Traethawd ar Enwogion Swydd Feirion/Enwogion Ardudwy

Athroniaeth Hanesyddiaeth Traethawd ar Enwogion Swydd Feirion

gan Edward Davies (Iolo Meirion)

Anwyl, Morris

DOS. I

ENWOGION ARDUDWY

HEN A DIWEDDAR

Gwahenir Cwmwd neu Arglwyddiaeth Ardudwy oddiwrth Tal y-bont gan yr afon Mawddach. Rhenir Ardudwy yn ddwy Gantref— Uwch-Artro (afon o'r enw) ac Is-Artro; cynwysa y gyntaf bedwar plwyf:— Llanelltyd, Llanaber, Llanddwywe, a Llanenddwyn. Is-Artro a gynwys y plwyfydd canlynol:-Llanbedr, Llanfair, Llandanwg, Llanfihangel-y-Traethau, Llandecwyn, Llanfrothen, Maentwrog, Ffestiniog, a Thrawsfynydd.


Yn Uwch-Artro, ger Abermaw, y mae hen warchglawdd milwraidd wedi ei godi ar ben uchaf y bryn, ac a elwir Dinas Gortin. Yn Is-Artro, yn mhlwyf Llandanwg, y mae Tref Ddegwm a Chastell Harlech yn sefyll. Dywedir mai Maelgwn Gwynedd a adeiladodd y dref henafol hon, ac a'i galwodd—Caer Colin. Yn mhlwyf Maentwrog y canfyddir adfeiliau Castell Mîn; lle y byddai Brenin Lloegr yn arferol o wersyllu pan yn dyfod yn erbyn Gogledd Cymru. Yn mhlwyf Ffestiniog y mae rhifedi lliosog o feddau, y rhai a elwir, Beddau Gwyr Ardudwy. Yn mhlwyf Trawsfynydd safai gynt Gastell Prysor, muriau yr hwn sydd yn sefyll eto.