Traethawd ar Enwogion Swydd Feirion/Roberts, Parch. David, (Dai Glan Tegid)
← Rhobert, Morys ab, o'r Bala | Traethawd ar Enwogion Swydd Feirion gan Edward Davies (Iolo Meirion) |
Rowlands, Parch. David, Bala → |
ROBERTS, Parch. DAVID, (Da'i Glan Tegid,) Bala, ydoedd bregethwr gyda'r Trefnyddion Calfinaidd. Ganwyd ef yn y flwyddyn 1832. Cafodd ei dderbyn yn aelod eglwysig yn ieuanc, a chafodd ei dderbyn hefyd fel pregethwr gyda'r Trefnyddion Calfinaidd, ac yn un o efrydwyr yr athrofa yn y dref hono. Yr oedd yn ŵr ieuanc o wybodaeth eang ac o ddoniau helaeth iawn, ac wedi ei benodi i fod yn ngoror Clawdd Offa; ar yr hyn yr oedd wedi rhoddi holl fryd ei galon hyd ei funudau olaf; cael gwneuthur rhywbeth dros Iesu Grist yn y byd oedd ei brif fyfyrdod a thestyn ei ymddiddanion ar hyd y dydd; a hyn hefyd oedd cynwys ei freuddwydion yn oriau ei gwsg. Dywedai y noson cyn ymadael â'r fuchedd hon, ei fod yn meddwl yn sicr na chai ef fyned i uffern, er ei fod wedi ofni myned yno ganwaith, ond nad oedd ganddo ddim am ei fywyd ond haeddiant y Meichiau mawr, Yr oedd ganddo hefyd awen hedegog, dlws ei chynganeddau.