Traethawd ar Enwogion Swydd Feirion/Pugh, Parch. H. D

Pugh, Ellis Traethawd ar Enwogion Swydd Feirion

gan Edward Davies (Iolo Meirion)

Pugh, Parch. Hugh, Brithdir

PUGH, Parch. H. D., gweinidog yr Annibynwyr yn y Drefnewydd. Ganwyd ef yn Bryncrug, ger Towyn Meirionydd, yn 1820. Derbyniwyd ef yn gyflawn aelod yn eglwys Saron, pan yn 18 oed. Yn yr eglwys hon y dechreuodd bregethu pan tua 21 oed. Yn fuan aeth i'r athrofa dan addysg y Parch. Michael Jones, lle y bu am dair blynedd. Yn 1845, derbyniodd alwad eglwysi Main a Meifod, Sir Drefaldwyn. Yn 1849, gadawodd Meifod, gan dderbyn galwad oddiwrth eglwys Annibynol y Drefnewydd, yn yr un sir, lle y bu hyd ei farwolaeth, ar 19eg o Hydref 1850. Dywedir ei fod yn ŵr ieuanc o feddwl, cof, a thalent fwy na'r cyffredin.

Nodiadau

golygu