Traethawd ar Enwogion Swydd Feirion/Richardson, Henry

Sion Dafydd Las Traethawd ar Enwogion Swydd Feirion

gan Edward Davies (Iolo Meirion)

Tegid Foel

RICHARDSON, HENRY, Ysw., o Aberhirnant, yn Penllyn, ydoedd drydydd mab Samuel Richardson, o'r un lle. Yr oedd yn deilliaw oddiwrth Syr Thomas Richardson, Arglwydd Brif-Farnwr y Llys-Benadur, yn amser y Siarliaid. Ganwyd gwrthddrych y crybwyllion hyn yn 1791. Wedi cael ei ddysgeidiaeth yn Rhydychain, a graddoli, efe a ymunodd â'r fyddin, ac a wasanaethodd am rai blynyddau fel banerydd a rhaglaw y 69ain gatrawd yn yr Orynys, ac wedi hyny yn yr ail Feirch-warchlu yn Ffrainc. Ar ddiwedd y rhyfel, gadawodd y fyddin, ac ymsefydlodd yn y palas teuluaidd Aberhirnant. Penodwyd ef yn Ustus Heddwch, yn Is-raglaw y sir, a llanwodd swydd o sirydd yn 1851. Yn 1830, efe a ddyfeisiodd Fywyd-fab Ceuol (Tabular Lifeboat), yr hwn a sefydlwyd yn Weymouth. Yn 1851, efe, mewn cysylltiad a'i fab, a fynodd wneyd y bywyd-fad Challenger; a mordeithiodd ynddo ar dywydd tymhestlog oddiamgylch y Land's End i Lundain. Y mae bywyd-fad ar yr un cynllun â hwnw yn awr mewn arferiad yn Rhyl. Bu farw yn Rhiwwaedog, ger y Bala, yn Penllyn, yn 1861, yn 70 oed.—(The Cruise of the Challenger.)


Nodiadau

golygu