Traethawd ar Enwogion Swydd Feirion/Williams, Parch. Rowland D.D.
← Williams, Parch. Rowland | Traethawd ar Enwogion Swydd Feirion gan Edward Davies (Iolo Meirion) |
Enwogion Meirionydd → |
WILLIAMS, Parch. ROWLAND, D.D., un o'r rhai enwocaf a fagodd Cymru er's llawer oes. Daeth yn hyddysg yn yr ieithoedd clasurol pan yn ieuanc iawn. Pan yn 10 oed, aeth i Ysgol Eton; ac aeth oddiyno i Gaergrawnt. Wedi gorphen ei amser yn y Brifysgol, etholwyd ef yn Gymrawd o'i Goleg, ac yno y bu am dymor yn addysgu eraill gyda deheurwydd a llwyddiant anarferol Yr oedd Dr. Williams hefyd yn enwog iawn fel awdwr. Y mae ei "Gristionogaeth a Hindwaeth," yn profi yn eglur fod ynddo allu i dreiddio a myned yn ddwfn. Dygodd allan gyfrolau o farddoniaeth dan yr enw Lays of the Cymbric Lyre. Ond nid fel bardd yr oedd y Dr. yn rhagori, ond fel athronydd. Y mae ei erthyglau yn y Quarterly Review, &c., yn dangos gallu anghyffredin. Dygwyd ef i sylw arbenig yn ymddangosiad yr "Essays and Reviews," a'i gyfrol pregethau a elwir yn "Rational Godliness." Ni ddywedwn ddim am iachusrwydd yr ymborth sydd yn y cyfrolau hyn; ond dywedwn fod ynddynt amlygrwydd o ysgolheigdod a gallu na chyfarfyddwn ond pur anfynych a'r cyffelyb. Bu am ysbaid yn athraw yn Ngholeg Dewi Sant, Llanbedr, a dywedir na bu un athraw yn un man erioed a hoffid yn fwy na Dr. Rowland Williams gan ei ysgolheigion; ac y medrai ef eu trin fel plant, a'u dysgu fel tad. Cyhoeddodd liaws o lyfrau ar wahanol bynciau yn ddiweddar, a'r peth olaf a ddygodd allan o'r wasg oedd cân o'i eiddo ar "Owain Glyndwr." Yr oedd yn Gymro pur, er na fedrai siarad y Gymraeg yn rhugl. Yr oedd ei enaid yn llawn o dân gwladgarol, a'i ysbryd yn frwd dros hen wlad ei dadau. Bu farw Ionawr 13, 1870.
Nodiadau
golygu