Traethawd ar Enwogion Swydd Feirion/Owen, Lewis, y Barwn Owen
← Owen, John, D.D. | Traethawd ar Enwogion Swydd Feirion gan Edward Davies (Iolo Meirion) |
Owens, Parch. Owen, Rhosycae → |
OWEN, LEWIS, neu y Barwn Owen, ydoedd fab Owen ab Hywel ab Bleddyn, Ysw., o'r Llwyn, ger Dolgellau, yn nghantref Meirionydd, a chŷff rhai o'r teuluoedd hynaf yn Nghymru. Yr oedd Lewis Owen yn un o'r boneddwyr mwyf cyfrifol yn Nghymru, ac yn meddu etifeddiaeth gwerth tri chant o bunau yn y flwyddyn, yr hyn oedd swm gwych iawn yn yr oes hono. Oherwydd ei uchel waed, a'i amgylchiadau cyfrifol, cafodd amryw swyddau gwladwriaethol pwysig. Penodwyd ef gan Harri VIII. yn isystafellydd a barwn canghenllys Gwynedd. Bu yn sirydd Meirion yn 1546 a 1555, ac yn aelod dros y sir hono yn seneddau 1547, 1552, 1554. Llofruddiwyd y Barwn Owen gan y 'Gwylliaid Cochion Mawddwy" yn Mawddwy, mewn lle a elwir hyd heddyw "Llidiard y Barwn,' ar yr 11eg o Hydref, 1555.—Pennant's Tours in Wales; Lewis Dunn's Heraldic Visitations; Wms. Em. Welsh.)