Traethawd ar Enwogion Swydd Feirion/Lloyd, Edward, A.C.
← Lewis, Parch. George, D.D, Llanuwchlyn | Traethawd ar Enwogion Swydd Feirion gan Edward Davies (Iolo Meirion) |
Lloyd, Parch. Evan, Brondderw → |
LLOYD, EDWARD, A.C. Bu yn gweinidogaethu yn Llangower, yr hwn le sydd ar lan Llyn Tegid, ger y Bala, ddeugain mlynedd, o'r hwn le y cafodd ei ddeoli yn amser Cromwel, a bu y lle yn wag am hir amser, a bu farw yntau yn 1685. Ei fab ef oedd yr Esgob W. Lloyd, yr hwn y gwelir ei hanes yn fyr yn y traethawd hwn:—Walker's Sufferings of the Clergy, tudal 248. Cyfieithodd y Parch. Edward Lloyd ddau o lyfrau o waith Dr. Simon Patrick, esgob Ely:—1. "Egwyddor i rai ieuainc i'w cymhwyso i dderbyn y cymun sanctaidd yn fuddiol," Llundain, 1682, 12 plyg. 2." Męddyginiaeth a chysur i'r dyn helbulus, clafychus, a thrallodus ar ei glaf wely, a gasglwyd allan o'r ysgrythyrau sanctaidd, ac hefyd o ystoriau ac athrawiaethau yr hen dadau, a rhesymau y philosophyddion a gwŷr doethion a dysgedig eraill o'r cynfyd, ac a osodwyd allan trwy lafur Edward Lloyd, A.C., a gweinidog yr efengyl yn Llangower, yn Sir Feirion, er lleshad i'w braidd y mae yn fugail arnynt, ac yn oruchwyliwr i gyfranu iddynt .eu bwyd yn ei bryd, sef yw hyny, 'didwyll laeth y gair,' 1 Pedr ii. 2; ac ar ol hyny, er budd i'r Cymry oll," Amwythig, 1722.