Traethawd ar Enwogion Swydd Feirion/Jones, Parch. Edward, 2il

Ieuan ab Gruffydd Leiaf Traethawd ar Enwogion Swydd Feirion

gan Edward Davies (Iolo Meirion)

Meirion Goch

JONES, Parch. EDWARD, 2il, gweinidog gyda'r Wesleyaid. Ganwyd ef yn ymyl Corwen, yn y flwyddyn 1775. Yn y flwyddyn 1801, daeth Mr. Bryan i bregethu i ardal Corwen, pryd yr argyhoeddwyd y brawd E. Jones o dan ei weinidogaeth lem. Ac yn fuan ymwasgodd â'r disgyblion. Yn 1803, dechreuodd bregethu. Yn 1804, aeth i'r weinidogaeth deithiol, pan y penodwyd ef i Sir Fôn. Un—flynedd—ar—ddeg y bu yn alluog i deithio; ond yn ystod y tymor byr hwnw llafuriodd yn Ne a Gogledd Cymru gyda chymeradwyaeth. Yr oedd ei ffordd i deyrnas nefoedd drwy lawer o orthrymderau. Gorfodwyd ef, o herwydd diffyg iechyd, i fyned yn uwchrif yn y flwyddyn 1815; a dioddefodd gystudd trwm am 23 o flynyddoedd. Gorphenodd ei daith mewn heddwch. Yr oedd o dymer naturiol dawel, ddiymhongar, ac enciliedig. Dywedir ei fod yn bregethwr rhagorol, ond fod ei lais yn hytrach yn wanaidd. Ymddangosodd llawer o benillion o'i waith o bryd i bryd yn yr Eurgrawn a'r Trysor i Blentyn. Bu farw yn y Faenol fawr, yn agos i Lanelwy, Ebrill 15fed, 1838, yn 63 oed, ac wedi bod yn y weinidogaeth 34 o flynyddau.—(Geir Byw., Aberdâr.)


Nodiadau

golygu