Traethawd ar Enwogion Swydd Feirion/Roberts, Parch. Robert, Bonwm

Rhys Wyn ap Cadwaladr Traethawd ar Enwogion Swydd Feirion

gan Edward Davies (Iolo Meirion)

Roberts, Parch. Robert 2il

ROBERTS, Parch. ROBERT, oedd weinidog y Wesleyaid. Ganwyd ef mewn ffermdŷ o'r enw Bonwm, ar lan afon Dyfrdwy, ynghylch milldir a haner o dref Corwen, yn Edeyrnion, yn 1783. Yn y flwyddyn 1802 dechreuodd bregethu, ac aeth i'r weinidogaeth y flwyddyn ganlynol. Yn 1809 bu yn golygu yr Eurgrawn. "Bu yn dra diwyd yn ei holl waith. Yr oedd yn esboniwr teg a chroew o'r testyn a gymerai, a thrwy hyny efe a sicrhai amrywiaeth naturiol. Pe yr estynasid ei ddyddiau tybid y buasai yn un o'r pregethwyr mwyaf defnyddiol. Yr oedd yn araf, sobr, a rheolaidd; yn nerthol mewn iaith, yn wreiddiol yn ei faterion, yn naturiol ac yn felus iawn. Buasai ei bregethau yn rhy hir oni bai eu bod yn dda." Bu farw o'r darfodedigaeth, yn Nghaernarfon, Ionawr 16, 1818, yn 35. mlwydd oed, a'r 15 o'i weinidogaeth.


Nodiadau

golygu