Traethawd ar Enwogion Swydd Feirion/Bronwen
← Arwystli (Huw) | Traethawd ar Enwogion Swydd Feirion gan Edward Davies (Iolo Meirion) |
Cain (Rhys) → |
BRONWEN ydoedd ferch Llyr, a chwaer i Bran.[1] Y mae Mabinogi Bran Fendigaid yn egluro i ni beth a ddeallir wrth yr ymadrodd hwnw. Yr oedd Bronwen yn aneddu yn Harddlech, Meirion, yr hwn le a elwid gynt oddiwrthi hi, Tŵr Bronwen; a cheisiwyd a chafwyd hi yn wraig gan Metholwch, Brenin Iwerddon. Gan iddi gael wedi hyn sarhad ganddo, hi a adawodd у wlad, i ddychwelyd adref; ond wrth ddyfod i dir yn Nghymru, dywedir iddi edrych yn ol ar Iwerddon, gan feddwl am y sarhad a gafodd, a thori ei chalon. Bran, i ddial sarhad ei chwaer, a ym osododd ar Iwerddon, ac a ddistrywiodd agos holl drigolion y wlad. Dywed y chwedl hefyd ddarfod i fedd pedwar-ongl gael ei wneyd i Bronwen ar lanau yr afon Alaw, ac iddi gael ei chladdu yno. Gwnaed darganfyddiad neillduol o bwysig yn y flwyddyn 1813, sydd yn rhoddi coel fawr ar yr ysgrifeniadau Cymreig, fel mai yn yr amgylchiad hwn y cafwyd fod y chwedl yn sylfaen edig ar ffaith hanesiol. Yr oedd amaethwr yn byw ar lanau yr afon Alaw, yn Môn, a chanddo eisiau rhyw gerig, ac aeth i'r garnedd yn ymyl yr afon, ac wedi symud amryw daeth at gist o lechi geirwon a chauad drosti. Wedi symud y cauad, efe a ganfu ysten o ddaear neu glai haner-crasedig, oddeutu troedfedd o
uchder, wedi ei chyfleu ar ei gwyneb, yn llawn o ludw ac esgyrn haner- faluriedig
Gellir chwanegu amgylchiad arall, fod y lle hwnw bob amser yn cael ei alw " Ynys Bronwen," yr hyn sydd yn gadarnhad nodedig o ddidwylledd y darganfyddiad. Y mae yr amgylchiadau ynghyd yn tueddu i osod y pwnc tuhwnt i amheuaeth mai gweddillion Bronwen oeddynt mewn gwirionedd. —Cambro-Briton, II. 71; Myv. Arch. II.; Williams' Em. Welsh.
Nodiadau
golygu- ↑ Buasai yn dda genym allu rhestru Bran ab Llyr Llediaith, neu Bran Fendigaid, ymhlith enwogion Swydd Feirion, sef brawd ' Bronwen Harddlech, yr hwn a ddygodd yr efengyl gyntaf i Brydain; ond y mae yr anturiaeth yn rhy bwysig, er fod y Mabinogion yn dywedyd y "cadwai Bran ab Llyr ei lys yn Harddlech;"oblegidfe ddywed y Parch. O. Jones yn ei " Hanes y Cymry," tudalen 70: — " Yr ydym yn cael lle i feddwl mai penadur ar yr Essyllwyr, y rhai a gyfaneddent Ddeheubarth Cymru, ydoedd Bran, pan y'i cymerwyd ef ynghyd a'i fab Caradog yn garcharorion, ac nid yw yn annhebyg iddo,ar ei ddychweliad o Rufain, fyned i'r un wlad i gartrefu, ymysg ei bobl a'i geraint; ac felly, gyda'r Essyllwyr y gellid meddwl i'r efengyl gael ei phregethu gyntaf o fewn yr ynys hon, ac oddiwrthynt ymdaenai y gwirionedd yn lled fuan at y llwythau cyf nesol, yn enwedig y Gordotigwys, y rhai oeddynt mewn cyfathrach o'r agosaf â'r Essyllwyr, os nid yn ddeiliaid yr un penadur tua'r pryd dan sylw."