Traethawd ar Gaio a'i Hynafiaethau/Cywydd i Dafydd ap Tomas Fychan o Gaio

Awdl i Gaio Traethawd ar Gaio a'i Hynafiaethau

gan William Davies (Gwilym Teilo)

Dafydd Fychan o Gaio

Cywydd i Dafydd ap Tomas Fychan o Gaio

Wele gywydd arall o waith ein bardd, i "Dafydd ap Tomas Fychan," o Gaio:—

"Aed y bardd a rodio byd,
I Gynwyl Gaio enyd
Na ddoed led ei droed yr ŵyl,
Neu led gwaun o wlad Gynwyl;
Minau ni ddof, os mynaf,
O Gynwyl hyd ganol haf:
Camwedd, a gwagedd, a gau,
Cwmwd Caio! ei hamau;
A'r un Duw ar rŵn o dir,
A wnaeth Gaio'n waith gywir.
Isag oedd mewn curas gwyn,
Wedi adail Rhyd Odyn;
Mab i Isag oedd Iago, (1)
Marchogion fu'i feibion fo.
Caio ei hun, dalfainge hael,
Yw Nas'reth wen, neu Israel.
Mae'r deuddeg llwyth yn Nghaeaw,
A phob llwyth yn wyth neu naw;
Mae yno bob husmanaeth, (2)
Morgan o'r muriau a'i gwnaeth; (3)
Adde fach Dafydd Fychan,
Y mae'r brut fel am ryw Bran;
I Domas, wedi Emyr (4)
Llydaw, y rhoed llaw mab Llyr; (5)
Dafydd o'i waed ef a ddoeth
Drwy ei âch ef i dra chyfoeth;
I Domas, o waed amhur,
Nid oedd werth y nodwydd ddur;
Esrom Dafydd ap Tomas,
Neu Esau yw yn y Sais;
A'i bryd ef obry Dafydd,
Pryd ar fath Peredur fydd;
Un gwr, a hwnw a garwn,
A Dafydd hyd fedd yw hwn;
Un frig bendefig Rhys Du,
Ac on oedd i gynyddu,
A fago'r haf o egin,
O Ronwy Goch (6) o ran gwin.
Dafydd cylch dolydd Dwy'lais,
Ydyw ei wlad o hyd Lais; (7)

Cylchyn Rhyd Odyn fu'n 'stor,
Caio unsud Parc Win'sor.
Deuddeg arwydd yw blwyddyn,
A dau a deg ydyw dyn.
A'r haul a aeth mewn rhuwl well
I Ddafydd yn ddwy efell,
A'i ddau fraich hyd ar ddofr wen,
A'i ddyrnau a ddyr onen;
A'i wyneb wrth yr. Annell,
A'i law a wna lu yn well.
Thomas a'i fardd-was fo,
Yn fyw oeddwn, nef iddo;
Ni wn ŵyl o'r dengwyl da,
Heb dâl ardal Llanwrda; (8)
Ni byddaf wyl heb Ddafydd,
Nac enyd awr, nac un dydd;
Ni wypwyf, drwy nerth Cwyfen, (9)
Eisiau mab Thomas. Amen.

ESPONIADUR:—

(1) "Iago," neu James, yr hwn enw sydd yn parhau yn enw teulu enwog Rhyd Odyn hyd y dydd hwn.

(2) "Hwsmonaeth." Amaethyddiaeth dda.

(3) "Morgan o'r muriau, &c.," h.y., Morgan a sychodd dir gwlyb â'r defnyddiau a gafodd yn y muriau. Efallai fod hyn yn cyduno â'r hen ysgrif, drwy brofi fod Caio wedi bod yn cael ei hamddiffyn gan gaerau, neu furiau, a'i bod efelly yn cyfateb i'r enw "Caer Gaio."

(4) "Emyr Llydaw." Tywysog yr hwn a ddaeth o Armorica, gyda'i ewythr Garmon, a Chadfan. Yr oedd yn byw yn y 5ed ganrif.

(5) "Mab Llyr." Bran ap Llyr, tad Caradog. Gelwir ef Bran Fendigaid, a chan y beirdd, "Bendigeid Fran," &c.

(6) "Gronwy Goch" ydoedd y 5ed olynydd i Elystan Glodrydd, ac yr oedd Dafydd ap Tomas Fychan y 5ed o Garonwy Goch.

(7) "Hyd Lais," ysef yr afon Llais, yr hon sydd yn ymarllwys i'r afon odidog Towy, yn gyfagos i Groes Inn, Llangathen. Ni a gawn fod yr holl wlad a or- wedd rhwng Caio ac Aberglais, yn ymyl Llangathen, yn eu meddiant. Yr oedd Henri ap Gwilym ap Tomas Fychan yn byw yn Ngethinog, yn Nglan Tywi. Yr oedd Llywelyn ap Henri ap Gwilym yn byw yn y Bryn Hafod. Yr oedd Llywelyn yn byw yn Ngethinog, yn ymyl Llangathen, ysef yn y Bryn hafod; ac fe fu Harri yn byw yn Lan Lais, cyn myned. i fyw i'r Cwrt Henri, palas y presenol Parch. H. Wade Green. Yr oedd Gwilym ap Tomas Fychan yn byw yn Nghefn Maelgoed, Llangathen. Mae gan ein bardd gywyddau, ac awdlau "moliant," i'r enwogion hyn i gyd; yr hyn a brawf fod y Fychaniaid, neu y Vaughans, yn deulu lluosog, cyfoethog, ac o ddylanwad mawr yn y rhanau hyn o'r Deheubarth; a dengys fod y bardd yn gyfeillgar a hwynt, a'i fod mewn bri mawr ganddynt.

(8) "Heb dål, &c." Llan Wrda, plwyf yn hwndrwd Caio. Mae yr Eglwys yn gyflwynedig i Sant Cawrdaf, ap Caradog Fraich Fras (a brawd i Cathen, i'r hwn y mae Eglwys Llangathen, wedi ei chysegru.) Yr oedd yn byw yn y 6ed ganrif.

(9) "Cwyfen" ap Brwynen Hen ap Cothi. Sant oedd yn byw tua diwedd y 7ed ganrif. Pwy ydoedd Cothi, wys? Yr oedd "Coth" yn un o feibion Caw, yr hwn oedd arwr dan y brenin Arthur. Fe allai mai yr un oeddynt.

Mae yn rhaid addef mai gwaith sych iawn ydyw treiddiaw i mewn i hen bethau fel hyn; ond O! pa mor werthfawr ydynt. Edrychwch gymaint o gymeriadau ysplenydd ydoedd yn enwogi Caio yn yr amser gynt! Ac efallai y bydd eu hadgyfodi fel yma, drwy ddangos y mawredd a'r bri a berthynai i'r pentref bychan hwn, yn foddion i gynhyrfu ei drigolion i ymestyn yn mlaen at ddyrchafu yr hen le eto i'w enwogrwydd cyntefig; ac yr ydym yn credu mai un cam da tuag at sicrhau hyay ydyw gweithgarwch a nawdd y boneddwr gwladgar John Johnes, Yswain, Dolau Cothi, perchenog yr Ogofau. Pe buasai y werin yn gyffredin yn gallu dyfod o hyd i waith y bardd gorohestawl Lewis Glyn Cothi, ni fuasem yn blino cymaint ar y darllenydd, nac yn myned i'r drafferth chwaith o'u had—ysgrifenu, nac i roddi cymaint o ddyfyniadau o honynt. Ond, yn herwydd fod copi o'r gwaith mor ddrud, ac yn wir mor brin, fel na cheir ef ond yn llyfrgelloedd ein prif lenorion, a chyfoethogion y tir, wrth roddi yr oll fel yma o'r farddoniaeth sydd yn perthyn yn neillduol i Gaio a'i hardaloedd, fe ellid gwneyd pamphled rhadlawn o honynt, felly fe fyddai o fewn cyrhaedd y werin. Pe gwnelid hyn â'r holl farddoniaeth hanesiol sy genym yn dwyn cysylltiad â gwahanol ardaloedd, fe fyddai yn symudiad canmoladwy, yn herwydd y rhesymau a roddasom yn barod. Llyma gywydd eto sydd yn llawn cyfeiriadau hanesyddawl, &c., wedi ei gyfeirio gan ein bardd i DAFYDD FYCHAN O GAIO

Nodiadau

golygu