Traethawd ar Enwogion Swydd Feirion/Charles, Parch. Thomas, G. C.

Cynyr Farfawg Traethawd ar Enwogion Swydd Feirion

gan Edward Davies (Iolo Meirion)

Davies, Parch. Griffith Owen

CHARLES, Parch. THOMAS, G. C., Bala. Er nad oedd Mr. Charles yn enedigol o Swydd Feirion, eto yr ydym yn ystyried fod y fath gysylltiad rhyngddynt, fel nad oes hawl gan neb i'n cyhuddo o ieuo yn anghydmarus, oblegyd nid oedd, ac nid yw, yn adnabyddus i neb, ond fel Charles o'r Bala; ac nis gellir meddwl am y Bala heb feddwl am Mr. Charles; na chwaith feddwl am Mr. Charles, heb hefyd feddwl am y Bala ar yr un pryd. Y mae enw Mr. Charles a'r Bala yn anwahanol gysylltiedig tra bydd dwfr yn rhedeg. Yr ydym yn credu nad yw coffadwriaeth un o Enwog— ion Swydd Feirion mor fendigedig yn mynwesau y miloedd Cymry ag ydyw coffadwriaeth Charles o'r Bala. Gallai rhyw un galluog ysgrifenu cyfrolau ar nodweddion, rhinweddau, llafur, a dylanwad, &c., Mr. Charles. Y mae ei ddylanwad i'w weled, nid yn unig ar Gymru, ond ar y byd gwareiddiedig! Felly mae gwneyd rhith o gyfiawnder ag ef, ie, & lliaws eraill sydd yn llawer llai teilwng nag ef, mewn traethawd ar ffurf yr eiddom ni, yn anmhosibilrwydd hollol. Yr oedd Mr. Charles (fel byn y byddwn yn arferol o'i alw) yn enwog ymhlith yr enwogion, ac felly nid yn unig ymblitb enwogion, Swydd Feirion, ond felly ymhlith enwogion Cymru, ie, yimhlith enwogion y byd hefyd! Y mae yn dda genym allu dywedyd ddarfod i ni gael codiad mawr i'n meddwl pan ymhlith ein gwrth—droedwyr yr ochr arall i'r ddaear flynyddau yn ol, trwy i ni ddyfod i afael a chyfrol o waith Dr. Chalmers, a chanfod fod y dyn mawr hwnw yn talu gwarogaeth fawr i goffadwriaeth y Parch. Thomas Charles o'r Bala. A dywed awdwr arall yn y Traethodydd, "Thomas Charles o'r Bala ydoedd ddyn a fuasai yn enwog ymysg y genedl fwyaf cyfoethog o enwogion. Pe na buasai wedi gwneyd dim ond bod yn un o'r offerynau i sefydlu y Fibl Gymdeithas, fe sicrhasai hyny anfarwoldeb i'w enw; ond ar wahan i hyn, mae ei lafur a'i wasanaeth i'w genedl mewn amrywiol ffyrdd yn teilyngu iddo enwogrwydd diddarfod."

Mr. Charles oedd fab i amaethwr cyfrifol—Mr. Rice Charles, Pantdwfn, plwyf Llanfihangel Abercywyn, ger tref Sant Claer, yn mharth isaf Swydd Gaerfyrddin; ganwyd ef yn Mhantdwfn Hydref 14, 1755. Cafodd elfenau ei ddysgeidiaeth a'i egwyddorion crefyddol yn Llanddowror, ac yn Athrofa yr Ymneillduwyr yn Nghaerfyrddin. Yn 1775, acth i Rydychain, lle y graddiwyd ef yn G. C. Yn 1778, urddwyd ef yn ddiacon. Y weinidogaeth gyntaf a gafodd yn yr Eglwys Sefydledig, ydoedd curadiaeth yn Ngwlad yr Haf, yna Shawbury, yn Swydd Amwythig, ac yn ddiweddaf, Llan y Mawddwy, yn Swydd Feirionydd, Yr oedd mewn undeb a'r Methodistiaid Calfinaidd cyn myned i'r weinidogaeth i'r Eglwys Sefydledig. Yn 1785, efe a ail ymunodd â'r Methodistiaid Calfinaidd, ac ni chesiodd mwy am le i weinidogaethu yn sefydlog yn yr Eglwys, ond treuliodd ei oes yn llafurus ymhlith y Methodistiaid Calfinaidd. Prif orchwyl ei oes oedd sefydlu Ysgolion Dyddiol Cymreig Symudol, yn debyg i gynllun person Llanddowror o'r blaen, ac o'r rhai, fel cangen o'r cynllun y sefydlodd yr Ysgolion Sabbothol. Efe hefyd ydoedd un o sylfaenwyr y Gymdeithas Beiblau Frytanaidd a Thramor. Bu farw yn y Bala, Hydref 5, 1814, yn 59 oed.

Bellach rhoddwn restr o'i Weithiau Awdurol mor gyflawn ag y gallwn :— 1. "Yr Act am bwyso Aur," &c., Caerfyrddin, J. Ross, 1775. Ail argraffwyd ef yn 1778. Y mae yn debyg mai cyfieithydd y gwaith hwn oedd Mr. Charles, ac mai Rowland Hill oedd yr awdwr.—2. "Crynodeb o Egwyddorion Crefydd, neu Gatecism byr i blant ac eraill, i'w dysgu, gan y Parch. T. Charles, A.B., 1789.—3. "Llythyr at Mr. T. Jones, o'r Wyddgrag; yn cynwys Hanes fer o Fordaith lwyddianus y llong Duff, yr hon a anfonwyd i drosglwyddo deg ar hugain o Genhadon i bregethu'r Efengyl i drigolion paganaidd Ynysoedd y Mor Dehenol; ynghydag ychydig anogaethau i gynorthwyo'r gorchwyl pwysigfawr a chanmoladwy, gan y Parch. T. Charles, A.B.; Caerlleon, W. C. Jones, 1798." 4. "Y Drysorfa Ysbrydol;" Caerlleon, W. C. Jones, 1799. Hefyd am y blynyddoedd 1801 1811.—5. "Hyfforddiant i'r Anllythyrenog i ddarllen Cymraeg, &c., 1799."—6. Argraffiad newydd o "Ddiffyniad Ffydd Eglwys Loegr," 1808.—7. Argraffiad newydd o waith Walter Cradog.—8. "A Vindication of the Welsh Methodists," yn erbyn gwaith y Parch. Mr. Owen, person Llandyfrydog, yn Mon.—9. "Yr Hyfforddwr," sef ail argraffiad o'r "Catecism," rhif yr ail yn y rhestr hon.—10. "Esboniad ar y Deg Gorchymyn." 11. "Geiriadur Ysgrythyrol, yn bedair cyfrol; yr hwn a ystyrir yn safon yn yr "oes oleu hon," a bydd felly hefyd am oesau i ddyfod 1—12. Golygodd ddau argraffiad o'r Bibl Cymraeg, yn 1804 a 1814.

Cyhoeddodd dri o'r llyfrau uchod gyda golwg yn uniongyrchol ar yr Ysgol Sabbothol: sef "Y Sillydd," "Yr Hyfforddwr," a'r "Esboniad ar y Deg Gorchymyn," o ba rai y cyhoeddwyd dim llai na thua thri chant a haner o filoedd.[1]


Nodiadau

golygu
  1. Gweler Gofiant y Parch. Thomas Charles. G.C., gan T. Jones Morgan's Life of Charles; Williams Emi, Welsh; Methodistiaeth Cymru, Cyf. 1. tudal. 326—348; "Geir. Byw." Liverpool; "Geir. Byw." Aberdar; Y Gwyddon. Cym., nen "Y Traethodau Llenyddol," Dr. Edwards, efe yw awdwr y ddwy erthygl; Hanes y Cymry, gan y Parch, Owen Jones, tudal, 294 Charles y Bala a'i Amserau