Traethawd ar Enwogion Swydd Feirion/Owain Brogyntyn
← Meirion Goch | Traethawd ar Enwogion Swydd Feirion gan Edward Davies (Iolo Meirion) |
Owen, Matthew → |
OWAIN BROGYNTYN, pendefig urddasol, ac Arglwydd Edeyrnion, ac yn byw tua diwedd y ddeuddegfed ganrif. Mab oidderch ydoedd i Madog ab Meredydd ab Bleddyn, tywysog Powys Fadog, a'i fam ydoedd ferch y Maer Du o Rug, yn Edeyrnion. Rhoddes ei dad iddo arglwyddiaeth Edeyrnion, yn Meirion, a'r cwmwd gerllaw a elwir Dinmael. Yr oedd palas Owain yn Mrogyntyn (Porkington) ger Croesoswallt; ac y mae olion ei aneddle i'w gweled hyd y dydd hwn, dan yr enw Castell Brogyntyn. Y mae llawer o brif deuluoedd siroedd Meirion a Dinbych yn olrhain eu hachau o hono. Gellir gweled ei ddagr a'i gwpan yn nghadw yn y Rug, ger Corwen, yn Edeyrnion.—(Gweler ei achau yn Heraldic Visitations Lewis Dwnn.)