Tom Ellis Gwladgarwr a Gwleidydd/Fel Cristion

Ysgolor a Llenor Tom Ellis Gwladgarwr a Gwleidydd

gan O Llew Owain

Teyrnged Cenedl a Dylanwad Bywyd

PENNOD IV
FEL CRISTION

"Ni ddiwraidd pren gwyrennig,
Ni chrina, ni freua'i frig;—
Byw'n gymwys, heb hen gamau
A bair i hil gwr barhau."
—Wiliam Llyn.

"A good character is a coat of triple steel, giving security to the wearer, protection to the oppressed, and inspiring the oppressor with awe," meddai Colton un tro, ac y mae yn wirionedd gwerth meddwl am dano. Dywed Emerson mai y dyn a chymeriad da ganddo ydyw "Canolbwynt y dylanwadau uchaf i bawb nad ydynt ar yr un lefel." Yr oedd gan Tom Ellis fwy o feddwl o'i gymeriad nag o'i sedd yn Nhy'r Cyffredin, ac yng ngrym y cymeriad iach hwn y dyrchafwyd ef mor uchel. Yn ystod ei daith ar hyd y llwybr o'r bwthyn Cymreig i Dy'r Cyffredin at ymyl Prif Weinidog Prydain Fawr, ni anghofìodd grefydd ei dadau, na chyrddau crefyddol Cefn Ddwysarn. Gallai barchu y cyfarfod gweddi gystal os nad yn well na Thy'r Arglwyddi. Gwyn a sanctaidd a fu ei fywyd o'i gryd i'w fedd, a gellid dweyd am dano fel y dywedodd Daniel de Foe am Dr. Samuel Annesley:—

"His pious course with childhood he
began,
And was his Maker's sooner than his
own."

Ymagorodd ym moreu gwyn ei fywyd yn flodyn prydferth a phersawrus. Un o'i nodweddion amlycaf a phennaf oedd purdeb cymeriad. Ni allai fod yn fodlon os na fyddai bur i bobpeth—pur i'w grefydd, pur i'w wlad, pur i draddodiadau ei hynafiaid, a phur i'r gwirionedd ac i Ymneilltuaeth. Oherwydd fod ei galon mor bur, a'i ysbryd mor grefyddol, ymddygai fel boneddwr ymhob amgylchiad. Parchai y tlawd fel y cyfoethog, y gweithiwr yn ogystal a'r pendefig. Dyna hanes y cymeriad sydd yn sugno maeth a nerth i'w wreiddiau o'r Anweledig, ymhob oes. Nod uchaf ei fywyd oedd hunanymwadu llawer, a gwneud daioni. Anodd ydyw dweyd pa un ai am yr hyn a wnaeth ynte am yr hyn ydoedd y carodd Cymru ef. Rhaid i'w wlad gydnabod ei fod yn ffrynd a chymwynasydd i'r werin, yn gyfaill calon i addysg a llenyddiaeth, a thrwy'r naill a'r llall wedi ennill edmygwyr ymhlith pob sect a phlaid; eto, braidd nad ydym yn gogwyddo i ddweyd mai am yr hyn ydoedd y carodd Cymru— Gwlad y Diwygiadau—ef. Yr oedd yn Dywysog Cristionogol! Yr oedd yn Gristion cyn bod yn ysgolor a gwleidydd, a hynny a roddodd orsedd iddo yng nghalon ei wlad.

Ffynnon ddyfnaf ei enaid oedd ei grefyddolder, ac nid ychydig ydyw rhif y rhai a'i hedmygodd am hynny. Y mae'n wir ei fod yn Fethodist o'r Methodistiaid, ond yr oedd yn fwy o Gristion. Cafodd crefydd fwy o groeso yn ei galon nag a gafodd enwadaeth. Yr oedd yn ormod o Gristion i farw—y mae ei fywyd gwyn yn llefaru o hyd. Yr oedd yn ei gymeriad lawer o brydferthion sant dyrchafedig ac urddasol. "Baich ei anerchiad y tro diweddaf y clywais i ef yn siarad yn gyhoeddus," meddai Mr. Thomas Jones, Bryn Melyn, cydddiacon ag ef, "oedd cael Cymru yn lan, Cymru yn bur, ac O! fel y pwysai am gael ieuenctid yn bur a glân o ran eu moesau.,"

Credai Tom Ellis fod gan grefydd le yn ffurfiad cymeriad a bywyd cenedlaethol. Dyn ieuanc oedd o argyhoeddiadau crefyddol dyfnion. Dywedodd Dr. Hamilton,—" Fod pawb sydd yn gydnabyddus â hanes y byd, neu y rhai sydd wedi darllen hanes dynion enwog yn barod i addef mai yr aelwyd sydd a'i dylanwad fwyaf yn ffurfio y cymeriad." Ac y mae hyn yn wirionedd i raddau pell iawn yn hanes Tom Ellis, gan ei fod wedi ei fagu ar aelwyd grefyddol yn swn adnodau a phenhillion. Temtir ni i ddifynnu ychydig linellau o waith Dyfnallt iddo ar y pen hwn gan eu bod mor brydferth:—

"Ynghanol swyn y symledd hyn
Ymwêai beunydd am ei ysbryd,
Agorai llyfr ei fywyd gwyn
I gadw argraff ei gylchynfyd.

Fel doi y newydd wawr bob dydd,
Doi gwawrddydd newydd dros ei fywyd,
Ac addewidion Cymru Fydd
Ddechreuant ganu yn ei ysbryd."

Cychwynnodd ei yrfa yn y Gobeithlu, y Seiat, a'r Ysgol Sul. Yr oedd wedi ei "hyfforddi ymhen ei ffordd," ac ni ymadawodd â'i grefydd. Gwyddai yr Ysgrythyr er yn fachgen, ac ni ymadawodd â llwybrau y saint. Ni ellir cael dim cryfach am gymeriad dyn na geiriau rhai fu'n byw agosaf ato, a dyma eiriau un oedd yn ei adnabod yn dda, sef Mr Robert Evans, Crynierth:—

"Cawsom ei weled ddegau, ie, ugeiniau o weithiau yn cymeryd rhan mewn cyfarfod gweddi; a gweddiwr heb ei fath ydoedd. Yr oeddych yn teimlo fod y weddi yn codi o rywle, neu oddiar rhywbeth oedd yn sylfaen gadarn i'w holl ddymuniadau. Yr oedd yn weddiwr teimladwy—byddai y dagrau yn llifo i lawr ei ruddiau bob amser braidd. Yr oedd yn gallu tywallt ei galon gerbron Duw mewn modd anghyffredin. Yr oedd yn meddu ar ddynoliaeth dda, ac yr oedd yna le noble i'r ysbryd weithio ar honno, ac fe ddarfu."

Rhaid oedd cael Cristion gweddol gywir i wneud y gwaith a gyflawnodd ef— gwaith oedd yn gofyn am hunanymwadiad. Gwaith nad allai neb ond un a chrefydd wedi gwreiddio yn ei enaid ei gyflawni. Yr oedd yn Gristion mewn bywyd, gair, a gweithred—ymarweddiad pur a bywyd cyflawn. Gan y credai mai Crist oedd i gael ei wasanaeth ac nid enwad, ni chlodd ddrws ei galon rhag enwadau ereill. Gwr oedd Tom Ellis a gwawr nefol ar bopeth a gyflawnai.

Hoffai fod yn gymwynasydd i bawb—nid i'w gyfeillion agosaf yn unig. Y mae'n wir yr hoffai wneud cymwynasau i'w gyfeillion, ond yr oedd ynddo egwyddor ddyfnach ac eangach na hynny. Daeth yn hoff gan bawb ar bwys y nodwedd ddymunol hon. Ni allai calon mor lân a natur mor siriol ag oedd ganddo ef omedd caredigrwydd.

Yn ddios, bydd ei lwybrau gwynion ef yn gyfryngau i buro a dyrchafu delfrydau Cymru Fydd, a chodi safon foesol y cenedlaethau i ddyfod. Yr oedd cerdd ei fywyd yn soniarus a pheraidd: yfodd o'r ffynhonnau Dwyfol, a drachtiodd o awelon mynydd Duw. Ymbwysodd ar y gwirioneddau Dwyfol a throdd y rhai hynny yn gadernid yn ei fywyd, a cherddodd gyda diogelwch ac urddas i bobman. Dilynnodd gyngor Morgan Llwyd o Wynedd:—

"Goreu i blentyn fod gyda'i rieni,
Goreu i ddyn fod gyda'i Dduw,"


yn nau gyfnod ei fywyd. Arhosodd gyda'i rieni yn ei gyfnod cyntaf, a phwysodd ar ei Dduw yn ei gyfnod olaf.

Yr oedd gras wedi ireiddio cymaint ar Tom Ellis, yn ychwanegol at ei dynerwch naturiol, fel nad allai ddweyd pethau bryntion, ac yr oedd ei fywyd yn gyfryw ag a roddai syniad uwch am fywyd i rai oedd yn byw o'i amgylch. Cyfunodd y bywyd crefyddol a gwleidyddol gyda'u gilydd, ac ni thynnodd anrhydedd y naill a'r llall oddiarnynt wrth wneud hynny. Ni allai ond dyn ysbrydol—dyn Duw yn unig—roddi argraiff mor ddofn ar ei gydnabod ac ar ei genedl açr a wnaeth ein gwrthrych. Nid gogoniant yn y pellder oedd gogoniant ei fywyd ef, ond gogoniant wrth ei ymyl hefyd. Yr oedd ei fywyd yn ddisglair nid yn ei farw yn unig, ond yn ei fyw hefyd.

Meddyliodd unwaith am fyned i'r weinidogaeth, ac nid yw hyn yn beth i synnu ato; bu yn pregethu unwaith o leiaf, ar nos Sul, yn Finchley. Ei destyn yr adeg hon oedd: "Ceisiwch yn gyntaf deyrnas Dduw," a thraethodd yn effeithiol, gan fod y gwirioneddau a gyflwynai yn argyhoeddiad iddo. Safai yn gadarn dros wirionedd, cyfiawnder, ac uniondeb, ond nid oedd yn fyr o gariad wrth wneud hyn: llifai ei rinweddau yn aberoedd iach oddiwrtho. Yr oedd gymaint o swyn yn ei gymeriad fel y dyrchafai pob symudiad cymdeithasol yng ngolwg y wlad os byddai yn gysylltiedig ag ef. Tystiodd un gwr ddydd ei farwolaeth, na chlywodd ef air erioed yn dod dros wefusau Tom Ellis, yn ei gylchoedd cymdeithasol, nad oedd yn deilwng i'w adrodd yn y Set Fawr. Tystiolaeth ardderchog yw hon am gryfder ei gymeriad, onide?

Er ei fod wedi marw'n ieuanc bydd byw yn hir ar bwys ei fywyd pur, a'i gymeriad dilychwin. Er ei fod wedi ei roddi i orffwys mewn bedd y mae ei ddylanwad yn aros. Esgynnodd i ben pinacl uchel gyda'i gymeriad gwyn, ac nid oes fesur ar eangder perarogl hyfryd ei fywyd Yr oedd yn ormod o foneddwr Cristionogol i droi ei gefn ar yr eglwys fechan y magwyd ef ynddi, ac ni lwyddodd urddasolrwydd y cylch y troai ynddo yn ei gysylltiadau gwleidyddol i'w suro at y fangre ddistadl. Edrychai dynion mwyaf defosiynol y wlad i fyny ato fel crefyddwr, ac yr oedd yn ddigon dewr i benlinio ar lawr Ty'r Cyffredin. Cariai ei grefydd gydag ef i bobman: cadwodd ei grefydd heb ei llychwino, ac ni feiriolodd ei chadernid yng ngwyddfod pendefigion.

Yr oedd yn ddigon o Gristion i roddi ei ysgwydd o dan bob symudiad oedd a'i amcan i ddyrchafu dynoliaeth syrthiedig. Cefleidiodd ddirwest pan yn ieuanc. Tua'r flwyddyn 1863, sefydlwyd Cymdeithas Cynhildeb a Sobrwydd yn Llandderfel, ac yr oedd ef yn un o'r aelodau cyntaf. Yn ei farwolaeth collodd byddin dirwest un o'i thywysogion pennaf. Carai ei gyd-ddyn ymhob amgylchiad, a hoffai ei godi i fyny. Dywedodd Proffeswr Angus fod y dyngarwch Cristionogol hwn ynddo yn amlwg iawn pan oedd yn efrydydd yn Aberystwyth. Profodd iddynt yno mai bywyd hunanymwadol y Cristion oedd ei un ef, ac mai gŵr o wasanaethu ei gyd-ddyn a'i wlad oedd y Cristion.

Ni fyddai yn unman yn hapusach na chyda'r saint, yn neilltuol hen seintiau gwledig a chywir capel Cefn Ddwysarn.

Ar fur ysgol yn yr Almaen y mae'r geiriau a ganlyn yn gerfiedig, ac oddiwrth ei fuchedd lan a'i fywyd dilychwin gallem feddwl eu bod wedi eu cerfio ar galon ein gwrthrych: -

"Pan gollir cyfoeth; 'does dim yngholl, Pan gollir iechyd, mae rhywbeth yngholl, Pan gollir cymeriad, mae'r oll yngholl."

Cymeriad ac nid medr all roddi urddas ar wlad a’i dyrchafu. Unwaith y cyll gwerinwyr Cymru eu Crist o'u bywyd gwlad ar y goriwaered fydd eu tiriogaeth. Ni ellir dyrchafu gwlad os bydd ei phlant yn sarnu Saboth Duw; rhodded y gweithiwr gonest ei le i Dduw, fe rydd Duw ei le iddo yntau. Gŵr fel Tom Ellis, ac ysbryd Crist lond ei galon yn parchu ei Saboth a'i ddeddfau, a all ddyrchafu gwerin onest a llafurus Cymru, ac nid arweinydd di-Dduw a di-barch o'i ddeddfau sanctaidd. Duw yng nghyntaf a dyn wedyn; mynn rhai y dyddiau hyn roddi dyn yng nghyntaf a Duw yn ail. Nid diwrnod i ddadleu hawliau dyn ydyw y Saboth, ond diwrnod i ddadleu hawliau Duw. Dyna gryfder Tom Ellis, a chymeriadau o'r fath yn unig a all ennill i werin Cymru ei hiawnderau.