Traethawd ar Enwogion Swydd Feirion/Howell, Parch. L. D

Hughes, Parch. Thomas Traethawd ar Enwogion Swydd Feirion

gan Edward Davies (Iolo Meirion)

Jones, Parch. David, Treffynnon

HOWELL, Parch. L. D., America, oedd weinidog gyda'r Annibynwyr yn Middle Granville, America. Brodor ydoedd o Lanuwchlyn. Mabwysiadodd grefydd yn bur ieuanc. Yn 1832 aeth gyda'i fam, ac eraill o'r teulu, i America, ac ymsefydlodd yn Utica. Yn 1836 priododd un o'r enw Miss Lydia John. Yn fuan cafodd anogaeth i ddechreu pregethu. Cafodd gynyg mewn amryw fanau ar fod yn weinidog sefydlog pan oedd ar ymweliad yn y Gorllewin; ond ar y cyfryw amser nis gallai symud o Utica heb gwbl ddyrysu ei amgylchiadau. Ar y cyfryw amser daeth ef ag eglwys Middle Granville i adnabyddiaeth â'u gilydd, a chymerodd ei gofal. Yr oedd yn troi mewn cylch helaeth iawn fel trysorydd amrywiol gymdeithasau, ac yr oedd yn gwneyd mwy o lafur didal na neb yn y ddinas; yr oedd yn was i bawb mewn angen cymorth a chyfarwyddyd yn mysg ei genedl o'r dref a'r wlad, fel nad oedd dim gorphwysdra iddo, na dim pen draw ar ei drafferth. Ar y 13eg o Orphenaf, 1864, bu farw o'r darfodedigaeth yn nghanol ei ddefnyddioldeb.—(Geir. Byw., Aberdâr.)


Nodiadau

golygu