Traethawd ar Enwogion Swydd Feirion/Pugh, Parch. Hugh, Mostyn
← Pugh, Parch. Hugh, Brithdir | Traethawd ar Enwogion Swydd Feirion gan Edward Davies (Iolo Meirion) |
Pugh, Hugh. (telynor) → |
PUGH, Parch. HUGH, Mostyn, gweinidog yr Annibynwyr yn Mostyn, Swydd Fflint. Ganwyd ef yn nghymydogaeth Towyn, yn 1802. Cafodd ysgol dda pan yn blentyn. Pan yn 13 oed, anfonwyd efi Lundain i fod yn glerc cyfreithiwr, lle y bu am chwe' blynedd. Yr oedd tuedd cryf ynddo at ddarllen er yn fore, ac wedi myned i Lundain, cafodd bob cyfleusdra i foddloni ei dueddiad. Yr oedd tueddiad meddwl Mr. Pugh yn fwy rhesymegol na barddonol, dychymygol, a rhamantus. Yr oedd yn hynod am reswm, neu ffaith, yn sail gadarn i bob peth. Yn Mehefin, 1822, dychwelodd o Lundain i Towyn, oherwydd afiechyd. Yn niwedd y flwyddyn 1822, ymunodd âg eglwys Annibynol Towyn. Yn 1823, aeth i gadw ysgol i Lanfihangel-y-Pennant, ger Towyn; ac yn niwedd yr un flwyddyn y dechreuodd bregethu, pan yn 20 oed. Yn 1824, aeth i gadw ysgol i Lwyngwril, ac yn Mai, 1826, aeth i Bethel, ger y Bala, i gadw ysgol, ac urddwyd ef yn Llandrillo, ar ddydd Mawrth, y 3ydd o Orphenaf, 1827. Blodeu oes weinidogaethol Mr. Pugh oeddynt yr un-mlynedd-ar-ddeg a'dreuliodd yn Bethel a Llandrillo. Yn y tymor hwn y cyhoeddodd ei draethawd campus ar "Hawl a chymhwysder pob dyn i farnu drosto ei hun," ac hefyd "Gatechism yr Ymneillduwyr," a thraethodau eraill. Cyhoeddodd lyfr arall rhagorol yn dwyn yr enw "Drych y Cymunwr." Treuliodd 30 mlynedd yn Mostyn. Yr oedd yn un o'r dynion cadarnaf yn nghyngorau yr undeb y perthynai iddo, yn bregethwr grymus a synwyrol, yn gyfaill cywir a diffuant; ac fel ysgrifenwr, nid oedd genym ei ragorach yn Nghymru. Cyfranodd lawer iawn o ysgrifau campus i'r Dysgedydd, ynghydag amryw fisolion ereill, a charem yn fawr weled ei holl waith wedi eu casglu a'u cyhoeddi. Bu farw y gŵr mawr hwn yn Israel, Rhagfyr 23ain, 1868, a chladdwyd ef yn nghladdfa Seion, ger Treffynon. Yn ei farwolaeth y mae Cymru wedi colli un o'r dynion goreu a galluocaf, ac y mae enwad yr Annibynwyr wedi ei amddifadu o un o'i addurniadau penaf.—Geir. Byw., Aberdar.