Traethawd ar Enwogion Swydd Feirion/Davies, Hugh

Dafydd William Pyrs Traethawd ar Enwogion Swydd Feirion

gan Edward Davies (Iolo Meirion)

Elis ab Elis

DAVIES, HUGH a anwyd Mehefin 2, 1838, mewn lle a elwir Penlan, yn Nyffryn Edeyrnion. Mor gynted ag y daeth i oedran priodol, cafodd addysg dda gartref, yn ysgolion Sabbothol a dyddiol y gymydogaeth. Gwnaeth gynydd canmoladwy ymhob cangen o addysg gyffredinol, a thalai sylw manwl i ymddiddanion yr am- seroedd a phynciau ei oes. Pan yn Rhuthyn, yn yr Ysgol Frytanaidd, ymwasgodd a'r eglwys Annibynol yn Mhenydref, a derbyniwyd ef yn gyflawn aelod pan yn brin gyraedd ei 14 mlwydd oed, a chafodd y fraint o fyw yn addas i'w broffes hyd ddiwedd ei oes. Yn ngwanwyn y flwyddyn 1855 aeth yn ysgrifenydd i'r North and South Wales Bank, yn Ninbych, a llanwodd ei le yn anrhydeddus yno am bedair blynedd. Yn 1859, symudwyd ef i Lerpwl, i fod yn gyfrifydd o dan yr un cwmpeini, ac oddi yno symudodd yn eu gwasanaeth yn y flwyddyn 1860 i Aberystwyth, ac enillodd yno air da pawb a'i hadwaenai mewn byd ac eglwys; ond gwaelodd ei iechyd, a bu raid iddo adael pobpeth a dychwelyd adref, yn Mehefin, 1861; ac er pob ymdrechion meddygol, bu farw y gŵr ieuanc caredig ac addawol hwn y dydd cyntaf o Orphenaf, 1861. Yr oedd yn lenor gobeithiol. Detholai, prynai, a darllenai y llyfrau goreu, a darllenai lawer ar ei Fibl, fel y dengys yr ysgrifeniadau a adawodd ar ei ol—(Geir. Byw., Aberdar.)


Nodiadau

golygu