Traethawd ar Enwogion Swydd Feirion/Evans, Edward, (Iolo Gwyddelwern)
← Elis ab Elis | Traethawd ar Enwogion Swydd Feirion gan Edward Davies (Iolo Meirion) |
Evans, Thomas, Adwy y Clawdd → |
EVANS, EDWARD, (Iolo Gwyddelwern), oedd fardd lithrig a pharod ei awen. Ganwyd ef o fewn plwyf Gywyddelwern, yn 1786. Gwneuthurwr prenau traed ydoedd wrth ei alwedigaeth. Gadawodd lawer o'i waith mewn llawysgrifau ar ei ol. Bu farw yn Stryd Clwyd, Rhuthyn, Mawrth 26ain, 1853. Claddwyd ef ger addoldy y Bedyddwyr, Llanfwrog, ac y mae englyn tarawiadol o'i gyfansoddiad ef ei hun yn argraffedig ar gareg ei fedd.— (Geir. Byw., Lerpwl.)