Traethawd ar Gaio a'i Hynafiaethau/Pentref Cynwyl Gaio

Cyflwyniad Traethawd ar Gaio a'i Hynafiaethau

gan William Davies (Gwilym Teilo)

Sant Cynwyl
Wikipedia logo Mae erthygl parthed:
Cynwyl Gaeo
ar Wicipedia

PENTREF CYNWYL GAIO.

Ymddengys fod y pentref bychan a thawel hwn wedi bod yn enwawg iawn yn yr oesau a aethant heibio, ac wedi bod yn dref bwysig yn y Deheubarth. Dywed Lewis, yn ei "Topographical History of Wales," ei bod yn cael ei galw mewn rhai o'r hen ysgrifau yn "Caer Gaio."[1]

Y mae y gair "Caer" yn dangos fynychaf fod y lle hwnw ag sydd yn dwyn yr enw, wedi bod ryw amser yn cael ei amddiffyn naill ai gan gastell neu ryw adeilad milwrol arall. Gan fod amryw o hen olion hynafiaethol Rhufeinig yn ac o amgylch y pentref, mae yn rhaid fod y lle yn adnabyddus i'r genedl feiddgar hono. Yn ol traddodiad, yr oedd yma dref fawr wedi ei hadeiladu ganddynt, gan mwyaf o briddfeini cochion (bricks,) a'i bod yn adnabyddus yn herwydd hyny wrth yr enw "Y DREF GOCH YN NEHEUBARTH." (Gwel "Lewis's Wales" eto; dan yr enw "CONWYL Cayo.") Mae'n hawen eto yn anesmwyth, wrth weled y mawredd a berthynai gynt i'r lle hwn, a'r hwn sydd fel wedi ei lwyr ddileu. Gwrandewch hi!

"Dref Goch yn Neheubarth," —machludodd dy fawredd,
Nid ydyw yn aros dy falch rwysg yn awr!
Dygaerau a ddrylliwyd, dy furiau y’nt garnedd,
Yn gorwedd oll heddyw'n gyd-wastad â'r llawr!
Dy eang balasau, a'th lysoeddheirdd dedwydd,
Faluriwyd fel nad oes braidd olion i'w cael,
O'r manau y safent mewn gwychder ysplenydd,
Lle trigai dy arwyr, rai dewrion ac hael.

'Ry'm fel pe yn clywed rhyw erchyll floeddiadau,
Yn adsain hen ddyffrynyr Arnell, swn cad,
A thwrw'i thabyrddau fel trymawl daranau ,
A chrechweny bleiddiaid wrth dref Gaio fad ;
Tingciadau dur arfau, oer waedd y Rhufeinwr,
Mewn iaith anneallus,clywch drwst fel cwymp mur,
Clywch ruthr y gadgyrch! min -fin gledd pob milwr,
A Chaio yn syrthio i ddwylaw ein gwŷr!


Mae у ffaith fod llawer o'r priddfeini hyn wedi eu darganfod yn yr ardal hon yn ddiweddar, i raddau yn cadarnhau y traddodiad, neu'r ffaith . Heblaw hyn yna, mae yno lawer o leoedd sydd a'r geiriau neu enwau "Coch" a "Dref" yn nglŷn â hwynt. Yn nghymydogaeth y pentref y mae hen olion a elwir "Melin milwyr;" mae yn eithaf tebygol mai yma yr oedd y Rhufeiniaid, yn ystod eu harosiad yn y rhan hon o'r wlad, yn malu eu hŷd, &c. Nid oedd y milwyr Rhufeinig yn cael ymsegura, megys ag y mae milwyr Prydain yn y dyddiau presenol; gorfodid hwy pan na buasent yn dylyn eu "galwedigaeth", ysef rhyfela, i adeiladu tai, i falu ŷd, ac i wneyd ffyrdd o'r naill ran o'r wlad i'r rhan arall, y rhai a elwir yn awr yn "Sarnau." Ar y ffordd i Landdewi Brefi, y mae un o'r sarnau hyn i'w gweled yn awr. Yn ol rhai ysgrifenwyr gelwid hi "Sarn Helen," mewn an- rhydedd i Helena, mam Cystenyn Fawr. Mae ereill yn barnu mai llygriad ydyw yr enw, ac mai "Sarn Lleng" neu "Lleon," ydoedd ei hiawn enw. Y mae amyw o grugiau (tumuli) yn y gymydogaeth, yn enwedig wrth "Bont rhyd Remus." Gellir casglu yn mhellach, na fu y Rhufeiniaid yn segur iawn yn ardal Caio. Mawr oedd eu hanturiaeth! Hwy a dyllasant y creigiau er cael gafael yn y mwn aur cuddiedig, gan ffurfio rhai o'r ogofau mwyaf eang ac anferth a wnaethant yn ystod eu harosiad yn "Ynys Prydain, ysef "Ogofau Cynwyl Gaio."

Yspeilient y defaid o ael y mynyddau,
Lladratent gynyrchion diwydrwydd pob Haw;
Yn feiddgar anturient i agor y creigiau,
Fel eryr y gwelent ysglyfaeth o draw!
'Roedd "Melin y milwyr" malu cynyrchion
A godwyd drwy lafur a lludded a chwys
Ein tadau diniwaid, gan wasgar trallodion
I fynwes y palas, y bwth, a phob llys.


Gan ein bod yn awr yn trin. Pentref Caio, efallai mai nid gweithred hollol anfuddiol fyddai rhoddi rhyw gipolwg ar ei Heglwys, &c., cyn yr ymadawn â hi.

Fel pob peth a fu, mae amser wedi bod a'i law drom, yn dileu braidd yr oll o'r adeiladau penigamp a mawreddog ag ydoedd yn cyfansoddi yr hen "Gaer Gaiaw."

Cynwysa y plwyf oddeutu 2000 o drigolion, o ba nifer y mae oddeutu 125 yn gwneyd i fyny boblogaeth y pentref. Cynwysa 3 o siopau, 3 o dafarndai, 1 ysgoldy, 1 capel (Methodistiaid,) ac un Eglwys henafawl, yr hon sydd yn ddiweddar wedi cael ei thrwsio. a'i hadgyweirio gyda chwaeth a medrusrwydd canmoladwy. Cafodd ei hailagoryd gan y dysgedig Connop Thirlwall, Esgob Ty-ddewi, ar y 14eg o Ebrill, 1858.

Yr hen adeilad orwech ao urddasol hon ydyw yr unig un o bwys ag sydd yn tynu sylw yr ymdeithydd. Y mae yr adeiladaeth yn perthyn i'r dullwedd (style) Gothicaidd, ac a ystyrir yn hen iawn. Y mae hynafiaethwyr yn methu a phenderfynu yn mha gyfnod ei hadeiladwyd, yn herwydd absenoldeb unrhyw beth o bwys yn y muriau, &c., ag a fyddai yn debyg o arwain y dyb yn gywir at yr amser yr adeiladwyd hi. Y mae yn yr Eglwys hon ddau arlun cerfiedig (figures) yn noethion, y rhai a feddylir ydynt gerfluniau o Adda. ae Efa. Y mae clochdy mawreddawg a banawg yn nglŷn â'r Eglwys, yr hwn a ystyrir fel un o'r rhai uchelaf yn y sir, ac yn dangos yn ei adeiladwaith rywbeth tebyg i ddullwedd ein castelli. Meddylir nas gellir olrhain ei adeiladaeth yn mhellach yn ol na'r 12ed ganrif.[2] Y mae y tai ag sydd yn cyfansoddi y pentref bychan a phrydferth hwn, oll o adeiladwaith diweddar, ac yn edrych yn lanwedd. Y mae ei sefyllfa ar dipyn o godiad tir, a'r Afon Annell yn rhedeg ar y naill ochr iddo; a Nant Frena ar yr ochr arall iddi, yr hon sydd yn tarddu yn uniongyrchol o ucheldir "Brenach."[3] Ychydig bellder uwchlaw i'r pentref saif y ficerdy, mewn man prydferth yn nyffryn tlws yr Annell. Ceir golwg dra boddhaus oddiar ei ddrws; i'r ochr ddeheuol y mae y pentref, ei Eglwys a'i glochdy godidog yn dal y llygad; ac ar yr ochr aswy, y mae golygfa ddyddorol i'w chael ar dirweddau (sceneries) swynawl,—a dolydd ffrwythlawn a maesydd gwyrdd-wawr tlws ddyffryn yr Annell, yn estyn o'n blaen. Mae y goedwig ysplenydd a elwir "Coed- y-byllfa yn ymdoni yn awelon balmaidd Maihafhin, a chân yr adar yn adseinio bro a byn, yn fawl i'w Perydd am dymhor mor ogoneddus a hyfryd! Ychydig yn is i lawr y saif "Crug-y-bar."[4] Beth all ystyr yr enw hwn fod? Dywed rhai mai "heap of confusion" ydyw ei ystyr. Y mae haenau (strata) daearegol y lle yn ymddangos fel pe wedi bod dan gynhyrfiadau arswydus ryw amser. Mae gan yr Annibynwyr gapel prydferth yma. Y'n agos gyferbyn a "Chrug-y-bar" y saif "Bryn-y-garth"; y mae olion capel i'w ganfod yma. Y mae olion hen gapel arall i'w weled mewn cae perthynol i Brondeilo, ysef, capel Cwrt-y-cadno, ychydig yn is i lawr. Gelwir y cae, "Cae'r capel." Gellir casglu yn naturiol ei fod wedi ei enwi, neu ei gysegru, i Sant Teilo, yr hwn ydoedd un o seintiau mwyaf enwog yr Eglwys Frydeinig, ac yn Esgob Llandaf, o.c. 540, ac i'r hwn y mae cynifer o eglwysi a chapelau wedi eu cysegru yn esgobaethau Llandaf a a Thy-ddewi. Yn agos i Frondeilo, y tu arall i'r dyffryn, y mae hen balas Llanwrthwl. Y mae rhai hynafiaethwyr yn barnu fod Eglwys wedi bod yma ryw amser, a'i bod wedi ei chysegru i "Sant Wrthwl." Mae y ffaith fod hen ywen ardderchog i'w gweled yno yn awr, mewn cae tu draw i'r Annell, a chyferbyn a'r tŷ, yn profi i raddau pell fod hen gapel neu eglwys wedi bod yno yn yr amser gynt. Mae yn debyg ei bod yn hen arferiad cyn cred, cyn cof a chadw, i blanu coed Yw mewn mynwentydd, megys ag y gwelir yn ymylon yr hen gapelau henaf yn ein hynys. Y mae cae arall ar y tyddyn hwn, a elwir "Cae'r polion."[5] Cafwyd dwy o feddfeini yma, yr rhai a symudwyd yn ddiweddar, ac y maent i'w gweled yn awr ar y lawnt gyferbyn a'r Dolau Cothi, palas y boneddwr a'r gwladgarwr drwyddo hwnw, John Johnes, Yswain, un o brif noddwyr yr Eisteddfodau, a Chymru a Chymraeg. Y mae yn gerfiedig ar un o'r meini crybwylledig yr hyn a ganlyn:"Servator fidei patri æque semper amator, Hic Palinus jacet, cultor pientissimus Equi," neu yn debyg yn Saesoneg, "Here lies Paulinus, a most pious maintainer of justice, preserver of his religious principles, and constant lover of his country." Tybir mae cofebion ydynt y meini hyn ar feddau rhyw arwyr a syrthiasant yn "Mrwydr fawr Llanwrthwl," a ymladdwyd rhwng y Rhufeiniaid a'r Brutaniaid Mae yn bur debyg mai Rhufeiniaid oeddynt, o leiaf gellir casglu oddiwrth enw Paulinus mai Rhufeinwr ydoedd. Mae ereill yn barnu mai Paul Hen a feddylir. Hon efallai ydoedd y frwydr olaf a ymladdwyd yn y rhan hono o'r wlad, rhwng y Cymry a'r treisruthrwyr Rhufeinig. Mae ein hawen eto yn anesmwyth, ac yn barod i arllwys allan ei hyawdledd yn ffrwd o deimlad, gan lawenydd a gynyrcha y meddwl i̇'n cyndadau dewr a gwladgar gael perffaith oruchafiaeth ar y genedl feiddgar a chigyddlyd, a fu yn eu gormesu mor drwm am gynifer o flynyddau!

Am flinion flynyddau y gwnaethant ormesu
Y wlad oddiamglych âg haiarnaidd law;
Ein tadau o'ent gaethion dan iau yr estronlu,
A Chaio yn orsaf Rufeinig o fraw!
Ar ei heolydd y prangciai'r rhyfel-feirch
Rhufeinig, mor esmwyth a nwyfus eu carn ;
Fe welwyd y gelyn yn gyru'r dihefeirch,
Nes enyn y gwreichion yn fflamau o'r sarn.


Cadarnhau dy furiau wnaethant,
Gwnaed rhag-furiau cedyrn erch!
Teimlent sicrwydd mewn dyfodiant,
Adeiliadent gaerau derch;
Rhoi gwibdeithiau wnai'r treis-ruthwyr
Hyd y wlad mewn rhyfyg syn;
Gan yspeilio, erch ormeswyr,
Dda a defaid bro a bryn.


Cymru druan oedd yn huno,
Megys gwelir Etna boeth,
Cyn yindoro, cyn dylifo
Ei ddialedd tanllyd noeth;
Llwfr ydoedd ein dewr dadan,
Megys enyd, er eu grym,

Megys sarph grynoa'n dorchau
Cyn ymneidia'n gref a llym !

Nid oedd gobaith i'w gwaredu,
Arni taenodd noson ddu,
Eu gobeithion wedi pallu,
Gan mor gadarn oedd y llu;
Gwel'd yr eirth, fel corwynt deifiol
A ysgubai flodau gardd,
Yn dwyn ymaith eu meddiannau,
Pob peth gwerthfawr, pob peth hardd.


Yn nghanol y t'wyllwch, ha! wele ryw fellten
O fynwes wladgarawl rhyw hen fardd yn d'od,
A greodd ryw daran gynhyrfus yn wybren
Gwladgarwch y Cymry—mae'n awr fel erio'd
Yn enyn eu mynwes—cynhyrfai eu henaid
Yn fflamau o deimlad, o gariad a serch
At hen wlad eu tadau oedd 'nawr rhwng y bleiddiaid,
Yn ochain dan orthrwm a thrais Rhufain erch.

Ein gwlad, a gaiff Rhufain dy drymaidd ormesu,
A chochwaed ein tadau yn berwi'n ein bron ?
A wnawn ni ymostwng fel hyn idd ein sathru
Dan draed y barbariaid, Na! medd y fraich hon!
Atynt wroniaid! yn rhydd o'r cadwynau,
Ymlamwch i'w herbyn fel un nerthol dòn!
Y cleddyf a'r bicell, y bwa a'r saethau,
Gânt heddyw ddwyn eto ein rhyddid i'n côl!
Banerau cyfiawnder uwch ini sy'n chwarau,
Ymruthrwch! ymruthrwch, na foed un ar ol!

Adsain y geiriau wnaeth gwbl ddihuno,
Dewr—feib yr ynys sy 'nawr o gylch Caio!
Rhwng creigiau y Cothi, mae'r gân fel diareb,
Clogwyni moelwylltion y wlad sy'n cyd—ateb !
Uchelfloedd "I'r gadgyrch," ein rhyddid neu angau!
"I'r gadgyrch," wroniaid, sy'n adsain y creigiau!
Clyw'r meirch yn gweryru! tarandrwst eu carnau
A glywir, a thingcian cyffrous yr arfau !
Banllefawg floeddiadau brwdfrydig ein harwyr
Sy'n rhuo nes crynu y ddaear a'r awyr!
"Ein rhyddid o ddwylaw y gwaedlyd Rufeinlu,
Neu'n gwaed fyddo heddyw o'n hamgylch yn ceulu!
Ein cyrph fyddo'n balmant i draed y Rhufeiniaid,
Os ni ni enillwn hen Gaio, wroniaid!"
Ofnadwy y ddyrnod wasgarant i rengau
Cadarnaf y gelyn, celanedd ac angau


Sy'n arwain pob llymsaeth i galon y gelyn.
Gwel! gwel y cyffro-y gwylltio a'r dychryn,
Sy'n meddu eu mynwes,-fel llew yn ei goedwig
Yw'r Cymry yr awrhon i'r eryr Rhufeinig.
Gwel y Rhufeiniaid yn gorwedd yn haenau,
A'u gwaed yn amgylchu eu hoer-gyrph yn dorchau;
"Paulinus" falch lywydd, a'r milwyr cyffredin,
A gyd-ymgymysgant eu gwaed yn y dyffryn!
Y meirch a'r marchogion y rhai oe'nt mor hylwydd,
A gyd-ddisgynasant i freichiau dystawrwydd !
"Buddugoliaeth!" yr udgyrn a seiniant,-
Gyrasom wŷr Rhufain fel gwellt gan lifeiriant;
Hen Gaio a gawsom, a'n tref achubasom,
O grafange y gelyn ein gwlad enillasom!

Fe gododd y lloerwen yn brudd y nos hono,
Uwch ben maes Llanwrthwl 'roedd trymder y bedd;
Dangosai ei marwaidd belydron digffyro
Oer lwmgyrph Rhufeiniaid yn welwon eu gwedd.
Roedd gwaed yr estroniaid yn llif hyd y ddaear,
Yn haenau gorweddent yn feirwon, O! fraw,
Y lloer a ddysgleiriai'u helmetau trylachar,
A'u harfau dywynent fel fflamau o draw!


Nodiadau

golygu
  1. Gelwid hi Caer Gaio yn amser Llywarch Hen, o.c. 520 hyd 630 megys:—
    Lluest Cadwallawn tra Chaer
    Caiaw, byddin ac ynnwru taer,
    Can' cad a thori can' caer.
  2. Gwel yr Archæologia Cambrensis, III. Series, page 300
  3. Gwel Attodiad
  4. Gwel Attodiad
  5. Cae Pawlin, neu Paulinus, efallai.