Traethawd ar Enwogion Swydd Feirion/Gruffydd, Hywel, Carneddi

Fychan, Gruffydd, Corsygedol Traethawd ar Enwogion Swydd Feirion

gan Edward Davies (Iolo Meirion)

Gruffydd, Owen, Bwlchgwernog

GRUFFYDD, HYWEL, o'r Carneddi, yn rhan o blwyf Beddgelert ag sydd yn Ardudwy a elwir Nanmor. Ganwyd ef yn 1751-2. Ei dad oedd Gruffydd Morys, ab Morys Powel y Bardd. Yr oedd tuedd i brydyddu yn Hywel Gruffydd pan yn blentyn. Ni chafodd Hywel un math o ysgol pan yn blentyn, oherwydd hyny ni byddai un amser yn ysgrifenu ei ganeuon. Yn y flwyddyn 1826, efe a gyhoeddodd lyfryn bychan, yn cynwys "Marwnad Elizabeth Jones, o Hafod y Llan," "Carol Plygain," a "Chân o goffadwriaeth am ddaioni Duw yn rhoddi Cynhauaf ffrwythlawn i ni." Efe a gyfansoddodd lawer byd o ganeuon, y rhai a gopïwyd gan ei frawd Morys. Bu farw Hywel Gruffydd, ar ol treulio oes faith mewn llawer o helbulon, yn y flwyddyn 1837, a chladdwyd ef yn Beddgelert.—(Plwyf Beddgelert, gan William Jones, Porthmadog.)


Nodiadau

golygu