Traethawd ar Enwogion Swydd Feirion/Roberts, Lewis, (Eos Twrog)
← Richards, Parch. John Lewis | Traethawd ar Enwogion Swydd Feirion gan Edward Davies (Iolo Meirion) |
Roberts, John, (Ioan Twrog) → |
ROBERTS, LEWIS, (Eos Twrog), Dolgellau, oedd enwog fel crythwr. Ganwyd ef yn mhlwyf Llandecwyn, yn Ardudwy, Mawrth y 9fed, 1756. Fel perorydd yr oedd efe yn un o brif enwogion y Dywysogaeth. Yn y flwyddyn 1775, trwy alwad uchel sirydd Meirionydd, Lewis Nanney, Ysw., o'r Llwyn, chwareuodd o flaen lliaws o foneddigion, cynulledig yn Nolgellau, a chafwyd y fath foddlonrwydd ynddo fel o hyny allan yr ystyrid pob cynulliad o'r fath yn ddiffygiol oddieithr cael ei bresenoldeb. Fel datganydd gyda'r delyn Gymreig yr oedd yn anghydmarol, ac ymbob ymdrech bu yn fuddugoliaethus, fel y prawf yr amrywiol dlysau a adawodd ar ei ol. Nid yn unig fel cerddor yr oedd yn rhagori ond fel hanesydd gwladol a chrefyddol. Bu farw Ebrill 2il, 1844, yn Nolgellau, yn 88 oed, a chladdwyd ef yn Maentwrog.