Traethawd ar Enwogion Swydd Feirion/Ellis, John, (1599-1665)
← Ellis, John, Archddiacon Meirionnydd | Traethawd ar Enwogion Swydd Feirion gan Edward Davies (Iolo Meirion) |
Evans, Edmund → |
ELLIS, Parch. JOHN, D.D., duwinydd ac awdwr dysgedig, a anwyd yn Llandecwyn, 1599. Aeth i Goleg Hart, Rhydychain, yn 1617; ac yno, trwy ddyfalwch mawr mewn rhesymeg ac athroniaeth, cyrhaeddodd y radd o M.A. yn 1625. Ymhen tair blynedd yn mhellach, etholwyd ef yn gymrawd anrhydeddus o Goleg yr Iesu, ac efe ar y pryd mewn urddau eglwysig. Yn 1632 derbyniwyd ef i ddarllen y brawddegau; graddiwyd ef yn D.D., gan Brifysgol St. Andrew, yn yr Alban, 1634, ac ar ei ddychweliad i Rydychain yn ystod yr un flwyddyn, anrhydeddwyd ef a'r un cyffelyb deitl yno drachefn. Priododd Rebecca, merch i John Pettie, Stoke Talmach, Sir Rhydychain, a chafodd rectoriaeth Whitfield, yn agos i'r lle hwnw, yr hon a ddaliodd hyd 1647; a'r pryd hwnw cafodd rectoriaeth Dolgellau, lle yr arhosodd hyd ei farwolaeth yn 1665. Cyhoeddwyd o'i waith. - 1, Allwedd y Ffydd, 1642; 2, Esboniad ar Brophwydoliaeth Obadia, 1641; 3, Diffyniad i Ffydd yr Eglwys Brydeinig, 1647; 4, Hawliau Eglwys Loegr i ymneillduo oddiwrth Eglwys Rhufain, 1660. Y mae'r llyfrau hyn oll wedi eu hysgrifenu yn Lladin. Sefydlodd Ysgol Ramadegol yn Nolgellau yn 1665 tuag at addysgu 120 fechgyn, gan ei gwaddoli â fferm o'r enw Penbryn, yn mhlwyf Llanaber. Yr elw yn awr ydyw 40p. yn y flwyddyn. Rhaid i'r meistr, yr hwn a benodir gan offeiriad Dolgellau, fod wedi ei raddio yn Rhydychain neu Caergrawnt, ac nis gall ar yr un pryd ddal unrhyw fywioliaeth arall.—(G. Lleyn).