Traethawd ar Enwogion Swydd Feirion/Hughes, Robert
← Hughes, Thomas | Traethawd ar Enwogion Swydd Feirion gan Edward Davies (Iolo Meirion) |
Jones, Thomas, yr almanaciwr → |
HUGHES, ROBERT, o'r Gwernclas, yn Edeyrnion, ydoedd 4ydd mab i Huw ab Huws o'r Gwernclas. Bu flynyddoedd yn ysgrifenydd teuluaidd i'r Clifforiaid tywysogaidd, Iarllod Cumberland; a chan y rhai yr ymddiriedid ef gartref ac ar led, ar genadaethau pwysig yn achos y llywodraeth yn gystal ag achos cyfrinachol. Priododd ferch i John Volpe, neu Iavanni Volpe, Meddyg Italaidd enwog, yn Tachwedd 2, 1601. Gwnaeth ei hun yn nodedig yn amser Elizabeth, trwy gyd—ymdeithio â Sior, Iarll Cumberland, y rhan fwyaf o'i deithiau morawl; ac yr oedd gydag ef yn cymeryd Portoucs, yn yr India. Bu farw Mawrth 21, 1641, yn 80 oed.