Traethawd ar Enwogion Swydd Feirion/Parry, John

Owen, Matthew Traethawd ar Enwogion Swydd Feirion

gan Edward Davies (Iolo Meirion)

Rhys Wyn ab Cadwaladr

PARRY, JOHN, ydoedd frodor o Gorwen, yn Edeyrnion, ac a ystyrid yn fardd lled wych yn ei oes. Yr oedd yn cymeryd rhan yn Eisteddfod fechan Llansantffraid Glyn Ceiriog, yn 1743. Yr oedd yn gyfaill mawr i'r Parch. Edward Samuel, cyfieithydd Hanes y Ffydd, yr hwn a fu yn offeiriad plwyf cyfnesol Bettws Gwerfil Goch. Bu yn rhanog â'r Matthew Owen uchod, o Langar, mewn cyfansoddi ac actio interliwdiau; ond dywedir nad oes nemawr o dalent yn cael ei ddangos yn hono gan un o'r ddau.—(G. Lleyn.)


Nodiadau

golygu