Traethawd ar Enwogion Swydd Feirion/Owen, Lewis (dadleuydd gwrth-Gatholig)
← Meirion, Sion | Traethawd ar Enwogion Swydd Feirion gan Edward Davies (Iolo Meirion) |
Worthington, William, D.D → |
OWEN, LEWIS, brodor o Feirion, ac awdwr amryw lyfrau yn erbyn y Jesuitiaid. Derbyniwyd ef i goleg Eglwys Crist Rhydychain yn 1590, ac efe ar y pryd yn 18 oed, eithr gadawodd y coleg cyn cymeryd ei raddio. Yna bu yn ymdeithio yn amryw o wledydd y Cyfandir; ac ymunodd â chymdeithas yr Iesu yn Valladolid, Spaen, lle y trigianodd am ysbaid fel llygad-dyst chwilfrydus. Sylwodd ar eu dichellion, a chanfu fod eu holl amcanion yn fydol; ymadawodd, a throdd yn elyn anghymodlawn iddynt. Ei lyfr cyntaf a elwid, "The running Register, recording a true relation of the English colleges, seminaries, and cloysters in all foreign parts, together with a brief discourse of the lives, practices, &c, of English Monks, Friars, Jesuits, &c.," 1626. Dilynwyd hwn gan un bron ar yr un testyn: "The unmasking of all Popish Monks, Friars, and Jesuits; or a Treatise of their genealogy, beginnings, proceedings, and present state," 1628. 3, "Speculum Jesuiticum, or the Jesuiticum looking-glass, wherein they may behold Ignatius (their patron) his progress, their own pilgrimage, his life, their beginning," 1629. 4, "A true catalogue of all their colleges, &c., and a true number of the fellows of their society." Bu farw rywbryd ar ol 1629.—(Wood's Athen. Oxon.)