Traethawd ar Enwogion Swydd Feirion/Jones, Parch. Richard
← Jones, Parch. David, 2il | Traethawd ar Enwogion Swydd Feirion gan Edward Davies (Iolo Meirion) |
Jones, Parch. Cadwaladr → |
JONES, Parch. RICHARD, Llwyngwril, pregethwr hynod yn ei ddydd. Ganwyd ef yn nhyddyndy y Tŷ du, plwyf Llwyngwril, Meirion, yn 1780. Yr hyn oedd enwocaf yn Mr. Jones oedd côf cryf anghyffredin; gallai ail adrodd pregeth neu ddarlith a glywai o'r naill ben i'r llall, ac nid oedd raid iddo ddarllen llyfr fwy nag unwaith, yr oedd y Beibl gan mwyaf yn ei gof. Yr oedd yn dduwinydd da, ac yn llawn syched hyd ei ddiwedd am ychwaneg o wybodaeth yn ei hoff bynciau. Bu farw Chwefror 18, 1853, yn 73 oed. Cyhoeddwyd cofiant iddo gan y Parch. E. Evans, Llangollen; ond nid yw y cofiant hwnw yn llawer o glod i'r Parch. Richard Jones, nac i'w awdwr ychwaith. Pregethwr gyda'r Annibynwyr oedd Mr. Jones, a phregethwr teithiol a fu dros ei holl fywyd; pan y deuai adref o un daith, dechreuai barotoi i gychwyn taith arall. Nid ydym yn gwybod iddo erioed fod yn fugail un eglwys neillduol.