Traethawd ar Enwogion Swydd Feirion/Jones, David, Felinganol
← Jones, John, Maesygarnedd | Traethawd ar Enwogion Swydd Feirion gan Edward Davies (Iolo Meirion) |
Jones, Isaac, Ffestiniog → |
JONES, Parch. DAVID, Felinganol. Ganwyd ef Mawrth 31, 1813, mewn ffarm o'r enw Llandanwg, yn Nghwmwd Ardudwy. Ei rieni oeddynt Richard a Catherine Jones. Pan oedd David yn ddwy flwydd oed symudodd ei rieni i'r Borthwen, Penrhyndeudraeth. Cafodd ychydig o ysgol pan yn bur ieuanc gydag un o'r enw Mr. Evans, gweinidog gyda'r Annibynwyr. Yn 1831 symudodd D. Jones yn ol i Landanwg at ei daid. Yn Ebrill, 1833 cafodd ei dderbyn yn gyflawn aelod gyda'r Bedyddwyr yn Cefncymerau, a chyn diwedd yr un flwyddyn dechreuodd bregethu. Tua'r amser yma mabwysiadodd Mr. R. Wynne, Cefncymerau, ef i'w deulu, a rhoddodd ef yn yr ysgol gydag un o'r enw Daniel Davies, yr hwn oedd yn cadw ysgol yn y gymydogaeth. Yn Awst, 1837, aeth i athrofa Pontypool, a bu yno hyd 1840, lle y cyraeddodd radd dda o ddysgeidiaeth, mewn amser mor fyr. Cafodd alwad gan amryw eglwysi, ond eglwys y Felinganol a lwyddodd, lle y gweinidogaethodd am naw mlynedd. Bu farw y nghanol ei ddefnyddioldeb, yn Mehefin 3, 1849, yn 36 oed, a chladdwyd ef wrth gapel y Felinganol. Dywedir ei fod fel pregethwr yn sefyll yn y rhes flaenaf yn Nghymru. Cyhoeddwyd detholiad o'i bregethau.—(Geir. Byw., Aberdâr, t.d. 631.)