Traethawd ar Enwogion Swydd Feirion/Jones, Parch. William (gweinidog Piwritanaidd)

Jones, Parch. Lewis (esgob Killaloe) Traethawd ar Enwogion Swydd Feirion

gan Edward Davies (Iolo Meirion)

Lewis, Parch. William, D.D

JONES, Parch. WILLIAM, ydoedd frodor o Feirion. Wedi derbyn addysg ragorol ymsefydlodd mewn ysgol yn Rhuthyn, a symudodd oddiyno i Ddinbych, lle y dewiswyd ef gan arglwydd milwrol castell y dref hono, o dan Werinlywodraeth Cromwell, i fod yn bregethwr y castell; a thua 1648 gwnaed ef yn weinidog y plwyf. Cymerodd daith i Lundain, er mwyn ymgynghori â Richard Baxter ac eraill o barth Deddf yr Unffurfiad, a dychwelodd gan lwyr benderfynu ymneillduo pan ddelai y gyfraith hono i weithrediad. Wedi ei orfodi i ymadael â Dinbych gan gyfaith y Pum' Milldir, cafodd encilfan ddymunol yn Plasteg, sir Fflint, gyda theulu hynafol y Treforiaid, y rhai o haelfrydedd eu calon a roddasant gyfran o dir iddo gwerth 20p. yn y flwyddyn. Ar of trigianu yno am lawer o flynyddoedd efe a symudodd i Hope, yn yr un sir, lle y bu farw mewn oedran teg, yn Chwefror, 1679, ac yno y claddwyd ef. Yr oedd yn ŵr o ddysg, pwyll, a duwioldeb diamheuol. Efe a gyfieithodd i'r Gymraeg y ddau lyfr canlynol o eiddo Mr. T. Gouge, "Gair at bechaduriaid a saint," ac "Egwyddorion y Grefydd Gristionogol. Cyhoeddwyd a rhanwyd hwy ymhlith tlodion Cymru yn 1676."—(Rees' Noncon. in Wales, 148.)

Nodiadau

golygu