Tom Ellis Gwladgarwr a Gwleidydd/Gwladgarwr a Gwleidydd
← Trem ar ei Fywyd | Tom Ellis Gwladgarwr a Gwleidydd gan O Llew Owain |
Ysgolor a Llenor → |
PENNOD II
GWLADGARWR A GWLEIDYDD
"Pan fydd rhyferthwy'r gelyn
Yn bygwth heddwch gwlad,
Fe saif gwladgarwyr cynnes
Yn ddewr yn erbyn brad,"
Meddai Dyfnallt, ac un o'r "gwladgarwyr cynnes" hyn oedd gwrthrych ein
hysgrif. Yn nyfnder ei galon yr oedd
fflam wladgarol lawn o ddwyfoldeb. Pan
gododd ei lais edrychodd Cymru tuag ato,
gan fod y llais hwn yn arwydd iddynt fod
eu gwawr ar dorri. Y mae dwy linell o
eiddo Hawen yn esbonio i ni pa fath wladgarwr oedd Tom Ellis : —
"Un garai Gymru fel ei fam,
Ein hiaith a'i defion fel ei dad."
Tân oedd ei wladgarwch ef i buro, nid i ddifa—tân i wella ei wlad, nid i'w gwneud yn anghyfanedd. Ni ddiystyrodd ef ei genedl ei hun er mwyn ennill parch cenhedloedd ereill; yn hytrach, enillodd ef barch cenhedloedd ereill drwy gadw'n bur i'w genedl ei hun. Bu'n ffyddlon i'w wlad; ymlynodd wrth bobpeth da a berthynai iddi. Nid cyflawni daioni a gorchestion dros ei wlad yr oedd ef er mwyn cael ei weled a'i glodfori, ond i hyrwyddo a dyrchafu ei wlad. Gwelodd ei gyfle i ddeffro Cymru, a chymerodd afael ynddo. Nid allasai neb ond un a garai ei wlad yn angerddol gyflawni y gwaith a wnaeth ef dros Gymru yn Nhy'r Cyffredin. Nid oedd poblogrwydd personol, cysur cymdeithasol, nag hyd yn oed ei iechyd, ond pethau eilradd yn ei olwg. Yr oedd ef yn teimlo ei fod yn rhan o Gymru mor wirioneddol ag ydyw ei bryniau a'i hafonydd. Cynheuai y fflam wladgarol yn ei fynwes yr un mor wresog pan yn Chwip y Rhyddfrydwyr yn Senedd-dy Prydain Fawr, a phan rodiai ymysg gwerinwyr cyffredin bro ei enedigaeth. Bu fyw i anghenion Cymru —ei thir a'i pobl.
Un o blant y Deffroad Cenhedlaethol oedd, ac yr oedd digon o wladgarwch yn ei galon i fyned yn aberth dros ei wlad; nid ofnai un amser ddweyd llinell Ceiriog,
"Mab y mynydd ydwyf finnau."
Byddai yr un mor hapus yn nhy gwerinwyr cyffredin ardal ei enedigaeth a phan ynghanol moethau palas y pendefig. Cynrychiolai ddyheadau llawnaf ei genedl, ac yr oedd ei wladgarwch gyfled a Chymru ei hunan. Ymladdodd dros ei wlad pan oedd ei iechyd yn fregus, a chariodd ei beichiau nes y gwargrymodd o danynt. Gweithiodd drosti pryd y dylasai orffwyso ynddi. Mynnodd i lais Cymru gael ei wrando yn Senedd Prydain Fawr a dihysbyddai ei nerth wrth wneud hynny. Tra y gwargrymai ef o dan y baich yr oedd ei wlad yn cael ei dyrchafu. Enillodd ef galon Cymru a chyfieithodd hi i estroniaid ar lawr Ty'r Cyffredin. Yr oedd ei symudiadau yn llawn urddas a'i galon yn llawn anrhydedd. Ymdrechodd dros werin Cymru a thros ei llenyddiaeth; oherwydd iddo adnabod ei wlad carodd hi. Gwell oedd ganddo wrando ar riddfan gwerin orthrymedig na bod yn swn aur a deimwnt y pendefig moethus.
Danghosodd i estroniaid ac i Senedd Prydain Fawr mai "Cymru Wen " oedd gwlad ei enedigaeth ac nid "Cymru bwdr;" mynnodd ddangos mai "Gwlad y Diwygiadau " oedd ac nid " Gwlad y Dirywiadau." Ni werthodd ei wlad er mwyn ennill poblogrwydd—aberthodd ei boblogrwydd er mwyn ennill ei wlad. Yr oedd yn ddigon o foneddwr i gydnabod gwên a chroeso pendefigion ac urddasolion, ond yr oedd yn ormod o wladgarwr i anghofio gofynion gwerinwyr gwlad ei enedigaeth.
Nid rhyfedd hyn ychwaith! Paham? Magwyd ef ynghanol cyfaredd a swyn ei wlad ynghanol golygfeydd Cymreig rhamantus ynghanol arddunedd mirain Meirion dlos a chyfoethog. Bu yn cyniweirio drwy ganol cymeriadau Cymreig pur a gwreiddiol ym moreuddydd bywyd; pigodd eu rhinweddau i fyny a gwisgodd hwy yn addurniadau yn ei fywyd. Mab gwerinwr oedd, a bu hynny yn fantais iddo; amhosibl oedd i'r pendefig Cymreig fynegi cri enaid gwerin orthrymedig oherwydd fod y llais yn ddieithr iddo. Aeth Tom Ellis i'r Senedd yn Gymro, gweithiodd yno fel Cymro; aeth oddiyno yn Gymro, a bu farw fel Cymro.
'Yr oedd ei argyhoeddiad o angen ei wlad wedi torri yn dân gwirioneddol yn ei galon; Gwyddai fod ganddo neges a mynnodd gael ei throsglwyddo. Trosglwyddodd wreichion ei angerddoldeb i ereill nes y maent erbyn heddyw wedi datblygu yn goelcerth a'r tân yn ymledu. Yr oedd yn awyddus am godi moes ac addysg ei wlad yn ogyfuwch a'r mynyddoedd, a throdd pob ffrwd o ddylanwad posibl i'r amcan hwnnw. Yr oedd wedi sugno yn helaeth o ysbryd Cymru Fu, a chychwynodd gyfnod newydd yn 'hanes gwleidyddiaeth ei wlad. Nid hanner Cymro oedd Tom Ellis; na! Cymro twymgalon i'r gwraidd. Yr oedd yr hyn a wnaeth dros ei wlad—ei ymroddiad llwyr, ei wasanaeth eang, a'i aberth dwfn—mor fawr, fel nad â yn anghof am oesau. Bu adeg pryd yr apelid oddiar lwyfannau Cymru— cymdeithasol, eisteddfodol, a gwleidyddol—ar i'r ieuenctid yfed tipyn o ysbryd Gruffydd ab Cynan, Owain Glyndwr, a Llewelyn, ond heddyw anfynych yr enwir y rhai hyn heb enwi TOM ELLIS. Ie, gwladgarwch digon pur oedd ei un ef i'w osod yn esiampl.
"I am often tired in, but never of, my work," meddai Whitfield un adeg, a gallasai'r uchod fod yn brofiad i Tom Ellis fel gwleidydd. Y mae'r nefoedd yn defnyddio personau i fod yn gyfryngau i gychwyn cyfnod newydd ym mywyd cenedl—cyfnod newydd mewn crefydd, diwinyddiaeth, a gwleidyddiaeth, &c. Unwaith mewn oes neu ganrif yr anrhegir cenedl â diwygiwr, ac un o'r cyfryw oedd Tom Ellis. Bu yn gyfrwng fel gwleidydd i drosglwyddo cri ddolefus gwerin orthrymedig Cymru yn Senedd Prydain Fawr; trwyddo ef y daeth llawer i ddeall fod gan y genedl fechan hon galon wladgarol a chywir, a bod ganddi genadwri at y byd.
Dydd bythgofiadwy oedd y dydd hwnnw yr etholwyd ef i gynrychioli ei Sir enedigol yn Senedd-dy Prydain Fawr. Byth er hynny y mae gwleidyddiaeth ein cenedl wedi codi o ris i ris a'r cadwyni caethiwus yn ymollwng o un i un. Bu Tom Ellis yn ddigon dewr i ddod allan yn erbyn un o urddasolion y Sir, a golygai hynny lawer. Gywir fod gan werin a gweithwyr gwlad hawl i roddi eu pleidlais i'r neb a fynnont, eto, nid oedd gwerin Meirion wedi agor eu llygaid i'r gwirionedd fod yn bosibl i neb ond un o fawrion y Sir eu cynrychioli yn y Senedd. Yr oedd Tom Ellis yn ddigon o wleidydd i hynny ac agorodd lygaid Cymru ar y mater. Danghosodd ffordd newydd i'r Senedd—ffordd oedd yn guddiedig cyn hyn gan ddrain a mieri gwaseiddiwch ac anwybodaeth. Gwedi iddo ef dorri drwy y llen gaddugol a cherdded yn ddewr a di-sigl ar hyd y ffordd newydd, dilynwyd ef gan ereill, megis Herbert Lewis, Ellis Jones Griffith, Lloyd George, William Jones, &c.
Achosodd ei fuddugoliaeth gyntaf syndod a llawenydd! Yr oedd Meirion fel pe wedi ei syfrdanu—prin y gallai goelio! Nid oedd ein gwrthrych ond saith ar hugain oed pan anturiodd i faes y frwydr i groesi cledd â'i elyn ac i ennill buddugoliaeth! "Yr oedd yn fuddugoliaeth hynod ar lawer cyfrif, meddai Dr. Charles Edwards, "ac nid yr hynodrwydd lleiaf ydyw mai efe ydyw y cyntaf erioed i gael ei ethol i'r swydd uchel hon o blith y tenantiaid." Llwyddodd i gael deuddeg cant a thri ugain a saith o fwyafrif ar ei wrthwynebydd!
Cynhwysai ei raglen wleidyddol gyntaf y testynau a ganlyn yn y drefn a ddilyn :—(1) "Ymreolaeth i'r Iwerddon;" (2) "Datgysylltiad i Gymru;" (3) "Addysg;" (4) "Gwelliantau yn Neddfau y Tir;" (5) "Ymreolaeth i Gymru." Ymhen ychydig amser newidiodd ei raglen, a rhoddodd "Bwnc y Tir" ym mlaenaf ar ei raglen. Ymdrechodd ddwyn cwestiynau pwysig i sylw y Senedd, a chafodd y cwestiynau Cymreig sylw mawr ganddo. Ymladdodd y flwyddyn gyntaf dros gael Adroddiad Addysg Cymru ar wahan. Rhoddodd le amlwg i Addysg yn ei wleidyddiaeth. Cafodd Addysg gymaint o le ganddo ag unrhyw gangen arall, a bu yn aiddgar a di-ildio yn ceisio perffeithio cyfundrefn addysg Cymru. Yn 1888 yr oedd ar y blaen gyda Mesur y Degwm, a hawdd canfod ei fod yn ddraen yn ystlys Toriaeth oherwydd ei ddewrder yn ymladd dros y cwestiynau hyn. Ceisiodd y Toriaid ei ddiorseddu ddwywaith, ond methasant. Yr oedd ei galon fawrfrydig yn llawn o'r delfrydau mwyaf dyrchafol dros ei wlad. Nid fel Cymro unigol yr aeth i'r Senedd, ond fel calon Cymru. Aelod dros Sir Feirionnydd oedd, ond cynrychiolai Gymru. Er mai ber fu ei oes, torrodd lwybr newydd i ieuenctid Cymru : bu ei amcanion gwleidyddol yn gywir, a gadawodd gynysgaeth gyfoethog ar ei ol. Yr oedd yn wleidydd ddigon craff i weled beth oedd yn rhwystr i genedl fach ddatblygu, a gwelodd hefyd beth oedd ei phosibilrwydd ond symud y rhwystrau.
Fel gwleidydd cododd ei lais yn erbyn pob camwri, ac nid ofnodd yr un pendefig nag uchelwr wrth wneud hynny. Yr oedd ei gymeriad yn ei gymell i sefyll dros wirionedd a chyfiawnder, ac i beidio cilio'n ol mewn brwydrau. Llwyddodd oherwydd ei ynni, ei fywiogrwydd, ei benderfyniad, a'i ddiwylliant, i ennill sylw y seneddwyr blaenaf. Gwelodd Gladstone fod ynddo ddefnyddiau gwleidydd da; rhoddodd swydd iddo ac ni chafodd le i edifarhau. Cyflawnodd waith aruthrol er byrred a fu ei daith wleidyddol, a bu o wasanaeth amhrisiadwy i'r wladwriaeth. Gwir a ddywedodd Mr. Herbert Lewis ddydd ei angladd,—"Y byddai Ty'r Cyffredin yn wacach ar ol marw Tom Ellis. Meddai ar feiddgarwch y gwleidydd pur, ac ni throai yn ol ar ol cychwyn; astudiodd ei achosion a chredodd hwy, a deallodd beth oedd dyfnder anghenion ei wlad. Dringodd yn uchel a chadwodd ei le ar ol ei ennill. Rhoddodd esboniad newydd i werinwyr Cymru beth, a phwy oedd y gwleidydd i fod. Yr oedd ei gamre mor ofalus, a'i symudiadau mor sicr fel y trodd i fod yn gymwynaswr gwleidyddol gwirioneddol. Ymddyrchafodd mor uchel fel y dywedodd Syr John Brunner—" Ni allaf byth dalu fy nyled i Mr. Tom Ellis." Fel gwleidydd yr oedd yn obeithiol—yn edrych ar yr ochr oleu a chredu fod dyfodol i'w wlad. Cadwodd ei boblogrwydd fel gwleidydd, ond nid ceisio ei boblogrwydd a wnaeth, ond ei ennill. Daeth yn dywysog yng ngolwg ei genedl yn ddiarwybod iddo'i hun. Aeth ef i'r maes gwleidyddol i weithio nid i segura; nid i sefyll dros egwyddorion ond i frwydro.
Llwyddodd i gael Adroddiad Addysg arbennig i Gymru; ni fu pall ar ei ymdrechion gyda Mesurau Addysg Ganolraddol a'r Rhan-Diroedd, a mynnodd gael Dirprwyaeth i edrych i mewn i Gwestiwn y Tir yng Nghymru. Cerfiodd Tom Ellis ei enw yng nghalon ei wlad fel gwleidydd; oherwydd ei fedr dihafal, ei lwyddiant digyffelyb, a'i ddewrder di-ildio yr oedd llawer yn dychmygu ei fod yn cerdded yn unionsyth i fod yn Brif Weinidog.