogaidd).
RAMANT, n romance (rf rhamant).
RAWIAU, np spades (rf rhawiau; s
RHACA, np harvest rakes (s rhac, see cribin).
RHAEADR nfm cataract, waterfall.
RHAFFAU, np ropes (s rhaff).
RHEITHOR, n rector.
RHIW, nfm hill, ascent.
RHODDION, np gifts (s rhodd).
RHOS, nf moor.
RHUAI, v roared (pt).
RHUDDAUR, a (in this case, p. 15) ruddy-gold.
RYFEDDOD, 7 Wonder (rf rhyfeddod).
SACHAID, nf sackful.
SEIBIANT, leisure.
SERTH, a steep.
SIMNE, na chimney.
SIOMEDIG, a disappointed
SIRIOL, adv (in this case), cheerfully).
SWYDDFA, nf office.
SWYNION, np charms (s swyn).
SYLWEDD, n substance.
SYLLODD, v gazed (pt).
SYNNU, V wondered (pt).
THALCEN, n forehead (rf talcen).
THLYSNI, n beauty (rf tlysni).
TAN, n fire.
TAS, nf stack.
TEGAN, n toy.
TEGELL, n kettle.
TERPYN, n end, close, boundary.
TEULU, n family.
TONNOG, a wavy.
TOSTURIWCH, v imper (you) pity.
TORRI (v) ERFIN (n) literally, cutting turnips; generally known as turnip-pulping.
TORRI (v) GWELLT (n) literally, cutting straw; generally known as chaff-cutting.
TRAETH, n shore.
TREULIASOM, V (we) spent (pt).
TRISTAU, v to sadden, to grieve.
TROCHI, v bathe, dip, immerse.
TROWR, n winder, twister.
TRWSIADUS, a well-dressed.
TYDDYN, n tenement, holding.
TYWYS, np ears (of corn), (s tywysen).
UFUDD a obedient.
UNDONOG, a monotonous.
UNIG, a alone, lonely.
UNLLIW, a of the same colour.
WADODD, v denied (rf gwadodd, pt).
WARIO, v to spend (rf gwario).
WAU, v knitting (rf gwau).
WEDDW, nf widow (rf gweddw).
WELY, ni bed (rf gwely).

WENITH, np wheat (rf gwenith; s gwenithen.
IWERYDD, n Atlantic.
WNIO, V sewing (rf gwniio).
WRTHWYNEBAI, v objected opposed, pt (rf gwrthwynebai).
WYLLT, a wild (rf gwyllt.
WYN EU BYD (YNI, blessed (rf gwyn).
YFORY, adv to-morrow.
YMA adv here.
YMESTYNNAI, v stretched (pt).
YMFFROSTIO, v to boast.
YMGEISYDD (n) SENEDDOL (a) Parliamentary Candidate.
YMLWYBRO, y wending his way.
YMSERCHAIS, v I doted (pt).
YSGLOD(ION), np chips (s ysglodyn).
YSGUBAU, np sheaves (s ysgub).
YSGUBOR, n barn.
YSTAFELL, n room.
YSTOL, n stool.
YSTOR, n abundance, stock.


***

GEIRFA (Vocabulary)

COMMMUNICATE, v gohebu (ysgrifennu).
CHILDREN, np plant (s child).
DEAR (p. 21), a annwyl.
DISCLOSE, v amlygu.
GIRLS, np merched (s girl).
IMPORTANCE,n pwysig, o bwys.
KINDLY, adv garediced.
LETTER, n llythyr.
ONCE, adv unwaith.
REACHES, v cyrhaedda.
SOMETHING, n rhywbeth.


Nodiadau

golygu
  1. Cribinau yn y Gogledd.
 

Bu farw awdur y gwaith hwn cyn 1 Ionawr, 1924, ac mae felly yn y parth cyhoeddus ledled y byd gan fod yr awdur wedi marw ers dros 100 mlynedd yn ol.