Traethawd ar Enwogion Swydd Feirion/Hughes, Catherine
← Gruffydd ab Adda ab Dafydd | Traethawd ar Enwogion Swydd Feirion gan Edward Davies (Iolo Meirion) |
Humphreys, Parch. Ellis, Llanengan → |
HUGHES, CATHERINE, ydoedd ferch y Parch. John Jones, offeiriad Llanegryn, ac a anwyd yn y flwyddyn 1732. Yr oedd Mr. Jones o deulu athrylithgar—yr un teulu a Rhys Jones, o'r Blaenau; canys arferai alw y gwr o'r Blaenau yn "gefnder." Bu iddo ddeg o blant—pedwar o feibion, a chwech o ferched. Bu dau fab yn yr Eglwys, un yn apothecari i deulu Sior III., a'r llall yn fasnachydd gwin. Nid yn unig rhoddodd Mr. Jones ddysgeidiaeth ieithyddol i'w feibion, ond hefyd i'w ferched; yn enwedig i'w ferch Catherine, yn yr hon y canfyddai athrylith foreuol, o'r hyn y cymerodd fantais i'w gwneyd yn helaethach ei gwybodaeth yn yr awduron dysgedig na nemawr o foneddigesau ei hoes, ac oherwydd hyny gellir ei galw yn Elizabeth Carter y Cymry. Dangosodd Catherine Hughes yn ei hieuenctyd siamplau awenyddol ag a fuasai yn anrhydedd i'r beirdd enwocaf. Priododd â Rice Hughes, Ysw, Cyfreithiwr, o'r Cemaes, yn Sir Drefaldwyn, yr hwn oedd yn foneddwr cymdeithasgar, a pharod ei leferydd. Cafodd hi ei hanrhydeddu â chyfeillgarwch y rhai dysgedicaf yn Nghymru, yn enwedig yr hyglod Helicon Llwyd, o Sir Feirion. Y mae rhai o'i llythyrau mewn rhyddiaeth a barddoniaeth eto ar gael. Yr oedd yn esiampl o ymddygiad Gristionogol ymhob sefyllfa gymdeithasol. Bu iddi deulu lliosog, un o ba rai oedd y Parch. Robert Hughes, Periglor Dolgellau.—(G. Lleyn.)