Traethawd ar Enwogion Swydd Feirion/Hughes, Parch. Rowland
← Huw, Rolant | Traethawd ar Enwogion Swydd Feirion gan Edward Davies (Iolo Meirion) |
Hughes, Parch. Thomas → |
HUGHES, Parch. ROWLAND, gweinidog enwog gyda'r Wesleyaid, a anwyd yn y Bala, Mawrth 6, 1811. Pan oedd tua 4 oed symudodd William ac Ann Hughes, ei rieni, i Ddolgellau. Yno yr addysgwyd ef; yno y daeth at grefydd, ac yno y dechreuodd bregethu. Pan yn 16 oed ymunodd fel aelod â'r Wesleyaid, a phan yn 17 dechreuodd bregethu. Yn 1829, aeth i Ferthyr Tydfil yn bregethwr cynorthwyol. Yn Awst 1832 galwyd ef allan i waith rheolaidd y weinidogaeth. Bu yn teithio wedi hyny am 29 o flynyddau. Ei gylchdeithiau oeddynt Caernarfon, Beaumaris, Liverpool, Llanasa, Liverpool, Bangor Merthyr, Crughywel, Manchester, Liverpool, a Dinbych-lle y gorphenodd ei daith, yr hon a fu yn llawn o lafur caled, defnyddioldeb mawr, ac o enwogrwydd a dylanwad tu hwnt i'r cyffredin. Pan yn Liverpool y waith gyntaf ymbriododd âg Elizabeth Evans, merch hynaf y Parch. David Evans, gweinidog parchus gyda'r Wesleyaid Cymreig, yr hon a adawodd yn weddw gyda phump o blant Dywed ei fywgraffydd yn y Gwyddoniadur fod gan Mr. Hughes feddwl galluog iawn; fod dwy elfen neillduol yn ymgyfarfod ynddo, a'r rhai hyny yn gryfion a chyfartal iawn, sef yr un resymiadol a'r un ddychymygol. "Dichon mai y resymiadol oedd y benaf." Yr oedd Mr. Hughes yn bregethwr galluog a sylweddol iawn, a diameu ei fod yn un o'r pregethwyr enwocaf a feddai y corff yn ei oes ef. Gellir dyweyd ei fod yn feistr ar yr iaith Saesneg, ac y gwyddai dipyn am y Groeg a'r Hebraeg. Bu hefyd yn wasanaethgar fel llenor. Cyhoeddwyd y "Cyfnodau y Gynhadledd, a elwir y Cyfnodau Mawr" o'i waith; cyfieithodd hefyd "Nodiadau y Parch. J. Wesley ar y Testament Newydd." Dywedir ei fod yn awdwr amryw lyfrau eraill, a llawer o erthyglau sydd i'w gweled yn nghylchgronau yr enwad. Bu farw yn Dinbych Rhagfyr 25, 1861, yn 50 oed.—(Gwyddoniadur Cymreig, cyf. v., t.d. 547; Geir. Byw., Liverpool, t.d. 523.)