Traethawd ar Enwogion Swydd Feirion/James, John, (Ioan Meirion)
← Jones, Hugh, Maesglasau | Traethawd ar Enwogion Swydd Feirion gan Edward Davies (Iolo Meirion) |
Jones, Rowland, (Gwybedyn) → |
JAMES, JOHN, neu "Ioan Meirion." Arddengys bywyd Ioan ddiwydrwydd yn haeddu ei efelychu. Pan oedd yn fachgen tua chartref nid oeddys yn meddwl y gwnai nemawr fyth tuag at enwogi ei hun. Ond ar ol treulio y rhan gyntaf o'i oes gartref trodd ei wyneb tua Llundain; ac, fel llawer bachgen ieuanc o Gymru yn y Brif-ddinas, daeth ymlaen yn rhyfeddol. Yr oedd Ioan yn wladgarwr twymgalon, a safai yn ëon yn erbyn y pethau a gredai oedd a thuedd ynddynt i dynu gwarth ar ei gyd-genedl. Pan ddaeth y dirprwywyr i ymholi i sefyllfa addysg yn Nghymru fe benodwyd Ioan yu un o'r cynorthwywyr; ac er na chafodd ein gwlad gyflawn chware teg gan y Dirprwywyr y pryd hwn, eto nid. ydym mor haerllug a gwadu nad oedd llawer iawn o wir yn yr hyn a ddywedwyd. Cafodd Ioan ar ol hyn swydd yn Llundain' sef bod yn Ysgrifenydd i'r Ysgol Gymraeg, a chyflawnodd ei swydd gyda zel a llwydd neillduol. Bu am dymor yn olygydd i newyddiadur Cymraeg o'r enw Y Cymro. Bu farw yn ŵr canol oed, yn bur ddisymwth, oherwydd iddo gael ei daro gan geffyl, pan yn rhoddi tro yn Blackheath, gerìlaw Llundain, a bu farw ymhen ychydig ddyddiau. Gorchymynodd yn benodol gael ei gladdu yn mynwent Llanymawddwy, o dan yr "ywen werdd ganghenog," a gwnaed ei gais, ac yno y mae yn gorphwys. Heddwch i'w lwch !—("Arglwyddiaeth Mawddwy," gan Glasynys, yn y Brython, cyf. v. t.d.)