Traethawd ar Enwogion Swydd Feirion/Evans, Parch. Enoch
← Davies, Parch. Griffith Owen | Traethawd ar Enwogion Swydd Feirion gan Edward Davies (Iolo Meirion) |
Evans, Ebenezer |
EVANS, Parch. ENOCH, o'r Bala, pregethwr hynod gyda'r Methodistiaid Calfinaidd. Wyr ydoedd i'r hybarch John Evans, Bala. Yr oedd llawer o bethau digrif, diniwaid, a phlentynaidd yn perthyn iddo. Cadwai beth dirifedi o adar o bob math a rhywogaeth yn ei dŷ, ac eisteddai am oriau yn y gwynfydedd penaf i wrandaw arnynt yn canu. Yr oedd yn cael rhyw hyfrydwch mawr gyda'r bodau lleiaf a mwyaf diystyredig yn y greadigaeth fywydol; byddai gan bryf copyn afael neillduol ar ei feddwl, ac ymdroai allan o bob hydoedd wrth fyned i'w gyhoeddiadau yn gwylio malwod a phryfaid genwair yn llwybreiddio i'w taith. Yr oedd yr ymdroadau hyn yn peri cryn anhwylusdod i'w frodyr crefyddol, gan y gorfodid hwy yn fynych i ddisgwyl E. Evans at ei gyhoeddiad, ac nid anfynych y byddai raid troi at "gyfarfod gweddi," gan y byddai amser y cyfarfod ymhell drosodd cyn i'r falwoden gyraedd pen ei siwrnai. Er hyn oll yr oedd yn Enoch Evans lawer o ragoriaethau amlwg fel pregethwr. Yr oedd yn ddarllenwr campus, yn ymadroddwr rhwydd a naturiol iawn, a'i faterion yn cynwys llawer o synwyr cryf a drychfeddyliau prydferth. Pan oedd rhai cyfeillion crefyddol ar ymweliad âg ef yn ystod ei gystudd olaf dywedai mewn ymddiddan y gallent wneyd pobpeth tua'r capel heb Enoc—canu, gweddio, &c., ond dywedai, "Ni pherffeithir hwynt heb poor Enoc."—(Geir. Byw, Liverpool.)