Traethawd ar Enwogion Swydd Feirion/Cai Hir
← Cadwaladr, Dafydd | Traethawd ar Enwogion Swydd Feirion gan Edward Davies (Iolo Meirion) |
Cynyr Farfawg → |
CAI HIR, o dir Pen Careg, ydoedd fab i Cynyr Farfawg, ac un o bedwar Marchog ar hugain llys Arthur Frenin, ymhlith pa rai y dosberthir ef, gyda Meinw ab Teirgwaedd, a Thrystan ab Tallwch yn dri marchawg lledrithiawg y llys. Am ei gysylltiad teuluaidd i'r brenin ceir fod gwahanol awduron yn amrywio yn eu barn. Spencer, y bardd Seisnig, a ddywed ei fod yn dadmaeth i Arthur, tra y tystiai yr hybarch hynafiaethydd hwnw, Robert Fychan, Ysw,, o'r Hengwrt, mai brawd y brenin a feithrinwyd ganddo; drwy gamddeall neu drawsffurfio yr hyd, feallai y casglwyd gan rai haneswyr mwy diweddar, ei fod yn nai i'r brenin. Ond gan nad pa beth am hyny, ymddengys ei fod, i raddau helaeth, yn feddianol ar nodweddion milwraidd yr anfarwol Arthur, oherwydd, yn Mabinogi Iarlles y Ffynon, ceir cofnodiad anrhydeddus o'i enw a'i orchestion. Oddiwrtho ef, ac nid fel y tybiai Camden, oddiwrth yr un Rhufeinaidd o'r enw Caius, y galwyd yr hen balas urddasol yn Mhenllyn Meirionydd, yn Caer Gai. Eto camsynied ydyw priodoli adeiladaeth y lle iddo ef, oblegyd tebygol yw fod ei dad yn trigianu yno o'i flaen ef; gan fod yr hen feirdd yn achlysurol yn cyfeirio ato dan yr enw Cau Gynyr. Dywedir fod Cai Hir yn brif gogydd llys Arthur. Nid oes dim llai na chwech o gyfeiriadau ato yn y Trioedd. Yr oedd yn blodeuo tua'r chweched ganrif.—(Myr. Arch.; Guest's Mabinogion.)